Bremenda Isaf
Ffarm iseldir o ryw 100 erw ym mhentref Llanarthne yn perthyn i Gyngor Sir Gâr yw Bremenda Isaf. Mae’r tir cyhoeddus hwn bellach yn cael ei ddefnyddio fel lleoliad prawf ar gyfer menter gyffrous i dyfu ffrwythau a llysiau ffres, fforddiadwy ac o ansawdd uchel ar gyfer y plât cyhoeddus – yn ysgolion, cartrefi gofal a chaffis.
Ar hyn o bryd, mae llawer o’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta yng Nghymru wedi ei gynhyrchu a’i bacio mewn mannau eraill - weithiau hanner ffordd ar draws y byd. Ond er mwyn lleihau allyriadau carbon a chynyddu swyddi lleol, rydym yn edrych i ddychwelyd yma at fodel hŷn o brosesu’n lleol lle bo’n bosibl. Yn hanesyddol cynhyrchwyd popeth o afalau ac wyau i bacwn a chwrw yn y cefn gwlad i fwydo pobl yn y trefi ac mae manteision gwirioneddol mewn ffresni, ansawdd a diogelwch bwyd o wneud rhagor o hynny eto.
Mae’r fferm hon felly wedi bod yn gartref bywiog i bobl, natur a chyfoeth o fwyd ers amser maith, a nawr mae ar daith i fod yn fodel o ffermio cymysg ac adfywiol sy’n tynnu ar ein gorffennol i fwydo cenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r fferm wedi bod yn rhan o ystâd Ffermydd Sirol Sir Gaerfyrddin ers yr 1970au, un o nifer o ffermydd o’r fath sy’n darparu llwybr pwysig i mewn i ffermio i ddarpar ffermwyr na fyddent fel arall yn gallu cael eu troed yn y drws. Nawr, mae’r Cyngor Sir, gyda chefnogaeth cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, wedi neilltuo cyfran o’r fferm i dyfu llysiau a ffrwythau ffres i blant ysgol a phobl mewn gofal, gyda gwaith ar droed ar hyn o bryd i weld sut y gallai’r fferm gyfan ddod yn fodel o amaethu cymysg adfywiol.
Byddai hyn yn golygu unwaith eto gynhyrchu amrywiaeth eang o fwydydd o’r tir hwn a chyflenwi cymaint ohono yn lleol o fewn y sir â phosibl. Mae’r bywyd gwyllt ar y fferm hon, o lannau graean y Tywi i’r coed derw hynafol, eisoes yn amhrisiadwy. Drwy leihau neu ddileu’r defnydd o wrteithiau a phlaleiddiaid a ffermio mewn ffordd sy’n adfywio cylchoedd pridd a natur, gallai’r fferm ddod yn fodel o gynaliadwyedd economaidd ac adfywiaeth naturiol ar gyfer y Sir gyfan.
Mae Bremenda Isaf yn brosiect a gefnogir ac a gyflwynir gan Fwyd Sir Gâr.