Cysylltu Bywydau
Pwy ydym ni
Rydym yn wasanaeth cymorth i bobl dros 18 oed sydd eisiau cymorth i fyw’n annibynnol yn eu cymuned, gyda chefnogaeth gofalwr Cysylltu Bywydau. Rydym yn wahanol i ofal dydd, byw â chymorth a gofal preswyl ac rydym yn gwasanaethu cymunedau ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
Mae ein cynllun wedi bod ar waith ers dros 20 mlynedd, ac mae’n darparu llwyth o drefniadau tymor hir a thymor byr bob blwyddyn. Fe'n cynhelir gan grŵp ymroddedig o ofalwyr Cysylltu Bywydau sy’n arbenigo mewn gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth, cyflyrau iechyd meddwl, yn ogystal â'r rheiny sy'n camu i lawr o wasanaethau ysbyty, pobl â dementia a phobl hŷn.
Mae tîm Cysylltu Bywydau Gorllewin Cymru yn cynnwys gweithwyr proffesiynol profiadol sydd â phrofiad ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a byddwch yn cwrdd â llawer ohonynt yn ystod eich taith gyda Cysylltu Bywydau. Rydym wedi ein rhwymo i Gôd Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal Cymdeithasol (Cymru), ac mae ein cynllun wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Mae Cysylltu Bywydau Gorllewin Cymru yn darparu cartrefi parhaol, llety tymor byr a gwasanaethau gwyliau byr (seibiant) i unigolion. Rydym yn gwneud hyn drwy recriwtio a hyfforddi pobl gyffredin sydd ag ystafell sbâr ac amser i'w rannu. Mae ein gofalwyr Cysylltu Bywydau yn byw mewn trefi a chymunedau gwledig ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion, a gallwn baru unigolion a gofalwyr Cysylltu Bywydau yn ôl lleoliad, math o eiddo a diddordebau a rennir.
Cymorth Sesiynol
Gallwn ddarparu cymorth a gofal bob awr. Mae'r gefnogaeth yn dechrau ac yn gorffen o'r cartref gofalwyr Cysylltu Bywydau a gall fod yn ystod y dydd neu gyda'r nos, yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.
Cymorth yn ystod y dydd
Cynnig amrywiaeth o weithgareddau i unigolion yn y cartref neu yn y gymuned yn ystod y dydd neu'r nos. Fel gofalwr, gallwch rannu eich sgiliau a'ch diddordebau gydag eraill, gan gynnwys coginio, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mynd i'r gampfa a chrwydro.
Gofal cyfnod byr (Seibiant)
Mae opsiwn hefyd i ofalu am unigolyn am un noson neu fwy. Yn y math hwn o drefniant byddwch yn darparu prydau bwyd a llety, ynghyd â chefnogaeth a chymorth.
Trefniadau Gofal Tymor Byr
Trefniadau gofal tymor byr yw pan fydd unigolyn yn aros gyda gofalwr Cysylltu Bywydau am hyd at 3 mis. Mae yna lawer o resymau mai dim ond am gyfnod byr y bydd angen i unigolyn o bosibl aros gyda gofalwr Cysylltu Bywydau, a chaiff hyn ei fonitro a'i adolygu gyda thîm gofal yr unigolyn a ninnau. Gall y trefniadau hyn fod oherwydd:
- camu i lawr o wasanaethau ysbyty cyn symud adref neu i ofal preswyl
- newid yn eu sefyllfa byw bresennol gan olygu bod angen eu lleoli rhywle arall yn y cyfamser am seibiant wedi'i drefnu.
Trefniadau Gofal Tymor Hir
Yn y trefniant hwn, mae unigolyn ag anghenion gofal yn dod yn aelod llawn amser o aelwyd gofalwr Cysylltu Bywydau. Mae'n derbyn cefnogaeth barhau, gofal a llety mewn amgylchedd tebyg i deulu, ac mae hyn ar gyfer pobl ag anghenion gofal a chymorth sy’n chwilio am rywle i fyw mewn amgylchedd teuluol. Mae hwn yn ddewis da arall yn lle byw â chymorth neu ofal preswyl gan y byddwch yn dod i adnabod yr unigolyn yn dda ac yn gallu cynnig cymorth cyson. Gall fod yn gam cyntaf gwych i fyw'n annibynnol.
Sut alla i gael mynediad i gynllun Cysylltu Bywydau Gorllewin Cymru?
Cysylltwch â ni
Gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddio'r manylion isod:
Rhif Ffôn: 01267 246890
E-bost: westwalessharedlives@sirgar.gov.uk
Neu fel arall, llenwch ein ffurflen ymholiad.

Fel gofalwr Cysylltu Bywydau, mae gennych gyfle i gefnogi rhywun o’ch cartref eich hun, gan gynnwys cymorth yn ystod oriau’r dydd, aros dros nos (seibiannau byr), trefniadau gofal tymor byr a thymor hir. Bydd y tîm yn Cysylltu Bywydau Gorllewin Cymru yn paru gofalwr ac unigolyn sydd angen cymorth, yn unol â phethau megis diddordebau cyffredin, dewisiadau ffordd o fyw a phersonoliaethau. Rydym am i chi a'r person sydd wedi'i leoli gyda chi fwynhau eich amser gyda'ch gilydd a gweld manteision gweithio gyda ni.
Mae Fiona a Nigel, gofalwyr tymor hir Gabrielle, yn disgrifio’r gwaith fel rhywbeth sy’n “newid bywyd”, ac maen nhw'n cydnabod na allent wneud y gwaith heb gefnogaeth Cysylltu Bywydau Gorllewin Cymru, gan ei fod yn rhoi incwm cyson iddynt. Dywedodd Fiona “Ni allech chi wneud hyn fel swydd yn unig, mae'n rhaid i chi deimlo bod hyn yn rhywbeth rydych chi eisiau ei wneud. Mae [Gabrielle] yn rhan fawr iawn o'n teulu ac mae ein teulu i gyd yn agos iawn ati.”
Mae Emily, a ddaeth yn ofalwr seibiant byr yn ddiweddar, yn ei weld fel ffordd o helpu pobl, ynghyd â gallu gweithio'n hyblyg. Mae Sarah, sy’n aros gydag Emily o bryd i'w gilydd, yn disgrifio sut mae’r berthynas ag Emily a gofalwyr Cysylltu Bywydau eraill wedi rhoi hwb i’w hyder, gan nodi mai dyma “y peth gorau sydd wedi digwydd i mi erioed”.
A fyddai diddordeb gennych mewn bod yn ofalwr Cysylltu Bywydau?
Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch i ddod yn ofalwr Cysylltu Bywydau. Fodd bynnag, rydym yn chwilio am sgiliau, nodweddion a phrofiad penodol a byddwn yn eich cefnogi gydag unrhyw hyfforddiant arall sydd ei angen arnoch.
Rhagor o wybodaeth am fod yn ofalwr Cysylltu Bywydau