Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Eiriolaeth

21. Eiriolaeth

Bydd Sir Gaerfyrddin yn ymgysylltu â’r unigolyn sydd ag anghenion gofal a chymorth neu ei gynrychiolydd i gwblhau’r broses asesu ariannol a chodi tâl. Pan nodir bod angen cymorth ar berson i gymryd rhan yn y broses hon, bydd Sir Gaerfyrddin, drwy weithiwr cymdeithasol y person hwnnw, yn ceisio dod o hyd i rywun a all helpu i eirioli ar ran y person hwnnw.

Bydd Sir Gaerfyrddin hefyd yn rhoi gwybod i bobl ag anghenion gofal a chymorth sy’n derbyn gwasanaeth y codir tâl amdano am eu hawl i gael cyngor ariannol annibynnol.