Talu am Ofal

Codir tâl yn seiliedig ar asesiad ariannol am wasanaethau fel:

  • Gofal Cartref
  • Taliadau Uniongyrchol
  • Gofal Ychwanegol
  • Gofal tymor byr/seibiant a ddarperir mewn cartref gofal (am hyd at 8 wythnos)
  • Gofal Dydd
  • Byw â Chymorth
  • Lleoli Oedolion - Lleoliad Tymor Hir
  • Lleoli Oedolion - Lleoliad Tymor Byr/Seibiannau Byr
  • Lleoli Oedolion - Gofal Dydd/Gofal Sesiynol
  • Gofal Amgen
  • Cymorth Cymunedol

Mae'r gwasanaethau uchod yn cael eu hystyried yn rhai dibreswyl a bydd angen i weithiwr cymdeithasol eich asesu i dderbyn y gwasanaethau hyn drwy'r cyngor.  Yna cewch eich gwahodd i gael asesiad ariannol i benderfynu faint y byddwch yn ei dalu tuag at y gwasanaethau hyn.

Mae'r swm y byddwch yn ei gyfrannu tuag at y gwasanaethau hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol ac ar faint o wasanaethau a'r math o wasanaethau y mae eu hangen arnoch yn ôl eich asesiad. Mae rhai pobl yn talu'r tâl llawn am eu gwasanaethau a aseswyd, hyd at uchafswm o £100.00 yr wythnos, bydd rhai'n talu rhywfaint, ac ni fydd eraill yn talu dim.

Bydd y gofal yn rhad ac am ddim:

  • os ydych yn derbyn gwasanaethau ôl-ofal a fydd yn cael eu darparu o dan Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
  • os ydych yn oedolyn sydd wedi cael diagnosis fod gennych CJD
  • os ydych yn derbyn gwasanaeth ailalluogi gan yr awdurdod hwn (am hyd at 6 wythnos, neu hyd nes y bydd yr anghenion gofal tymor hir yn cael eu nodi, os bydd hyn yn gynharach. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ar ôl i'r anghenion gofal tymor hir gael eu nodi, gan ddibynnu ar ganlyniad eich asesiad ariannol)
  • neu os caiff eich gwasanaethau eu cyllido drwy Ofal Iechyd Parhaus gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

Bydd canlyniad asesiad ariannol yn pennu'r union swm sydd i'w dalu, ond beth bynnag, yr uchafswm y gofynnir i unrhyw un ei dalu yw £100 yr wythnos ar hyn o bryd (2024/25)

Mae'r cyngor yn codi tâl cyfradd safonol am wasanaethau eraill hefyd fel:

  • Prydau bwyd mewn canolfannau gofal dydd
  • Gwasanaethau golchi dillad
  • Llinell Gofal

Mae'r cyngor yn codi tâl cyfradd safonol am wasanaethau sy'n ymwneud â chostau byw o ddydd i ddydd.  Mae'r tâl hwn yn cael ei dalu ar yr un gyfradd gan bawb sy'n derbyn y gwasanaethau hyn.  Bydd pawb yn talu'r taliadau hyn, beth bynnag fydd canlyniad eu hasesiadau ariannol.  Dyma'r gwasanaethau:

Gwasanaeth

Tâl a godir

Asesiad Ariannol

Prydau bwyd / byrbrydau mewn canolfannau gofal dydd

£9.00 y dydd*

 Tâl cyfradd safonol

Prydau cymunedol

 £6.50 yr wythnos

 Tâl cyfradd safonol

Delta ar Brydles (Llinell Gymorth) - monitro yn unig

 £20.30 y chwarter

 Tâl cyfradd safonol

Delta ar Brydles (Llinell Gymorth) - monitro a larwm gwddf

 £66.09 y chwarter

 Tâl cyfradd safonol

Delta ar Brydles (Llinell Gymorth) - monitro a 2 larwm gwddf

 £80.97 y chwarter

 Tâl cyfradd safonol

Delta Connect - un person yn y cartref yn defnyddio'r gwasanaeth

 £91.12 y chwarter

 Tâl cyfradd safonol

Delta Connect - dau berson yn y cartref yn defnyddio'r gwasanaeth

 £140.01 y chwarter

 Tâl cyfradd safonol

Golchi dillad

 £3.50 y llwyth

 Tâl cyfradd safonol

 

Codir tâl am y gwasanaethau isod yn dibynnu ar ganlyniad eich asesiad ariannol a faint o wasanaethau a'r math o wasanaethau yr aseswyd bod eu hangen arnoch.

