Nam ar y golwg a'r clyw

Mae amryw o wasanaethau yn darparu cyngor a chefnogaeth ar fyw'n annibynnol ar gyfer oedolion sydd â nam ar y synhwyrau. Rydyn ni’n cynnig cymorth ac arweiniad i oedolion sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, sydd:

  • â nam ar y golwg, nam ar y clyw, neu'r ddau
  • yn gofalu am bobl sydd â nam ar y golwg neu ar y clyw..

Sut allwn ni eich cefnogi?

Drwy weithio gyda gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eraill yn Sir Gaerfyrddin gallwn eich helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch. Bydd hyn yn dechrau gyda thrafodaeth am eich anghenion gofal a chefnogaeth, a gall gynnwys cyfarpar ac addasiadau i'ch cartref.

Er enghraifft, os ydych chi'n fyddar neu'n drwm eich clyw efallai y byddwch yn cael problemau rhwystredig yn y cartref. Efallai bod angen i chi droi sain y teledu’n uchel, neu efallai na fyddwch bob amser yn clywed y ffôn neu gloch y drws. Efallai y bydd rhai anawsterau ymarferol eraill a achosir gan eich problemau clyw. Os yw unrhyw un o'r sefyllfaoedd hyn yn berthnasol i chi, yna mae'n debygol y byddwch yn gymwys i gael asesiad ar gyfer gofal a chymorth gan Gyngor Sir Caerfyrddin a allai helpu gyda darpariaeth offer arbenigol.

Os oes gennych broblem gweld, mae gennym weithwyr arbenigol - Swyddogion Adfer golwg - a gallan roi gwybodaeth a chyngor ichi ynghylch cael eich cofrestru fel un sydd â nam ar y olwg neu sydd â nam difrifol ar y golwg. Gallwn helpu i hybu eich hyder drwy ddarparu hyfforddiant o ran symudedd i’ch galluogi i deithio’n ddiogel, a darparu sgiliau bywyd bob dydd i’ch galluogi i barhau gyda'ch tasgau o ddydd i ddydd. Mae modd cael benthyg offer a all fod o gymorth i chi gyda’ch nam ar y golwg. Gallwn ddysgu ffyrdd gwahanol o gyfathrebu ichi a rhoi therapi golwg gwan ichi gyda'r chwyddwydrau newydd a ragnodwyd ichi.

Cael gwasanaethau

Os ydych yn ei chael yn anodd cael gwasanaethau oherwydd nam ar eich synhwyrau mae gennym staff hyfforddedig a allai’ch helpu chi.

Os bydd angen, gallwn eich helpu i gael Dehonglydd Iaith Arwyddion, Gwefus-Lefarydd, neu fath arall ar gymorth cyfathrebu mewn unrhyw apwyntiadau pwysig sydd gennych. 

Os ydych yn aml yn cael anawsterau gyda chyfathrebu, gallwn roi fanylion o fudiadau eraill sydd yn roi cyngor ynghylch unrhyw fudd-daliadau y gallai fod gennych hawl iddyn nhw.

GWNEUD CAIS AM ASESIAD