Mannau Diogel a Chynnes – Newyddion Da

Mannau Diogel a Chynnes – Newyddion Da

Amcan gronfa Mannau Diogel a Chynnes y Llywodraeth Cymru oedd cefnogi lleoedd diogel a chynnes o fewn y gymuned leol y gallai pobl fynd iddi ar draws Sir Gaerfyrddin. Wnaeth cefnogaeth gael ei rhoi i mentrau oedd yn darparu amgylchedd croesawgar, hygyrch, diogel a chynnes i unigolion lleol. Roedd rhain yn fwy na dim ond mannau cynnes i'r unigolion hyn fynychu, ond yn le dymunol i fod a byddant yn agored ac yn gynhwysol ac ar gael i bawb yn y gymuned eu ddefnyddio. Mae'r mannau cynnes hyn wedi chwarae rhan wrth hwyluso a galluogi cymunedau a dinasyddion i leihau tlodi ac unigrwydd ledled Sir Gaerfyrddin.

  • Nifer y canolfannau clyd – 25 
  • Cyfnod cyllido – Ionawr 2025 i 31 Mawrth 2025
  • Wedi'u lleoli mewn 21 ward wahanol ledled y sir 
  • Nifer y bobl a ddefnyddiodd y gwasanaethau – 5,996
  • Nifer y bobl a ddysgodd sgiliau newydd – 692
  • Nifer y bobl a gafodd gyfleoedd gwirfoddoli – 325 
  • Y math o weithgareddau a gynhaliwyd - Sesiynau crefft, gweithdai coginio, clybiau gwau, dosbarthiadau celf, gwersi dawns, dangosiadau ffilmiau, sesiynau chwaraeon Actif, sesiynau gan ymgynghorwyr o'r HWB, cymorth cyngor ar bopeth 

Calon y Fferi

Rydyn ni wedi cydweithio ag amrywiaeth o asiantaethau allanol i ddarparu sesiynau a galluogi a chynyddu mynediad at wasanaethau. Mae'r rhain yn cynnwys:
  • Gwasanaeth Cyngor Cymunedol Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Actif Sir Gâr
  • Gweithio Sir Gaerfyrddin
  • Rhagnodwr Cymdeithasol
  • Tîm Allgymorth Datblygu Cymunedol y GIG
O ganlyniad i weithgareddau'r Ganolfan Glyd, y bwriad yw cynnal clwb gwnïo cymdeithasol newydd sy'n canolbwyntio ar ddefnyddio peiriant gwnïo a dysgu'r sgiliau sydd eu hangen i uwchgylchu dillad wrth roi cyfle i gwrdd a chymdeithasu ag eraill." 

 

Canolfan Antioch

Diolch i'r grant Mannau Cynnes, roedden ni'n gallu arbrofi o ran agor y caffi am un diwrnod ychwanegol yr wythnos, gyda rheolwr y ganolfan yn rhedeg y caffi ar ddydd Mawrth. Yn ystod y cyfnod hwn fe wnaethon ni ddenu gwirfoddolwr i'r caffi ar ddydd Mawrth felly rydyn ni nawr yn edrych ar sut allen ni barhau i gadw'r man cynnes ar agor ar ddydd Mawrth ar ôl i'r cyfnod cyllido ddod i ben, yn ogystal â'i agor ar ddydd Mercher ac ar ddydd Iau pan mae eisoes ar agor.”

 

Canolfan Carwyn

Yn ystod y man cynnes roedden ni'n gallu darparu 3 sesiwn ar gyfer Actif, a gyflwynodd 2 o'r sesiynau hyn yn llwyddiannus. Daeth nifer dda i'r sesiynau gan roi cyfle i blant ysgol lleol fwynhau sesiynau chwaraeon yn ein neuadd fawr, a gafodd eu cyflwyno gan swyddogion Actif a llysgenhadon chwaraeon iau. Mae ein gwirfoddolwyr wedi mwynhau'r cyfle i gymryd rhan yn y prosiect ac maen nhw wedi darparu rolau cefnogol hanfodol drwy gydol yr holl weithgareddau.”

Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Llandovery

Mae'r arian rydyn ni wedi'i dderbyn wedi ein galluogi i gyfeirio pobl at nifer o sefydliadau cymorth/cefnogaeth/cyngor gan gynnwys Cyngor ar Bopeth, a'r digwyddiad NACRO misol lle mae aelodau'r gymuned yn gallu manteisio ar nifer o wasanaethau buddiol.”

Canolfan y Mynydd Du

Daeth cyfanswm o 242 o bobl i'r ganolfan glyd. Roedd hyn yn cynnwys rhai oedd yn mynychu'n rheolaidd a rhai oedd yn cymryd rhan yn y gweithgareddau. Cymerodd 15 o bobl ran yn y dosbarth gwau, gan gynnig cyfle iddyn nhw ddysgu sgiliau ond hefyd lle i bobl gysylltu a gwneud ffrindiau. Daeth 15 o bobl i'r dosbarth coginio, oedd yn canolbwyntio ar baratoi prydau rhad llawn maeth. Daeth 15 o bobl i'r dosbarth celf, lle buon nhw'n edrych ar fynegiant artistig, a chael cyfle i'w mynegi eu hunain yn greadigol.”
Llwyddodd y prosiect i recriwtio 3 gwirfoddolwr newydd sydd wedi cyfrannu'n sylweddol at waith y Ganolfan Glyd o ddydd i ddydd. Buon nhw’n helpu i drefnu dosbarthiadau, yn cynorthwyo pobl oedd yn cymryd rhan ac yn sicrhau lle cyfeillgar a chefnogol."

