Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
Yn yr adran hon
- Rheoli Eiddo a Chyllid
- Eiriolaeth
- Taliadau Gohiriedig
- Anfonebu am Daliadau
- Methu Taliadau a Dyled
- Amddifadu o Asedau
- Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Parhaol/Dros Dro i Gartref Gofal
- Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Seibiannol/Byrdymor i Gartref Gofal
- Cymhwyso'r Rheolau i Achosion Unigol
- Adolygiadau a Dulliau Apelio
- Atodiad 1 - Amrywiadau/Addasiadau i Ffioedd am Wasnaaethsau a Aseswyd yn Ariannol
- Atodiad 2 - Rheolau Gweithredol ar Gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau Gofal a Chymorth
Lleoliadau Preswyl
9. Lleoliadau Preswyl
Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi tâl am bob lleoliad mewn cartref gofal, ni waeth beth yw hyd y gwasanaeth, oni bai fod y gwasanaeth yn cael ei ddiffinio yn y ddeddfwriaeth fel un lle na ellir codi tâl.
Y tâl a fydd yn cael ei ddefnyddio fydd cost lawn cost y lleoliad fesul noson ar gyfer lleoliadau mewn cartref gofal. Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi tâl am bob noson yr asesir bod y person sydd ag anghenion gofal a chymorth yn defnyddio’r gwasanaeth. Codir tâl am ddefnyddio gwasanaeth am ran o ddiwrnod ar gyfradd diwrnod llawn. Codir tâl ar bobl sydd ag anghenion gofal a chymorth am y diwrnod derbyn, ond ni chodir tâl arnynt am y diwrnod y cânt eu rhyddhau.
Bydd Sir Gaerfyrddin yn amrywio’r tâl i berson sydd ag anghenion gofal a chymorth yn yr amgylchiadau canlynol:
- Derbyn i’r ysbyty – Pan fydd person ag anghenion gofal a chymorth yn cael ei dderbyn i’r ysbyty, a bod y lleoliad mewn cartref gofal yn cael ei gadw, yna bydd y person sydd ag anghenion gofal a chymorth yn parhau i orfod talu'r cyfraniad wedi’i asesu’n ariannol yn ystod ei absenoldeb o’r cartref gofal.
Os yw’r cyngor yn lleihau’r taliad i’r cartref gofal i gyfradd sy’n llai na chyfraniad asesedig ariannol y person, yna byddai’r cyngor yn lleihau cyfraniad y person yn unol â hynny.
Os yw’r absenoldeb yn hwy na 28 diwrnod, mae Sir Gaerfyrddin yn cadw’r hawl i ailasesu anghenion y person a/neu derfynu’r lleoliad cartref gofal.
Os oes Cost Ychwanegol ar gyfer y lleoliad, bydd hyn yn parhau i gael ei godi yn ystod absenoldeb y person o’r cartref gofal.
- Rhyddhau dros dro o gartref gofal, gyda’r bwriad o breswylio’n barhaol yn y gymuned – Pan fydd person y mae ei anghenion gofal a chymorth fel arfer yn cael eu diwallu gan leoliad cartref gofal dros dro/parhaol yn cael ei ryddhau dros dro o’r cartref gofal, gyda’r bwriad y bydd hyn yn dod yn ryddhau parhaol o’r cartref gofal, bydd y person yn parhau i orfod talu am ei leoliad cartref gofal tra bydd y lleoliad yn cael ei gadw. Gall y swm y codir ar y person am ei leoliad ostwng, er mwyn ystyried costau ychwanegol a fydd yn cael eu hysgwyddo am y cyfnod y bydd yn absennol o’r cartref gofal (e.e. bwyd, cyfleustodau), lle ceir tystiolaeth o’r costau hyn, ac nad oes gan y person ddigon o fodd i ariannu’r costau ei hun.
Bydd hyn am uchafswm o 4 wythnos a lle mae’r absenoldeb o’r cartref gofal wedi’i gytuno ymlaen llaw gan Sir Gaerfyrddin. Os yw’r absenoldeb yn hwy na 28 diwrnod, mae Sir Gaerfyrddin yn cadw’r hawl i ailasesu anghenion y person a/neu derfynu’r lleoliad cartref gofal.
Os asesir bod angen gofal a chymorth ar y person yn ystod y cyfnod y mae’n absennol o’r cartref gofal, ni chodir tâl arno am y gwasanaethau hyn gan y bydd yn parhau i orfod talu am y lleoliad cartref gofal a gedwir.
Os oes Cost Ychwanegol ar gyfer y lleoliad, bydd hyn yn parhau i gael ei godi yn ystod absenoldeb y person o’r cartref gofal.