Y Tîm Cymorth Cyffredinol
Yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau mynediad agored gan gynnwys:
- Arwain ar Gyfranogiad a Hawliau Plant a chynorthwyo plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt
- Gweithgareddau anturus yn yr awyr agored
- Rhaglenni yn ystod y tymor a'r gwyliau
- Clybiau Ieuenctid y Cyngor Sir yn Sir Gaerfyrddin
- Cefnogi’r gwaith o ddarparu Gwobr Dug Caeredin (Gwobrau Aur; Arian; Efydd)
- Rhaglenni dysgu achrededig - e.e., Rhwydwaith Coleg Agored; ASDAN; Gwobr John Muir
- Cyflawni gweithgareddau i gefnogi diogelwch cymunedol a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Cydlynu hyfforddiant staff a datblygiad proffesiynol
- Rhaglenni preswyl ar gyfer pobl ifanc yn y Deyrnas Unedig a thramor
- Gwella presenoldeb yn yr ysgol
Mae staff Cymorth Cyffredinol yn cwmpasu Sir Gaerfyrddin gyfan ac yn cefnogi pobl ifanc, eu teuluoedd a'u cymunedau lleol trwy fynediad agored ac ymgysylltu gwirfoddol.
Beth allwn ni ei gynnig?

- Clybiau Ieuenctid y Cyngor Sir
- Gwobr Dug Caeredin (Gwobrau Efydd, Arian ac Aur)
- Achrediad – e.e. Gwobr John Muir, ASDAN, Agored Cymru
- Gweithgareddau i gynorthwyo cymunedau i deimlo'n ddiogel
- Gwaith datgysylltiedig ac allgymorth
- Cyfleoedd preswyl yn y DU a dramor

- Cynorthwyo pobl ifanc i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt
- Darpariaeth LHDTC+
- Cyfleoedd Gwaith Ieuenctid Cymraeg
Clybiau Ieuenctid
Mae pob Clwb Ieuenctid yn darparu gwasanaethau mynediad agored sy'n golygu y gall person ifanc gael cymorth beth bynnag fo'i gefndir, ei anghenion neu ei safle mewn cymdeithas. Mae'n seiliedig ar ymgysylltu gwirfoddol sy'n golygu y gall y bobl ifanc fynd a dod fel y dymunant.
Gallwch ddod o hyd i restr o'n holl Glybiau Ieuenctid sy'n gweithredu yn Sir Gaerfyrddin yn yr adran Yn Fy Ardal.
Clwb LHDTC+
Mae'r Clwb LHDTC+ yn agored i bobl ifanc dros 13 oed ac mae'n cael ei gynnal bob dydd Mercher cyntaf a thrydydd dydd Mercher y mis yng Nghanolfan Ieuenctid y Bwlch, rhwng 5:30pm ac 8pm.
Mae'r clwb yn darparu lle diogel i bobl ifanc gwrdd ag oedolion y gellir ymddiried ynddynt a chymdeithasu â'u cyfoedion. Mae gan y clwb raglen weithredol sy'n cael ei phenderfynu gan aelodau'r clwb ac mae'n cynnig cyfleoedd sy'n gynnwys ymweliadau a gweithgareddau, celf a chrefft, teithiau preswyl a llawer, llawer mwy.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Louie Greenwood drwy anfon neges e-bost neu drwy ffonio.
Lleoliad: Canolfan Ieuenctid y Bwlch, Rhes Dafen, Llanelli, SA15 3BL

