Symud i Gartref Gofal

Cyn symud i gartref gofal, byddai'n werth ystyried pa gymorth a allai fod ar gael i'ch helpu i barhau i fyw gartref

Efallai eich bod chi neu'ch perthynas yn ystyried cartref gofal oherwydd eich bod yn ei chael hi'n anoddach ymdopi gartref, neu oherwydd bod salwch neu ddamwain wedi effeithio ar eich gallu i fyw'n annibynnol. 

Mae dau fath o gartrefi gofal:

Cartrefi gofal preswyl - yn cynnig gwasanaethau fel golchi dillad a phrydau bwyd a chymorth gyda gofal personol. Mae rhai cartrefi yn cynnig arosiadau tymor byr ond fel arfer maent yn darparu gofal mwy hirdymor neu barhaol.

Cartrefi gofal nyrsio - os yw eich salwch neu'ch anabledd yn golygu bod angen gofal nyrsio rheolaidd arnoch ac na ellir rhoi hyn yn eich cartref eich hun, mae gan gartrefi gofal nyrsio staff nyrsio a fydd ar gael i ddiwallu'r anghenion hynny 24 awr y dydd.  Mae rhai cartrefi yn cynnig arosiadau tymor byr ond fel arfer maent yn darparu gofal mwy hirdymor neu barhaol.

Mae symud i gartref gofal yn benderfyniad pwysig iawn yn eich bywyd.  Bydd trafodaeth gyda gweithiwr cymdeithasol yn eich helpu i benderfynu beth sy'n iawn i chi; bydd yn gallu cynnal asesiad o'ch anghenion gofal a phenderfynu a yw gofal preswyl neu nyrsio yn iawn i chi.

Gofyn am asesiad

Ar ôl pennu eich anghenion gofal a chymorth, bydd y gweithiwr cymdeithasol yn eich cynghori ar y cartrefi gofal mwyaf priodol sydd ar gael.   

Os yw asesiad gan y cyngor yn pennu bod angen lleoliad cartref gofal arnoch chi neu un o'ch anwyliaid i fodloni eich anghenion gofal tymor hir, mae dyletswydd ar y cyngor i wneud y canlynol:

  • Cynnig dewis o ddau leoliad cartref gofal addas (oni bai bod y cartref gofal yn cael ei ddarparu o dan Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983), sydd ar gael i ddiwallu'ch anghenion asesedig.
  • Trefnu i chi fynd i'r cartref gofal o'ch dewis (oni bai bod y cartref gofal yn cael ei ddarparu o dan Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983), hyd yn oed os nad yw hwnnw'n un o'r ddau leoliad cartref gofal addas a nodwyd gan y cyngor, ar yr amod bod y cartref gofal rydych yn ei ddewis yn gallu diwallu eich anghenion a'i fod yn fodlon ymrwymo i gontract gyda'r awdurdod lleol. Sylwch y gallai Cost Ychwanegol fod yn ddyledus gennych, neu gan drydydd parti os nad yw'r cartref gofal a ddewisir gennych yn un o'r cartrefi a nodwyd gan y cyngor.  Dolen i 'Costau Ychwanegol'

Efallai yr hoffech drefnu eich lleoliad cartref gofal eich hun, yn enwedig os oes gennych ddigon o arian i dalu am eich lleoliad - byddai hwn yn drefniant preifat rhyngoch chi a'r cartref gofal.  Fodd bynnag, gallwch gysylltu â'r Cyngor i gael cymorth os nad yw'r trefniant yn bosibl mwyach, neu os ydych yn dymuno i'r cyngor wneud y trefniadau ar eich cyfer. Mae mwy o wybodaeth am Dalu am Ofal Preswyl ar gael yma.