Gwasanaeth

 Tâl a godir

 Asesiad Ariannol

Gofal Cartref

 £22.00 yr awr

 Wedi'i gynnwys yn yr asesiad ariannol

Taliadau Uniongyrchol (yn lle gwasanaeth y codir tâl amdano)

 £15.50 yr awr/£110.80 y noson 

 Wedi'i gynnwys yn yr asesiad ariannol

Gofal tymor byr (mewn Cartref Gofal)

 Tâl safonol/Cyfradd Lleoliad y Sector Annibynnol

 Wedi'i gynnwys yn yr asesiad ariannol

Teleofal

 £4.90 yr wythnos

 Wedi'i gynnwys yn yr asesiad ariannol

Gofal Ychwanegol

 £22.00 yr awr

 Wedi'i gynnwys yn yr asesiad ariannol

Gofal Dydd

 £21.60 y sesiwn*

 Wedi'i gynnwys yn yr asesiad ariannol

Byw â chymorth

 £22.00 yr awr

 Wedi'i gynnwys yn yr asesiad ariannol

Lleoli Oedolion - Lleoliad Tymor Hir

 £21.60 y noson

 Wedi'i gynnwys yn yr asesiad ariannol

Lleoli Oedolion - Lleoliad Tymor Byr/ Seibiannau Byr

 £21.60 y noson

 Wedi'i gynnwys yn yr asesiad ariannol

Gofal Amgen

 £22.00 yr awr

 Wedi'i gynnwys yn yr asesiad ariannol

Cymorth cymunedol

 £22.00 yr awr

 Wedi'i gynnwys yn yr asesiad ariannol

*Diffinnir un sesiwn Gofal Dydd fel a ganlyn:

  • Gwasanaeth a dderbynnir cyn 1pm ar unrhyw ddiwrnod, am unrhyw gyfnod o amser
  • Gwasanaeth a dderbynnir rhwng 1pm a 6pm ar unrhyw ddiwrnod, am unrhyw gyfnod o amser
  • Gwasanaeth a dderbynnir ar ôl 6pm ar unrhyw ddiwrnod, am unrhyw gyfnod o amser

*Bydd y tâl am brydau bwyd/byrbrydau mewn Canolfan Ddydd yn cael ei dalu gan bawb sy'n ei mynychu a hynny'n ychwanegol at y tâl am fynychu'r Ganolfan Ddydd (bydd 2 anfoneb ar wahân yn cael eu cyflwyno).

Nodwch fod yr wythnos codi tâl yn rhedeg o Ddydd Llun i Ddydd Sul, felly byddai un noson o Ofal Seibiant/Gofal Tymor Byr mewn cartref gofal yn ystod wythnos lle codir tâl yn cael ei godi ar sail y tâl a aseswyd ar eich cyfer. Dangosir y tâl hwnnw ar y Datganiad o Asesiad Ariannol - a roddir i chi - ac mae'n bosibl mai'r tâl uchaf presennol fydd hwn – hynny yw, gallech dalu £100 am un noson mewn cartref gofal.  Codir tâl wrth yr wythnos sy'n rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul.

Byddwch yn cael cynnig asesiad ariannol i benderfynu faint y byddwch yn ei dalu am y lleoliad. Bydd yn dibynnu ar eich cyfalaf, eich incwm a lwfansau/diystyriadau. Os oes gennych gyfalaf sy'n fwy na'r trothwy cyfalaf uchaf o £24,000 (2024/25) neu nad ydych am ddatgelu eich asedau, byddwch yn cael eich asesu i dalu cost lawn eich gofal, hyd at yr uchafswm tâl.

