Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Atodiad 1 - Amrywiadau/Addasiadau i Ffioedd am Wasnaaethsau a Aseswyd yn Ariannol

 

- Pob Gwasanaeth y Codir Tâl Amdano
Dechrau gwasanaeth Codir o’r diwrnod cyntaf y derbynnir y gwasanaeth – yn unol â’r ‘Rheolau Gweithredol ar gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau’
Terfynu gwasanaeth yn barhaol Cymhwysir y ffi hyd at ac yn cynnwys y diwrnod cyn y dyddiad terfynu – yn unol â’r ‘Rheolau Gweithredol ar gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau’
Colli galwad - bai'r darparwr/gofalwr Defnyddir gostyngiad gwasanaeth (gwirioneddol neu gyfartalog fel y bo'n briodol) ac ailgyfrifir y tâl (efallai na fydd y tâl yn newid) - yn unol â'r 'Rheolau Gweithredol ar gyfer Cychwyn a Therfynu Pecynnau'
Galwad/gwasanaeth wedi’i ganslo – bai/cais y person ag anghenion gofal a chymorth, ee, y person ag anghenion gofal a chymorth ar wyliau Os yw person ag anghenion gofal a chymorth yn rhoi rhybudd rhesymol ymlaen llaw (24 awr) i'r darparwr gwasanaeth, yna defnyddir gostyngiad gwasanaeth (gwirioneddol neu gyfartalog fel y bo'n briodol) a chaiff y ffi ei hail-gyfrifo (efallai na fydd y ffi yn newid) - yn unol â'r 'Rheolau Gweithredol ar gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau'
Lefel is o wasanaeth oherwydd tywydd garw - methu galwadau Defnyddir gostyngiad gwasanaeth (gwirioneddol neu gyfartalog fel y bo'n briodol) ac ailgyfrifir y tâl (efallai na fydd y tâl yn newid) - yn unol â'r 'Rheolau Gweithredol ar gyfer Cychwyn a Therfynu Pecynnau'
Y person ag anghenion gofal a chymorth yn derbyn gofal preswyl seibiannol/byrdymor a gwasanaethau cymdeithasol dibreswyl yn yr un wythnos Mae gostyngiad gwasanaeth yn cael ei gymhwyso i wasanaeth dibreswyl a dderbynnir fel arfer (gwirioneddol neu gyfartalog fel y bo’n briodol) ac ail-gyfrifir y ffi i gynnwys gofal seibiant/tymor byr (efallai na fydd y ffi yn newid) – yn unol â’r ‘Rheolau Gweithredol ar gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau’
Gwasanaeth ddim ar gael Defnyddir gostyngiad gwasanaeth (gwirioneddol neu gyfartalog fel y bo'n briodol) ac ailgyfrifir y tâl (efallai na fydd y tâl yn newid) - yn unol â'r 'Rheolau Gweithredol ar gyfer Cychwyn a Therfynu Pecynnau'
Person ag anghenion gofal a chymorth dibreswyl yn cael ei dderbyn i'r ysbyty Defnyddir gostyngiad gwasanaeth (gwirioneddol neu gyfartalog fel y bo'n briodol) ac ailgyfrifir y tâl (efallai na fydd y tâl yn newid) - yn unol â'r 'Rheolau Gweithredol ar gyfer Cychwyn a Therfynu Pecynnau'

Mae un gwasanaeth yn stopio yn ystod yr wythnos, ond mae eraill yn parhau/mae gwahanol wasanaeth yn dechrau
Defnyddir gostyngiad gwasanaeth (gwirioneddol neu gyfartalog fel y bo'n briodol) ac ailgyfrifir y tâl (efallai na fydd y tâl yn newid) - yn unol â'r 'Rheolau Gweithredol ar gyfer Cychwyn a Therfynu Pecynnau'
Derbyn gwasanaeth(au) ychwanegol heb eu cynllunio Ni chodir tâl nes bydd y gwasanaeth yn dod yn rhan o’r Cynllun Gofal a Chymorth. Codir o’r diwrnod cyntaf y derbynnir y gwasanaeth – yn unol â’r ‘Rheolau Gweithredol ar gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau’
Arosiadau mewn Ysbytai – Gofal Preswyl Mae’r tâl a asesir yn ariannol arferol yn cael ei gymhwyso pan fydd person sydd ag anghenion gofal a chymorth yn cael ei dderbyn i’r ysbyty a bod lleoliad y cartref gofal yn cael ei gadw. Os oes Cost Ychwanegol, bydd y tâl hwn yn berthnasol yn ogystal â’r tâl a asesir yn ariannol.
Treialon dros dro gartref, i ffwrdd o’r cartref gofal gyd bwriad o ryddhau gartref yn barhaol – 
Gofal Preswyl
Mae’r tâl arferol a asesir yn ariannol yn cael ei gymhwyso pan fydd unigolyn sydd ag anghenion gofal a chymorth yn cael treial dros dro gartref, gyda’r bwriad o gael ei ryddhau gartref, a bod y lleoliad cartref gofal yn cael ei gadw. Os oes Cost Ychwanegol, bydd y tâl hwn yn berthnasol yn ogystal â’r tâl a asesir yn ariannol. Gellir ystyried treuliau ar gyfer costau byw arferol gartref. Ni chodir tâl am wasanaethau cymdeithasol dibreswyl a dderbynnir yn ystod y treial dros dro gartref gan y bydd y person yn dal i orfod talu am ei leoliad mewn cartref gofal tra bydd yn cael ei gadw.
Gwyliau/arosiadau byr gyda theuluoedd drwy gytundeb ymlaen llaw – Gofal Preswyl Bydd y person sydd ag anghenion gofal a chymorth yn parhau i orfod talu'r ffi a aseswyd yn ariannol. Os oes Cost Ychwanegol, bydd y tâl hwn yn berthnasol yn ogystal â’r tâl a asesir yn ariannol.