Cwestiynau Cyffredin am Gysylltu Bywydau
Diweddarwyd y dudalen ar: 04/06/2024
Fel gofalwr Cysylltu Bywydau Gorllewin Cymru (WWSL), gallwch ddarparu cymorth i hyd at 3 unigolyn, gall hyn fod yn gymysgedd o leoliadau tymor hir a thymor byr.
Rydym yn datblygu'r gwasanaeth hwn ar hyn o bryd; edrychwn ymlaen at gynnig rhywbeth cyn bo hir.
Gall, ond efallai y bydd rhai amodau, ac efallai y bydd angen i'r unigolyn gyfrannu.
Bydd y gwasanaeth gofal cymdeithasol a/neu weithwyr proffesiynol yn ymwneud â'r holl unigolion sy'n cael eu paru, lle mae risgiau'n cael eu hystyried a'u dogfennu. Mae hyn hefyd yn cynnwys sicrhau bod gennych y sgiliau a'r wybodaeth gywir i ddiwallu eu hanghenion.
Mae hyn yn dibynnu, fodd bynnag, fel rhan o'ch lwfans WWSL mae'n rhaid i chi ddarparu 3 phryd y dydd; felly, efallai y bydd angen i chi gyfrannu at y pryd o fwyd pan fyddwch allan.
Nac oes, er bod hynny yn fantais, rydym yn derbyn bod profiad bywyd hefyd yn bwysig, fodd bynnag, byddwn yn darparu hyfforddiant i chi.
Darperir hyfforddiant llawn o ran diogelu, meddyginiaeth a llawer o feysydd eraill fel rhan o'n rhaglen sefydlu helaeth.
Bydd yr holl hyfforddiant gorfodol yn cael ei gwblhau cyn i unigolyn gael ei baru â chi. Lle bynnag y bo modd, darperir hyfforddiant wyneb yn wyneb, fodd bynnag, gallwn eich helpu i fynd ar-lein. Bydd milltiroedd/treuliau teithio yn cael eu had-dalu. Byddwn hefyd yn darparu hyfforddiant pwrpasol i ddiwallu anghenion unigolyn.
Nid ar hyn o bryd, fodd bynnag, rydym yn ymchwilio i'r ddarpariaeth hon i helpu pobl mewn argyfwng.
Ydych, yn dibynnu ar y rhybudd a'r amgylchiadau.
Ydy, fodd bynnag, efallai y bydd hwn hefyd yn cael ei ddarparu fel rhan o'i gynllun gofal a chymorth.
Nac oes, mae hyn ar gyfer unigolion ac nid gofalwyr Cysylltu Bywydau.
Mae hyn yn dibynnu ar lawer o ffactorau, sy'n cynnwys geirdaon, gwiriadau meddygol a DBS, fodd bynnag, gobeithiwn eich cymeradwyo o fewn 3 - 6 mis.
Gallwch, rydym yn deall efallai fod gan bobl orffennol, fodd bynnag, rydym yn edrych ar y person rydych chi nawr a'ch cyflawniadau ers hynny.
Fel aelod o WWSL, byddwch yn cael cymorth gan Cysylltu Bywydau +, gallwch wneud cais am Gerdyn Golau Glas a chofrestru fel gofalwr gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae cydlynwyr ardal yn trefnu cyfarfod grŵp i hyrwyddwyr bob 3 mis, mae hwn yn gyfle gwych i chi gwrdd â gofalwyr ac unigolion eraill, datblygu cydweithio a chefnogi eich gilydd.
Rydym ni yn Cysylltu Bywydau yn gweithio i gael perthnasoedd agored a chadarnhaol gyda'n gofalwyr, rydym yn cynnal o leiaf 4 ymweliad statudol y flwyddyn ac 1 yn ddirybudd, lle rydym yn cofnodi ac yn monitro pob lleoliad i sicrhau ei fod yn bodloni ein rheoliadau.
Mae anghenion yr unigolion yn amrywio. Rydym yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu, salwch/iechyd meddwl, nam ar y synhwyrau, anableddau corfforol a llesiant sy'n gysylltiedig ag oedran. Byddwn yn darparu hyfforddiant a chymorth perthnasol ac yn cynnal proses baru ofalus.
Mae'r timau cymunedol yn adnabod yr unigolion a bydd eu hasesiadau a'u cynlluniau gofal a chymorth yn cael eu rhannu gyda'n gofalwyr. Dylai hwn fod yn asesiad sy'n aml yn dilyn cwrs bywyd unigolyn ac sy'n cynnwys gwybodaeth am yr unigolyn.
Ni allwn roi cyngor am lwfansau trethi personol ond gallwch ymweld a’r wefan Llywodraeth DU am arweiniad.