Rheoli cyllid rhywun arall

Efallai y bydd angen i chi reoli arian rhywun arall oherwydd:

  • salwch neu anabledd, naill ai dros dro neu ar sail hirdymor
  • yr anallu i wneud penderfyniadau, oherwydd salwch meddwl neu resymau eraill

Ni all neb reoli cyllid rhywun arall heb ei ganiatâd.

Os oes gan yr unigolyn alluedd a'i fod yn dymuno enwebu rhywun arall i reoli ei gyllid cyn iddo golli'r gallu meddyliol i wneud hynny ei hun, mae ychydig o opsiynau ar gael - gweler Penodeiaeth ac Atwrneiaeth Arhosol (isod). 

Os yw'r unigolyn eisoes wedi colli galluedd, yna mewn rhai amgylchiadau bydd angen i'r Llys Gwarchod benodi Dirprwy.

Os nad oes gan yr unigolyn swm sylweddol o arian yn y banc/cymdeithas adeiladu/bondiau premiwm ac ati, a'r unig beth sydd ei angen mewn gwirionedd yw penodi rhywun i reoli ei bensiwn/budd-daliadau, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn caniatáu i rywun weithredu fel penodai ar ei ran.  Dim ond casglu a gweinyddu budd-daliadau'r unigolyn hwnnw y bydd y penodai yn ei wneud; nid yw'n rhoi'r awdurdod i'r penodai reoli pob agwedd ar gyllid y person arall. I gael rhagor o wybodaeth am benodeiaeth, ewch i

gov.uk

Er mwyn galluogi rhywun i weithredu ar eich rhan i reoli eich cyllid, naill ai nawr, neu yn y dyfodol, efallai y byddwch am benodi person dibynadwy fel Atwrneiaeth Arhosol (ar gyfer Eiddo a Chyllid). 

Mae gan Lywodraeth y DU wefan sy'n rhoi canllawiau pellach ar sut i wneud pŵer atwrnai parhaol.

gov.uk

Bydd yna gyfnodau pan na fydd gan yr unigolyn sydd fel arfer yn rheoli ei gyllid ei hun y gallu meddyliol i wneud hynny mwyach.

Os oes gan unigolyn ddigon o arian yn y banc/cymdeithas adeiladu/bondiau premiwm neu eiddo ac ati ac y mae'n angenrheidiol i rywun allu cael mynediad at yr arian hwnnw a'i incwm, megis budd-daliadau a phensiynau ac ati (e.e. i dalu biliau), yna efallai y bydd hi'n bosibl gwneud cais i lys (a elwir yn Llys Gwarchod) er mwyn penodi rhywun yn Ddirprwy i reoli materion ariannol y person arall. 

Dim ond os nad oes gan unigolyn y gallu meddyliol mwyach i reoli ei faterion ariannol ei hun y gellir penodi rhywun yn Ddirprwy dros ei eiddo. 

Yn ogystal, ni ellir penodi dirprwy os yw person eisoes wedi gwneud atwrneiaeth arhosol ddilys, fel y disgrifir uchod, neu atwrneiaeth barhaus. 

Wrth wneud cais am ddirprwyaeth, rhaid hefyd ystyried bod hynny er budd gorau'r unigolyn.

Os nad oes angen i berson ymwneud yn barhaus â chyllid unigolyn, er enghraifft os mai'r unig ased sydd ganddo yw eiddo ac y mae angen ei werthu, efallai na fydd gwneud cais am ddirprwyaeth yn briodol. Mewn amgylchiadau o'r fath, mae'n bosibl gofyn i'r Llys Gwarchod am orchymyn i awdurdodi'r gwerthiant yn lle Byddai hyn hefyd yn berthnasol os oes angen awdurdod ar rywun i derfynu tenantiaeth.