Ni fydd neb yn talu mwy na'r tâl a godir am y gwasanaethau y byddant yn eu derbyn yn ôl yr asesiad ac ni fydd y tâl yn fwy na'r uchafswm tâl wythnosol o £100 yr wythnos.  (2024/25)

Nid yw gwerth eich prif gartref (y cartref yr ydych yn byw ynddo) yn cael ei gyfrif fel rhan o'ch cyfalaf, ond mae tir, neu ran o dir, neu ail eiddo rydych yn berchen arno neu'n berchen arno ar y cyd yn cael eu cyfrif fel ased cyfalaf. 

Os ydych wedi trosglwyddo unrhyw gynilion, arian neu asedau eraill i rywun neu wedi gwerthu eiddo am lai na'i werth cyn derbyn gofal, neu tra byddwch yn derbyn gofal, efallai y byddwn yn eich asesu fel petaech yn dal i fod â gwerth llawn yr ased.   Efallai y bydd person sy'n manteisio yn dod yn atebol am unrhyw daliadau sydd heb eu talu.

Byddwn yn gofyn i chi am amseriad y trosglwyddiad, y rheswm am ei wneud, pwy yw'r derbynnydd a gwerth ariannol y trosglwyddiad a byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i seilio ein penderfyniad ynghylch a yw'r ased yn cael ei gynnwys neu ei ddiystyru o'r asesiad ariannol.

Codir tâl arnoch (os asesir bod angen i chi dalu) o'r diwrnod cyntaf y darperir y gwasanaeth(au), ond ni chaiff yr anfoneb gyntaf ar gyfer taliadau gofal ei chyflwyno hyd nes y cewch ddatganiad sy'n manylu ar sut y cyfrifwyd y tâl. 

Lwfansau a diystyriadau

Fel rhan o'ch asesiad ariannol, ystyrir eich holl incwm ond diystyrir rhai mathau o incwm o'r asesiad ariannol. Y prif lwfansau neu ddiystyriadau yw:

  • Unrhyw enillion cyflogaeth
  • Lwfans Gofalwr
  • Budd-dal Plant
  • Taliadau Bonws y Nadolig
  • Y Dreth Gyngor
  • Credyd Treth i Bobl Anabl
  • Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol
  • Elfen Symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl a'r Taliad Annibyniaeth Bersonol (o'i gymharu â'r elfen ofal) ac atodiad symudedd y Pensiwn Rhyfel
  • Treuliau a delir yn y gwaith
  • Taliadau i Gyn-garcharorion Rhyfel y Dwyrain Pell a thaliadau Niwed trwy Frechiad
  • Rhent/Morgais
  • £10 cyntaf pensiynau rhyfel gwraig weddw/gŵr gweddw, Taliadau Incwm Gwarantedig goroeswyr o dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog, pensiwn Anaf Rhyfel i Sifiliaid a thaliadau i ddioddefwyr erledigaeth Sosialaidd Genedlaethol.
  • Gwerth eich cartref (sylwer: nid eiddo ychwanegol, nac unrhyw dir sy'n eiddo i chi)
  • Pensiwn atodol Gweddwon Rhyfel
  • Taliadau Tanwydd Gaeaf
  • Credyd Treth i Deuluoedd sy'n Gweithio
  • Pensiwn Anabledd Rhyfel
  • Hyd at £5.75 cyntaf Credyd Cynilion
  • 50% o bensiwn preifat/galwedigaethol lle rydych yn rhoi o leiaf 50% o'r pensiwn i'w priod/partner i dalu eu costau byw

Mae Gwariant Cysylltiedig ag Anabledd hefyd yn cael ei ddiystyru.

Asesiadau Ariannol ar y Cyd

Bydd yr asesiad ariannol yn cael ei gynnal ar y person sydd i dderbyn y gwasanaeth neu'r gwasanaethau cymdeithasol dibreswyl. Dim ond yr incwm a'r cyfalaf y mae gan y person hwnnw hawl iddynt fydd yn cael eu hystyried. Os yw'r cyfalaf/buddsoddiadau ac ati ganddynt ar y cyd â rhywun arall yna cânt eu dosrannu'n gyfartal neu ar sail hawl os yw'r cofnodion a ddarperir yn dangos rhywbeth gwahanol. Os oes budd-daliadau'n cael eu talu ar sail ‘pâr’ yna bydd y swm a delir i'r person sy'n derbyn gwasanaeth yn cael ei ystyried yn y broses asesu ariannol. 

