Cynllun Toiledau Cymunedol
Mae’r Cynllun Toiledau Cymunedol yn gynllun partneriaeth sy’n cael ei gynnig gan fusnesau a Chyngor Sir Caerfyrddin, sy’n darparu toiledau lleol ychwanegol, sydd am ddim i aelodau’r cyhoedd eu defnyddio heb fod angen prynu rhywbeth.
Mae’r cynllun hwn yn galluogi mynediad pellach i ddarpariaeth toiledau lleol drwy weithio mewn partneriaeth â busnesau i ddarparu toiledau glân, diogel a hygyrch sydd ar gael i’r cyhoedd.
Bydd toiledau lleol sydd ar gael fel rhan o’r cynllun yn cael eu hysbysebu ar ein cyfryngau cymdeithasol, ein gwefan ac yn y wasg leol. Fel rhan o fod yn aelod o’r cynllun, bydd gofyn i fusnesau osod arwyddion yn eu ffenestri i hysbysu aelodau’r cyhoedd fod toiledau ar gael i’w defnyddio.
Gellir gweld y busnesau sy’n rhan o’r cynllun ar y map Yn fy ardal.
Os ydych yn fusnes lleol a’ch bod am ymuno â'r cynllun hwn, gweler isod y wybodaeth am sut i wneud cais.