Tîm Cymorth Ieuenctid a Dargedwyd (10-18 oed)

Y Tîm 10-18 oed

Mae'r tîm yn cynnwys gweithwyr ieuenctid ym mhob ysgol uwchradd yn y sir a Choleg Sir Gâr, yn ogystal â staff peripatetig y Prosiect Ymgysylltu ag Ysgolion. 

  • Mae staff yn gweithio gyda phlant ym mhob ysgol uwchradd, yn ogystal â'r rhai 10-16 oed sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol
  • Mae'r tîm yn cefnogi plant a phobl ifanc yn ystod cyfnodau pontio allweddol o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd, yn ogystal ag addysg bellach ac uwch a chyflogaeth.
  • Cynigir amrywiaeth o ddulliau gyda chymorth un i un
  • Mae staff yn cynnig gwaith grŵp a allai gynnwys cyfleoedd achrededig megis ASDAN neu Wobr John Muir, yn ogystal â rhaglenni gwaith grŵp ffurfiol heb eu hachredu megis rhaglen STAR (Diogelwch, Ymddiriedaeth a Pharch), a chyfleoedd llai ffurfiol megis dysgu mewn grŵp sy'n seiliedig ar faterion
  • Gellir hefyd cynnig cymorth a chyngor i rieni a gofalwyr 

Mae'r Tîm 10-18 oed yn cynnwys Gweithiwr Ieuenctid Arweiniol mewn Ysgolion a Gweithwyr Ieuenctid Cymorth sydd wedi'u lleoli mewn ysgolion uwchradd yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r Gweithwyr Ieuenctid yn cynnig amrywiaeth o gymorth i blant a phobl ifanc y nodwyd bod ganddynt angen. Gall hyn fod drwy fath o ddarpariaeth sy’n fwy anffurfiol ac sy'n cynnwys galw heibio neu ddarpariaeth grŵp neu un i un wedi'i thargedu'n well ac hefyd i wella presenoldeb yn yr ysgol.

Er nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr, gallai'r ymyriadau a gynigir gynnwys y canlynol:

  • Gwaith i ddatblygu hunan-barch
  • Gwaith o ran rhywedd a rhywioldeb 
  • Gwaith gwrth-fwlio
  • Gwaith gwytnwch emosiynol
  • Gwaith i gefnogi cynllunio i'r dyfodol
  • Ymyriadau o ran ffordd iach o fyw
  • Rheoli emosiynau
  • Meithrin gwytnwch a sgiliau ymdopi
  • Sgiliau meddwl canlyniadol
  • Ymwneud â phobl eraill.
  • Hybu perthnasoedd cadarnhaol
  • Cymorth rhianta
  • Cyfeirio at asiantaethau eraill
  • Cymorth pontio o'r ysgol gynradd, symud rhwng ysgolion, cymorth o ran gadael addysg ffurfiol gan weithio'n agos gyda gyrfaoedd 
  • Cymorth o ran plant sy'n cael addysg ddewisol yn y cartref 
  • Cymorth i gadw'n ddiogel ar-lein/gwaith diogelwch ar y rhyngrwyd
  • Cymorth o ran cyfeillgarwch/grwpiau cyfoedion
  • Gweithgareddau Gwyliau y tu allan i'r ysgol
  • Darparu'r Rhaglen Diogelwch, Ymddiriedaeth a Pharch
  • Darparu Cyrsiau Achrededig
  • Cyfranogiad a Chydgynhyrchu Rhaglenni 
Hwb