Mae bob amser yn well gan y Llys Gwarchod fod aelodau'r teulu neu ffrindiau yn gwneud cais am Ddirprwyaeth. Gall y syniad o wneud cais i'r Llys beri cryn bryder weithiau. Y peth cyntaf i'w ddweud yw ei bod hi'n dra annhebygol y bydd yn rhaid i chi fynychu'r llys fel aelod o’r teulu neu ffrind.  Mae'r rhan fwyaf o'r mathau hyn o geisiadau yn cael eu gwneud heb i chi erioed weld barnwr. Er mwyn gwneud cais, mae'n rhaid llenwi rhai ffurflenni, ac fel aelod o'r teulu rydym yn gwerthfawrogi y gall hyn gymryd cryn dipyn o amser ac nid yw'r ffurflenni bob amser yn hawdd i'w llenwi. O ganlyniad, bydd ein tîm cydymffurfio ac archwilio gwasanaethau cymdeithasol yn eich helpu i lenwi'r ffurflenni a sicrhau bod y ffurflenni cywir yn cael eu hanfon i'r llys.

Pryder arall i deuluoedd a ffrindiau yw bod ffi'r llys yn cael ei chodi am wneud cais ac mae'r ffi honno'n ddrud  iawn. Y broblem yw bod angen i chi fod yn ddirprwy er mwyn cyrchu cyfrif banc yr unigolyn, ond ni allwch fod yn ddirprwy oni bai eich bod yn talu ffi’r llys.

Rydym fel awdurdod lleol yn gallu cynnig help i deuluoedd drwy sicrhau bod benthyciad ar gael er mwyn talu am ffi'r llys. Mae'r aelod o'r teulu sy'n gwneud cais yn cael benthyg yr arian a bydd yr aelod hwnnw'n ad-dalu'r benthyciad dim ond pan fydd

  • y gorchymyn dirprwyaeth wedi'i wneud neu
  • pan fydd aelod y teulu'n penderfynu peidio â mynd ymlaen â'r cais ymhellach, neu
  • pan fydd yr awdurdod lleol yn mynnu ad-daliad.

Os na chaiff y benthyciad ei ad-dalu cyn pen 30 diwrnod o'r diwrnod dyledus, bydd yr awdurdod lleol yn codi llog.

Bydd yr awdurdod lleol dim ond yn cynnig benthyciad os cydymffurfir ag amodau penodol:

  • Nid oes gan yr unigolyn y mae angen rheoli ei gyllid a/neu ei eiddo y galluedd meddyliol i reoli ei gyllid ei hun;
  • Nid yw'r person wedi gwneud atwrneiaeth ddilys o roi awdurdod i rywun arall reoli ei gyllid;
  • Mae gan yr unigolyn nad yw'n gallu rheoli ei gyllid mwyach ddigon o arian i gyfiawnhau gwneud cais am ddirprwyaeth (bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu a oes digon o arian ganddo);
  • Mae'n rhaid bod yr unigolyn, nad yw bellach yn gallu rheoli ei gyllid a/neu eiddo, yn derbyn gofal a chefnogaeth gan yr awdurdod lleol, trwy gynllun gofal a chymorth.
  • Mae'r awdurdod lleol o'r farn eich bod chi yn briodol i wneud cais am ddirprwyaeth; er enghraifft, ni fyddai awdurdod lleol fel arfer yn ystyried unrhyw un sydd â chollfarnau troseddol am ddwyn, fel un sy'n briodol i wneud cais.
  • Ystyrir bod gwneud cais dirprwyaeth er budd gorau'r unigolyn.
  • Mae tystiolaeth ddigonol yn cadarnhau nad oes gennych yr adnoddau ariannol i dalu ffi’r llys heb gael benthyciad gan yr awdurdod lleol.
  • Rydych chi'n ymrwymo i gytundeb benthyciad gyda'r awdurdod lleol, ac mae copi o'r cytundeb ar gael.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ar sut y gallwn ni eich cefnogi chi i wneud cais am Ddirprwyaeth, cysylltwch â'r Tîm Archwilio a Chydymffurfio 01267 228850, neu trwy e-bost SCHDirectpayments@carmarthenshire.gov.uk