Pam ein dewis ni
Diweddarwyd y dudalen ar: 11/04/2025
Rydym wedi ymrwymo i Ymrwymiad Cenedlaethol Maethu Cymru. Mae hwn yn becyn o hyfforddiant, cefnogaeth a buddion y cytunwyd arno i'w fwynhau gan bob gofalwr maeth yng Nghymru. Felly, fel pob gofalwr maeth arall yng Nghymru, byddwch yn cael:
- Cyllid a iwfansau: Byddwch yn derbyn lwfansau ariannol hael, a fydd yn seiliedig ar nifer o ffactorau fel y math o faethu rydych yn ymgymryd ag ef, faint o blant rydych chi'n eu maethu ac am ba mor hir rydych chi'n eu maethu.
- Un tîm: Byddwn yn gweithio gyda chi, y plant yn eich gofal a phob gweithiwr proffesiynol o amgylch y plentyn.
- Dysgu a datblygu: Rydym yn darparu'r holl offer a hyfforddiant i'ch galluogi i ddiwallu anghenion y plant yn eich gofal yn llawn.
- Cymorth: Mae gennych dîm i'ch cefnogi a'ch annog, bob cam o'r ffordd.
- Cymuned faethu: Rydym yn cadw mewn cysylltiad. Byddwch hefyd yn cael aelodaeth i'r Rhwydwaith Maethu (TFN), New Family Social (NFS) a'r Gymdeithas ar gyfer Maethu, Gofal Perthynas a Mabwysiadu (AFKA) Cymru, y telir amdani gennym ni.
- Llunio'r dyfodol: Mae'r daith a ddaeth â chi at y pwynt hwn yn bwysig, ond y cam pwysicaf yw'r un nesaf.
Mae'r buddion eraill rydym yn eu cynnig yn cynnwys:
- Gostyngiadau gyda phartneriaid cydnabyddedig, gan gynnwys Cadw
- Cerdyn Golau Glas
- Sesiynau Pwll Nofio am ddim yng Nghanolfannau Hamdden Actif
I gael gwybod mwy am y cymorth a roddwn i'n gofalwyr maeth, ewch i Maethu Cymru Sir Gâr.