Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
Yn yr adran hon
- Rheoli Eiddo a Chyllid
- Eiriolaeth
- Taliadau Gohiriedig
- Anfonebu am Daliadau
- Methu Taliadau a Dyled
- Amddifadu o Asedau
- Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Parhaol/Dros Dro i Gartref Gofal
- Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Seibiannol/Byrdymor i Gartref Gofal
- Cymhwyso'r Rheolau i Achosion Unigol
- Adolygiadau a Dulliau Apelio
- Atodiad 1 - Amrywiadau/Addasiadau i Ffioedd am Wasnaaethsau a Aseswyd yn Ariannol
- Atodiad 2 - Rheolau Gweithredol ar Gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau Gofal a Chymorth
Methu Taliadau a Dyled
24. Methu Taliadau a Dyled
Bydd Sir Gaerfyrddin yn mynd ar drywydd taliadau a dyledion sydd heb eu talu drwy’r sianelau mwyaf priodol gan gynnwys camau adennill drwy’r llysoedd lle bo hynny’n briodol. Mewn achosion o’r fath, bydd Sir Gaerfyrddin hefyd yn adennill yr holl gostau ac yn gwneud cais am log ar y swm sydd i’w adennill.
Ar gyfer dyledion gofal dibreswyl na ellir eu casglu pan fyddant yn ddyledus, gall Sir Gaerfyrddin wneud cais am arwystl cyfreithiol yn erbyn eiddo’r defnyddiwr gwasanaeth fel gwarant ar gyfer y ddyled sy’n weddill. Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi ffi cyfradd safonol am y trefniant hwn. Bydd llog yn daladwy o’r 91fed diwrnod ar ôl i’r gwasanaeth gorffen, ar y cyfraddau llog a bennir yn y ddeddfwriaeth.
Ni fydd Sir Gaerfyrddin yn tynnu gwasanaethau’n ôl pan fydd person ag anghenion gofal a chymorth yn gwrthod neu’n methu â thalu’r costau a aseswyd.