Cyfleoedd achredu
Rydym yn ganolfan gydnabyddedig ar gyfer nifer o ddarparwyr achredu gan gynnwys ASDAN, Agored Cymru, Gwobr John Muir, Sefydliad Prydeinig y Galon a Gwobr Dug Caeredin.
Gallwn achredu prosiectau a gwaith a llwyddiannau pobl ifanc mewn sawl ffordd wahanol a fydd yn helpu i ddangos eu taith a'u datblygiad unigol eu hunain.
Dyma beth allwn ni ei gynnig:
- Rhaglenni Datblygiad Personol
- Cyfleoedd gwirfoddoli
- Gwobrau Amgylcheddol a Chadwraeth
- Rhai Cymwysterau Cydnabyddedig
- Hyfforddiant Cymorth Cyntaf ac Adfywio Cardiopwlmonaidd (CPR)
Hyfforddiant Gwaith Ieuenctid
Gan weithio mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru gallwn ddarparu cyfleoedd hyfforddiant Gwaith Ieuenctid Lefel 2 a 3. Y cyrsiau hyn yw'r camau cychwynnol o ran hyfforddiant gwaith ieuenctid (ac maent ar y llwybr hyfforddi cydlynol ar gyfer hyfforddiant gwaith ieuenctid yng Nghymru) ac maent yn darparu sylfaen gadarn o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth i unrhyw un sy'n gweithio gyda phobl ifanc ac yn eu cefnogi mewn amrywiaeth o rolau.
Cyfleoedd o ran lleoliadau a gwirfoddoli
Mae'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn gallu darparu nifer cyfyngedig o gyfleoedd o ran lleoliadau i'r rhai sy'n ymgymryd â meysydd astudio cysylltiedig yn ogystal â chyfleoedd gwirfoddoli cyffredinol. Nodwch y bydd angen gwiriad DBS ar gyfer y naill neu'r llall o'r rhain.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw achrediad, hyfforddiant gwaith ieuenctid, gwirfoddoli neu ymholiadau am leoliadau, cysylltwch â Gareth Bennett, ein Swyddog Hyfforddiant, Achredu a Dysgu Awyr Agored, drwy anfon neges e-bost at Gbennett@sirgar.gov.uk
Cyfranogiad Pobl Ifanc
Mae sicrhau bod gan bobl ifanc lais ynghylch materion sy'n effeithio arnynt yn un o'n gwerthoedd a'n hegwyddorion craidd fel gwasanaeth. Rydym yn cynnwys pobl ifanc yn ein prosesau recriwtio, wrth gasglu adborth a gweithredu unrhyw newid yn ogystal â'u cynnwys yn ein gwaith cynllunio busnes.
Gallwn gynnig Cymhwyster mewn Arweinyddiaeth Iau i bobl ifanc 14 oed a hŷn a fydd yn cydnabod eu cyfraniad fel arweinwyr arfaethedig yn eu cymunedau. Bydd angen i bobl ifanc gwblhau lleoliad gwirfoddoli fel rhan o'r cymhwyster hwn. Gallwn hefyd gynnig achrediad cydnabyddedig i'r rhai o dan 14 oed.
Gall ein Gweithiwr Cyfranogiad Arweiniol hefyd ddarparu cyngor, cefnogaeth ac arweiniad ynghylch sut i sicrhau bod pobl ifanc yn cael lleisio'u barn mewn ymgynghoriadau, sut i sefydlu fforymau ieuenctid a sut i ymgysylltu â phobl ifanc wrth ddylunio, datblygu a gweithredu prosiect.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Heulwen O’Callaghan - Heocallaghan@sirgar.gov.uk
Cyfranogiad Ieuenctid
Mae gennych hawl i gyfranogiad ieuenctid! Ei ystyr yw gofalu ein bod yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc leisio eu barn a'u cefnogi i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain.
Mae'r Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn yn nodi bod gennych "yr hawl i ddweud beth rydych chi'n meddwl dylai ddigwydd pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnoch chi, ac i gael eich barn wedi'i hystyried" (Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn).
Rydym yn gweithio i sicrhau bod pob un ohonoch yn gwybod beth yw eich hawliau a sut i fod yn rhan o'r penderfyniadau sy'n effeithio ar eich bywydau. Byddwn yn parhau i wneud yn siŵr eich bod chi i gyd yn cael y cyfle i wneud hyn. Mae hyn yn golygu gwrando ar eich barn, eich pryderon a'ch sylwadau, i sicrhau bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y Cyngor Sir yn rhedeg a darparu gwasanaethau sy'n ateb eich anghenion, trwy wella'r ffordd rydym yn gweithio. Un ffordd rydym yn gwneud hyn yw drwy gefnogi gwaith Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin.
Grŵp o bobl ifanc 11-21 oed o Sir Gaerfyrddin yw Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, sy'n rhan o'r gwaith o lunio'r gwasanaethau sy'n effeithio arnynt. Nod y Cyngor Ieuenctid yw sicrhau bod gan bobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin lais, gan ofalu bod ganddynt ffordd o gael eu barn wedi'i chlywed ac o dynnu sylw at faterion sy'n effeithio arnynt ac ar eraill.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o'r gwaith neu mewn ymuno â'r Cyngor Ieuenctid, cysylltwch â ni.