Os oes rhywun arall yn byw gyda chi yn yr un cyfeiriad bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau na fydd incwm yr aelwyd yn is na'r lefel a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.  Byddai asesiad ariannol yn cael ei gynnig i'r person arall/y bobl eraill sy'n byw yn y tŷ a gallai'r canlyniad olygu y byddai'r un sy'n derbyn y gwasanaeth yn talu llai.

 

Os ydych yn credu bod eich tâl wedi cael ei asesu'n anghywir yna cysylltwch â'r Tîm Asesiadau Ariannol. Bydd Swyddog yn bwrw golwg dros eich asesiad i sicrhau bod yr holl ffigurau'n gywir ac nad oes unrhyw wybodaeth berthnasol ar goll.  Os ydych yn dal yn anhapus â'r canlyniad, gallwch ofyn i reolwr wirio'r asesiad.  Os ydych yn dal yn anhapus ar ôl hyn, gallwch wneud cais am adolygiad ffurfiol ynghylch y penderfyniad a gall staff y Tîm Asesiadau Ariannol Dibreswyl esbonio'r camau y dylech eu dilyn nesaf.

Hefyd gallwch ofyn i rywun y tu allan i'r Cyngor fwrw golwg dros y cyfrifiadau (e.e y Ganolfan Cyngor ar Bopeth).

Os asesir bod angen gofal a chymorth arnoch, gallwch dderbyn taliad uniongyrchol yn lle gwasanaeth er mwyn i chi allu trefnu eich gofal eich hun.   Mae Taliadau Uniongyrchol yn ei gwneud hi'n bosibl i chi brynu'r gwasanaethau yr aseswyd bod arnoch eu hangen, mewn ffordd sy'n rhoi mwy o ddewis a rheolaeth i chi. 

Dylech roi gwybod i ni os bydd eich incwm/budd-daliadau'n cynyddu neu'n gostwng, os byddwch yn cael unrhyw incwm/budd-daliadau newydd, os byddwch ar eich ennill yn ariannol yn sgil etifeddu neu unrhyw drosglwyddiad arall, neu os yw eich cynilion/cyfalaf wedi codi'n uwch neu'n is na'r trothwy cyfalaf uchaf (gweler y trothwy cyfalaf presennol ar dudalen 12) neu os bydd treuliau newydd neu ychwanegol gennych yn sgil newid yn eich anghenion gofal.

Os asesir bod angen i chi dalu rhywfaint at eich gofal byddwn yn rhoi gwybod i chi sut y gallwch dalu pan fyddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau canlyniad eich asesiad ariannol.

Os na thelir yr anfoneb(au) o hyd, bydd yr Awdurdod Lleol yn mynd ar drywydd y rhain drwy ei drefniadau adennill dyledion.

Mae'r awdurdod yn codi llog mewn rhai amgylchiadau. Pan fydd rhywun wedi marw, bydd yr awdurdod yn codi llog ar yr holl ddyled sydd heb ei thalu o 91 diwrnod ar ôl i'r defnyddiwr gwasanaeth farw. Mae amgylchiadau eraill pan fydd yr adran yn gallu codi llog ar ddyled, e.e. pan fo'r dyledwr yn gwrthod talu am ofal yn fwriadol er bod ganddo'r modd ariannol i wneud hynny. Mae pob achos yn cael ei ystyried ar sail unigol.

Os dymunwch gysylltu â'r Cyngor ynghylch eich taliadau yna gallwch ysgrifennu at y canlynol neu eu ffonio:

Tîm Asesiadau Ariannol

Adran Cymunedau

Cyngor Sir Caerfyrddin

3 Heol Spilman

Caerfyrddin

SA31 1LE

Ffôn: 01267 228683

E-bost: asesiadauariannol-gofaldibreswyl@sirgar.gov.uk