Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
Yn yr adran hon
- Rheoli Eiddo a Chyllid
- Eiriolaeth
- Taliadau Gohiriedig
- Anfonebu am Daliadau
- Methu Taliadau a Dyled
- Amddifadu o Asedau
- Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Parhaol/Dros Dro i Gartref Gofal
- Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Seibiannol/Byrdymor i Gartref Gofal
- Cymhwyso'r Rheolau i Achosion Unigol
- Adolygiadau a Dulliau Apelio
- Atodiad 1 - Amrywiadau/Addasiadau i Ffioedd am Wasnaaethsau a Aseswyd yn Ariannol
- Atodiad 2 - Rheolau Gweithredol ar Gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau Gofal a Chymorth
Gwasanaethau yn y Nos (Dibreswyl)
15. Gwasanaethau yn y Nos (Dibreswyl)
Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi tâl am wasanaethau wedi’u hasesu sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun gofal a chymorth a ddarperir yn ystod y nos.
Mae’r bobl sydd fel arfer yn byw mewn lleoliadau sy’n darparu gofal a/neu gymorth 24/7, fel Llety â Chymorth a Chysylltu Bywydau, yn cael yr holl Lwfans Gweini (AA), neu elfen gofal Lwfans Byw i’r Anabl (DLA), neu Lwfans Annibyniaeth Personol Byw Bob Dydd (PIP), gan gynnwys yr elfen yn ystod y nos o’r budd-daliadau hyn sy’n gysylltiedig â gofal sydd wedi’u cynnwys yn eu hasesiad ariannol.
Fel arfer, mae’r gwahaniaeth rhwng cyfradd uwch a chyfradd is Lwfans Gweini a’r gwahaniaeth rhwng cyfradd uwch elfen gofal Lwfans Byw i’r Anabl a’r gyfradd ganol a’r gwahaniaeth rhwng byw bob dydd PIP uwch a byw bob dydd sylfaenol yn cael ei drin fel yr elfen sy’n cael ei thalu am ofal yn ystod y nos.