Gwobr Dug Caeredin
Diweddarwyd y dudalen ar: 25/03/2025
Mae Gwobr Dug Caeredin yn gynllun gwobr ar gyfer pobl ifanc 14-25 oed. Mae Gwobr Dug Caeredin yn:
- Antur hwyliog, heriol sy'n newid bywyd.
- Ffordd wych o wneud ffrindiau newydd.
- Ffordd berffaith o ddysgu sgiliau newydd, ennill diddordebau newydd a rhoi cynnig ar weithgareddau newydd.
- Cyfle i ddod yn fwy heini, i helpu eraill, i archwilio lleoedd newydd ac i gael profiadau newydd.
- Gall eich helpu i ddod yn fwy hyderus a gwydn a'ch galluogi i oresgyn heriau eraill y mae bywyd yn eu taflu atoch chi.
- Gallai hyd yn oed eich helpu i gael swydd neu sicrhau lle i chi mewn coleg gan ei fod yn edrych yn dda ar eich CV.
Beth mae’r wobr yn ei chynnwys?
Mae 3 lefel yn rhan o'r Wobr
- Gwobr Efydd – 14+ neu Flwyddyn 9
- Gwobr Arian – 15+ neu Flwyddyn 10
- Gwobr Aur – 16+
Mae 4 adran (5 ar gyfer y Wobr Aur)
- Gwirfoddoli: helpu eraill, elusen neu yn eich cymuned
- Corfforol: Gwneud math o chwaraeon a dod yn fwy heini
- Sgiliau: Gwneud hobi neu ddiddordeb
- Taith: mewn grŵp
- Taith:
- 2 ddiwrnod o deithio ac 1 noson yn gwersylla
- 3 diwrnod o deithio a 2 noson yn gwersylla
- 4 diwrnod o deithio a 3 noson yn gwersylla
- Preswyl: 5 diwrnod a 4 noson i ffwrdd yn gwneud prosiect neu weithgareddau gydag eraill
Sut y gallwch chi gymryd rhan?
Mae'r rhan fwyaf o ysgolion uwchradd Sir Gaerfyrddin yn cynnig cynllun Gwobr Dug Caeredin.
Mae grwpiau ieuenctid, clybiau a sefydliadau fel sgowtiaid, cadetiaid, tywyswyr a chlybiau chwaraeon yn aml yn cynnig cynllun Gwobr Dug Caeredin.
Efallai y bydd yn bosibl gwneud Gwobr Dug Caeredin drwy'r gwasanaeth cymorth ieuenctid neu grŵp gwobr agored os oes diddordeb gan grŵp o bobl ifanc.
Ydych chi am wneud Gwobr Dug Caeredin neu wybod rhagor?
Gofynnwch i'ch Arweinydd Gwobr Dug Caeredin yn yr ysgol, eich arweinydd yn y Sgowtiaid/Geidiaid/Cadetiaid neu eich gweithiwr ieuenctid.
Neu cysylltwch â Janice Hearne, Swyddog Datblygu Gwobr Dug Caeredin yn Sir Gaerfyrddin.
E-bost: jmhearne@sirgar.gov.uk
Rhif ffôn: 07554 338066