Mathau o faethu
Diweddarwyd y dudalen ar: 24/07/2025
Os ydych chi'n ystyried dod yn ofalwr maeth yn Sir Gâr, mae'n bwysig deall y gwahanol fathau o faethu. Mae gan bob plentyn neu berson ifanc anghenion gwahanol, ac mae pob gofalwr maeth yn dod â rhywbeth unigryw i'r bwrdd.
Mae yna lawer o bethau i feddwl amdanynt wrth benderfynu pa fath o faethu sy'n iawn i chi. Mae eich ffordd o fyw, eich teulu, eich sgiliau, a'ch argaeledd i gyd yn chwarae rhan.
Peidiwch â becso! Bydd ein tîm yn eich helpu i benderfynu pa fath o faethu sy'n addas i chi.
Maethu tymor byr
Maethu tymor byr yw pan fydd angen gofal ar blant a phobl ifanc am gyfnod byr o amser – gallai hyn fod ychydig ddyddiau, wythnosau, neu hyd at gwpl o flynyddoedd.
Mae'r math hwn o faethu yn aml yn angenrheidiol tra bod penderfyniadau yn dal i gael eu gwneud am y cynlluniau tymor hir ar gyfer plentyn neu berson ifanc. Gallai hynny olygu bod y plentyn neu'r person ifanc yn dychwelyd i'w deulu geni neu'n symud i ofalwr maeth tymor hir.
Mae maethu tymor byr yn darparu cartref sefydlog a chefnogol tra bod y penderfyniadau pwysig hynny'n cael eu gwneud.
Maethu tymor hir
Mae maethu tymor hir yn rhoi cartref parhaol i blant a phobl ifanc nad ydynt yn gallu byw gyda'u teuluoedd geni.
Mae'r math hwn o faethu yn cynnig sefydlogrwydd, cysondeb a diogelwch emosiynol dros nifer o flynyddoedd. Mae'n caniatáu i blant a phobl ifanc deimlo'n rhan o deulu cariadus, lle gallant dyfu a ffynnu.
Mae maethu tymor hir yn ddewis arall gwych i fabwysiadu.
Mathau arbenigol o faethu
Mae angen cymorth mwy arbenigol ar rai plant a phobl ifanc oherwydd eu hamgylchiadau, eu hiechyd, eu hanabledd, a/neu eu hanghenion emosiynol.
Dyna pam mae sawl math arbenigol o faethu ar gael yn Sir Gâr. Mae'r rhain yn cynnwys seibiannau byr, seibiant, rhiant a phlentyn, maethu therapiwtig, a maethu i blant digwmni sy'n ceisio lloches.
Seibiannau byr
Mae maethu seibiannau byr wedi'i gynllunio i gefnogi teuluoedd plant a phobl ifanc ag anableddau corfforol, anghenion dysgu ychwanegol, a/neu ymddygiadau sy'n herio.
Fel gofalwr maeth seibiannau byr, rydych chi'n cynnig amgylchedd diogel a gofalgar – gallai hyn fod yn ystod y dydd, dros nos, neu ar benwythnosau.
Mae'r seibiannau hyn fel arfer yn cael eu cynllunio ymlaen llaw, gan roi amser i deuluoedd geni neu ofalwyr maeth eraill orffwys ac ymlacio. Rydych chi'n dod yn estyniad dibynadwy o rwydwaith cymorth y plentyn neu'r person ifanc hwnnw.
Seibiant
Mae maethu seibiant yn cefnogi teuluoedd geni a gofalwyr maeth trwy gynnig gofal tymor byr wedi'i gynllunio.
Gall y lleoliadau hyn bara o un noson i benwythnos neu wythnos, yn dibynnu ar anghenion y plentyn neu'r person ifanc a'u gofalwyr.
Mae gofalwyr maeth seibiant yn chwarae rhan allweddol wrth gadw lleoliadau maethu yn gryf ac yn gynaliadwy.
Rhiant a phlentyn
Mae maethu rhiant a phlant yn fath arbenigol o faethu lle mae rhiant, weithiau'r ddau riant, a'r plentyn yn cael gofal gyda'i gilydd.
Mae'r math hwn o faethu yn helpu i gefnogi rhieni newydd i ddatblygu eu sgiliau rhianta mewn amgylchedd diogel, meithringar. Eich rôl yw tywys, annog a monitro eu cynnydd, gan helpu i sicrhau dyfodol gwell i'r rhiant/rhieni a'r plentyn.
Gall y trefniant hwn gynnwys brodyr a chwiorydd y plentyn sydd hefyd yn cael eu rhoi mewn gofal.
Darganfyddwch fwy am faethu rhieni a phlant.
Therapiwtig
Mae maethu therapiwtig ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi profi trawma, esgeulustod a/neu golled sylweddol.
Gallai'r plant a'r bobl ifanc hyn fod ag anghenion emosiynol a/neu ymddygiadol cymhleth ac angen lefel uchel o ddealltwriaeth a gofal.
Bydd gan ofalwyr maeth therapiwtig brofiad blaenorol mewn gofal therapiwtig a/neu weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi profi trawma, esgeulustod a/neu golled sylweddol. Maent yn derbyn hyfforddiant arbenigol a chefnogaeth barhaus i'w helpu i ddarparu cartref diogel, iachaol.
Plant digwmni sy'n ceisio lloches
Mae rhai pobl ifanc yn cyrraedd y DU heb eu teulu, yn chwilio am ddiogelwch a dechrau newydd.
Mae maethu plant digwmni sy'n ceisio lloches yn golygu cynnig sefydlogrwydd, gofal ac arweiniad wrth iddynt addasu i wlad a diwylliant newydd.
Byddwch yn eu cefnogi i feithrin sgiliau bywyd, magu hyder, a setlo i fywyd yn Sir Gâr.
Pa fath o faethu sy'n iawn i chi?
Nid oes un dull maethu sy'n addas i bawb yn Sir Gâr. Mae pob math o faethu yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu plant a phobl ifanc i deimlo'n ddiogel, a'u bod yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi.
Os nad ydych chi'n siŵr pa opsiwn sy'n iawn i chi, mae hynny'n iawn. Fel rhan o'r broses asesu, byddwn yn gweithio gyda chi i nodi eich cryfderau a'ch galluoedd i helpu i lywio pa fath o faethu sy'n addas i chi.