Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
Yn yr adran hon
- Rheoli Eiddo a Chyllid
- Eiriolaeth
- Taliadau Gohiriedig
- Anfonebu am Daliadau
- Methu Taliadau a Dyled
- Amddifadu o Asedau
- Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Parhaol/Dros Dro i Gartref Gofal
- Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Seibiannol/Byrdymor i Gartref Gofal
- Cymhwyso'r Rheolau i Achosion Unigol
- Adolygiadau a Dulliau Apelio
- Atodiad 1 - Amrywiadau/Addasiadau i Ffioedd am Wasnaaethsau a Aseswyd yn Ariannol
- Atodiad 2 - Rheolau Gweithredol ar Gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau Gofal a Chymorth
Rheoli Eiddo a Chyllid
20. Rheoli Eiddo a Chyllid
a. Dirprwyaeth ar gyfer eiddo a materion ariannol
Ni fydd Sir Gaerfyrddin fel arfer yn gwneud cais i’r Llys Gwarchod i ddod yn Ddirprwy dros Eiddo a Materion Ariannol ar gyfer person sydd ag anghenion gofal a chymorth.
Dim ond pan fydd popeth arall wedi methu y bydd camau o’r fath yn cael eu cymryd, a dim ond i’r bobl hynny sy’n cael gwasanaethau gan Sir Gaerfyrddin sy’n diwallu eu hanghenion gofal a chymorth, a lle ystyrir hynny er budd pennaf y person, e.e. lle mae materion diogelu posibl wedi cael eu nodi.
Os bydd Sir Gaerfyrddin yn gwneud cais i ddod yn Ddirprwy, bydd yn adennill unrhyw gostau y bydd yn eu hysgwyddo ar gyfer ei rôl fel dirprwy, gan gynnwys ffi cyfradd safonol ar gyfer costau a ysgwyddir hyd at y pwynt y rhoddir y gorchymyn Dirprwyaeth. Dim ond pan fydd y cyngor yn credu bod digon o arian yn bodoli sydd angen ei reoli, a bod arian ar gael i dalu costau rôl y dirprwy, y bydd cais i ddod yn ddirprwy yn digwydd.
Bydd costau ychwanegol yn cael eu hysgwyddo os oes gan yr unigolyn eiddo y mae’n ofynnol iddo gael ei warchod gan Sir Gaerfyrddin.
b. Penodeiaeth ar gyfer Budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau (AGaPH)
Os nad oes gan y person ddigon o arian ar gyfer cais am ddirprwyaeth, yna bydd Sir Gaerfyrddin yn gwneud cais i’r Adran Gwaith a Phensiynau i weithredu fel penodai corfforaethol i reoli budd-daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau ar ran person sy’n derbyn gofal a chymorth gan/ar ran Sir Gaerfyrddin, lle mae gwneud hynny er lles pennaf person.
Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi ffi cyfradd safonol am benodeiaeth.
Nid yw Penodeiaeth DWP yn rhoi awdurdod i Sir Gaerfyrddin weithredu ar ran y person mewn perthynas ag unrhyw faterion ariannol eraill, dim ond i ddelio â’u budd-daliadau DWP.
c. Diogelu Eiddo
Ni fydd Sir Gaerfyrddin fel arfer yn diogelu eiddo person sydd ag anghenion gofal a chymorth, na pherson mewn ysbyty.
Dim ond fel dewis olaf y cymerir camau o’r fath, os nad yw’r person (dros dro neu’n barhaol) yn gallu diogelu neu ddelio â’r eiddo ac nad oes unrhyw drefniadau addas eraill wedi’u gwneud neu os ydynt yn cael eu gwneud i ddiogelu’r eiddo hwnnw. Bydd Sir Gaerfyrddin yn diogelu’r eiddo dim ond ar gyfer y bobl hynny sydd wedi cael eu derbyn i’r ysbyty, neu i lety a drefnwyd gan Sir Gaerfyrddin a lle ystyrir bod hynny er lles pennaf person, e.e. lle mae perygl o golled neu ddifrod i’r eiddo hwnnw.
Os bydd Sir Gaerfyrddin yn diogelu eiddo’r unigolyn, yna bydd yn adennill unrhyw gostau y bydd yn eu hwynebu wrth archwilio/cynnal a chadw/clirio’r eiddo, ynghyd â thâl cyfradd safonol am wasanaethau cymorth mewn perthynas â diogelu'r eiddo, boed y person yn berchen ar yr eiddo neu’n ei rentu.