Canllawiau Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) ar gyfer Awdurdod Rheoli
Diweddarwyd y dudalen ar: 24/10/2024
Mae'r dudalen we hon yn ceisio cynghori cartrefi gofal fel awdurdodau rheoli ar broses mesurau diogelu yn erbyn amddifadu o ryddid.
Cyngor a gwybodaeth i ddarparwyr
Dylai awdurdodau rheoli gwneud cais i'r awdurdod lleol os ydynt o'r farn ei bod yn angenrheidiol amddifadu rhywun o'i ryddid er mwyn darparu'r llety, y gofal, y driniaeth neu'r cymorth yr aseswyd eu bod yn angenrheidiol o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol. Nad yw'r prosesau a'r darpariaethau DoLS wedi newid o ganlyniad i beidio â rhoi'r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid ar waith.
Nid yw Cyngor Sir Caerfyrddin (y corff goruchwylio ar gyfer DoLS), yn gallu rhoi cyngor cyfreithiol i Awdurdodau Rheoli na darparwyr eraill. Ni allwn ychwaith ddweud, yn absenoldeb cais ffurfiol am awdurdodiad DoLS, a yw amgylchiadau penodol person yn gyfystyr â chael ei amddifadu o’i ryddid.
Mae'n bwysig nad yw awdurdodau rheoli yn gwneud ceisiadau damcaniaethol am DoLS o ganlyniad i'r dyfarniad hwn, nad yw preswylwyr yn destun asesiadau diangen neu asesiadau y gellir eu hosgoi, sy'n gallu bod yn annifyr iddyn nhw a'u teuluoedd.
Y Proses i Wneud Cais
Gall yr awdurdod rheoli wneud cais mewn dwy ffordd:
1.) Gellir gwneud cais newydd am awdurdodiad safonol a/neu frys drwy gyflwyno Ffurflen 1.
Hefyd gellir cyflwyno'r cais hwn cyn i'r person symud i'r cartref gofal.
2.) Gellir cyflwyno cais pellach am awdurdodiad safonol drwy Ffurflen 2
Byddai'r ffurflen hon yn cael ei llenwi ar gyfer yr awdurdodiadau hynny sydd i fod i ddod i ben; mae'r corff goruchwylio yn gofyn i awdurdodau rheoli gyflwyno cais pellach o leiaf 8 wythnos cyn y dyddiad dod i ben.
Ar ôl i'r ffurflen gais gael ei chyflwyno, bydd e-bost cydnabyddiaeth yn cael ei anfon at yr anfonwr i gadarnhau bod y cais wedi'i gyflwyno'n llwyddiannus.
Bydd y tîm DoLS yn prosesu ac yn sgrinio'r cais yn unol â hynny yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwyd ar y ffurflen, felly mae'n hanfodol bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen yn cael ei darparu i atal unrhyw oedi.
Os bydd amgylchiadau'r person yn newid ar unrhyw adeg cyn cynnal unrhyw asesiadau, bydd angen i'r awdurdod rheoli roi gwybod i'r tîm DoLS drwy anfon e-bost at Dols@carmarthenshire.gov.uk.
I gael rhagor o cymorth a wybodaeth:
Cysylltwch â thîm DoLS Sir Gaerfyrddin drwy e-bostio Dols@carmarthenshire.gov.uk.