Mynd i'r Afael â Thlodi Mislif
#PeriodDignitySirGâr
Mae'r mislif yn normal. Nid yw’n ddewis. Rydym i gyd yn ei gael, wedi’i gael, neu'n adnabod pobl sydd neu wedi’i gael. Dydy'r mislif ddim yn 'fater i fenywod' yn unig, nac yn beth budr, ac yn bendant nid yw’n rhywbeth i gywilyddio yn ei gylch. Ni ddylai neb fod o dan anfantais oherwydd mislif. Dylai pawb gael mynediad at nwyddau mislif, yn ôl yr angen, i'w defnyddio mewn man preifat sy'n ddiogel ac yn urddasol (Llywodraeth Cymru).
Mae mynd i'r afael â thlodi mislif yn parhau'n flaenoriaeth i'r llywodraeth. Cymru sy'n Falch o'r Mislif yw cynllun y llywodraeth i ddod â thlodi mislif i ben a sicrhau urddas mislif yng Nghymru. Nod y cynllun hyn yw gwneud Cymru yn genedl wirioneddol falch o’r mislif ac yn un sy’n sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar y nwyddau sydd eu hangen arnynt heb embaras na chywilydd.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, drwy Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi mislif ac yn falch fel awdurdod lleol i fod yn darparu'r rhai mewn angen â chynnyrch misglwyf am ddim.

Pwy sy’n gallu cael cynnyrch?
Mae cefnogaeth ar gael i unrhyw un sy'n cael cyfnod, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan pob ardal ar draws y sir adnoddau i'ch cefnogi a'u bod yn gallu darparu cynnyrch am ddim i chi.
Ble alla i gael cynnyrch?
Mae gan bob ysgol ar draws y sir gynnyrch i allu dosbarthu i unrhyw un sydd ei angen yn yr ysgol. Gallwch hefyd gasglu eich cynnyrch mislif am ddim o dros 75 o leoliadau ar draws y sir, gan gynnwys yr Hwbiau yn canol ein tair tref. Mae rhestr llawn o'n holl Bwyntiau Dosbarthu i'w gweld yma.
Pa gynnyrch sydd ar gael?
Mae amrywiaeth o gynnyrch ar gael, i siwtio anghenion pawb - tamponau, nicyrs mislif, padiau dydd, a phadiau nôs!
Y nod yw i ddosbarthu fwy o amrywiaeth o nwyddau mislif gan gyfyngu ar effaith amgylcheddol negyddol llawer o nwyddau tafladwy e.e nwyddau ailddefnyddiadwy a / neu gynnyrch di-blastig.

Sefydliadau Cymunedol
Os ydych chi'n Sefydliad, Prosiect neu Fusnes yn Sir Gâr ac yn awyddus i gefnogi'r prosiect drwy ddod yn 'Pwynt Dosbarthu' yna cysylltwch â ni trwy ebost BiwroCymunedol@carmarthenshire.gov.uk neu ffoniwch 01269 590216.
'Mislif Fi'
Ymunwch â ‘Mislif Fi’ sydd ar daith i rymuso'r rhai sy'n cael cyfnodau yn ogystal â'r rhai o'u cwmpas i fod yn gyfnod balch - torri'r tabŵ a normaleiddio cyfnodau. Darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am boen mislif, cynnyrch mislif a hyd yn oed bwyd mislif!
Cyngor Ieuenctid Sir Gâr
Mae Cyngor Ieuenctid Sir Gâr yn gweithredu fel "llais pobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin" ac yn anelu at greu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau yn yr awdurdod ar faterion fel urddas mislif. Ewch draw i wefan Cyngor Ieuenctid Sir Gâr i gael gwybod sut gallwch chi gymryd rhan.