 

Capel Bethlehem

Mae rhwng 35-45 yn mynychu Croeso Cynnes ar fore dydd Mawrth am ddwy awr bob wythnos – 49 yw’r nifer mwyaf. Darperir paned, tost a bisgedi. Cynhaliwyd 2 sesiwn hyfforddiant: 31 Ionawr 2025: Achub bywyd a diffibriliwr a 12 Chwefror 2025: Hylendid bwyd. Trefnwyd sesiwn Stori a Chȃn i rieni a phlant ifanc i ddechrau ar 19 Mawrth ac i'w gynnal bob pythefnos ar fore Mercher gyda chymorth Menter Iaith Sir Gȃr.”

 

Cegin Hedyn

Mae'r prosiect wedi rhagori ar y disgwyliadau, gyda dros 100 o bobl yn defnyddio ein gwasanaethau, y mae llawer ohonyn nhw'n wynebu ansicrwydd bwyd, unigrwydd, neu galedi ariannol.  Mae'r adborth gan y gymuned wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan, gan dynnu sylw at effaith rhannu prydau a darparu lle croesawgar ar lesiant. Mae ein ffordd o weithio - cyfuno bwyd maethlon, cynhwysiant cymdeithasol, a chyfleoedd i ddysgu sgiliau - wedi gwneud gwahaniaeth go iawn ac amlwg yn ystod y misoedd oerach.”

CETMA

Mae'r ganolfan glyd wedi bod yn llwyddiannus iawn ac wedi helpu aelodau o'r gymuned leol yn fawr. Un o’r uchafbwyntiau oedd gweithio gydag Adran Gelf Coleg Sir Gâr i baentio murlun ar ein caeadau. Thema'r murlun oedd beth mae Tyisha yn ei olygu iddyn nhw."

Clwb Rygbi Pont-iets

Fe wnaethon ni weithio gydag Age Cymru i ddarparu sesiynau cyngor yn y clwb ar 26 Chwefror 2025 i'r rhai oedd yn dod i'r ganolfan glyd.  Roedd llawer yn bresennol yn y digwyddiad hwn lle wnaethon nhw ddysgu sgiliau newydd, gan gynnwys diogelwch tân, cyngor lles, cyngor gofal, ymwybyddiaeth o sgamiau a chadw annibyniaeth.”

Fforwm Llwynhendy Pemberton

Gyda'r arian hwn rydyn ni wedi gallu darparu dwy ganolfan glyd o dan yr un to. Mae hyn wedi bod o gymorth mawr i bob oedran a gallu o ran cael dewis o fannau ar gyfer agweddau cymdeithasol a thlodi bwyd.” 
Mae 1,320 o bobl wedi defnyddio'r gwasanaethau, sy'n uwch na'r nod o 1,200. Gyda gweithgareddau fel crefftau, gemau bwrdd, sesiynau cyngor, dawnsio a sesiynau chwaraeon, dangosiadau ffilmiau, mae'r canolfannau wedi dod yn adnodd cymunedol hanfodol.  Rydyn ni'n falch o'r cyflawniadau hyn ac yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant."

 

Menter Cil-y-cwm

Y sesiynau mwyaf llwyddiannus oedd crosio a'r clwb gwyddbwyll ar ddydd Sadwrn; y bwriad yw bod y ddwy sesiwn hyn yn parhau i fisoedd yr haf. Denodd y clwb gwyddbwyll blant ifanc, 8 oed a hŷn, oedd yn awyddus i chwarae gwyddbwyll yn erbyn oedolion ac yn dilyn hynny roedd un ohonyn nhw'n ddigon hyderus i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ryngwladol ar-lein yr wythnos diwethaf!"

Menter Dinefwr

Yn ystod y cyfnod hwn, llwyddwyd i greu gofod croesawgar a chyfforddus, gyda digon o adnoddau i ddiddanu ymwelwyr ac i feithrin awyrgylch gynnes a chynhwysol.”

Myrtle House

Roedd ein rhaglen o weithgareddau yn cynnwys gwasanaethau cyngor a chyfeirio, sesiynau crefft creadigol, a gweithdai coginio ymarferol. O ganlyniad, roedd 60 o bobl wedi dysgu sgiliau newydd a chael hyfforddiant, gan wella eu hyder a'u gallu i reoli heriau bob dydd.  Hefyd, cafodd 10 unigolyn gefnogaeth i fanteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli, gan gyfrannu at ddatblygiad personol, a chryfhau capasiti cymunedol.”

Neuadd Gymunedol Trallwm

Daeth ymwelwyr â'r ganolfan glyd i'r sesiynau crefft wythnosol gan ddysgu sgiliau newydd ac rydyn ni bellach wedi penderfynu cynnal y sesiynau crefft am gyfnod amhenodol yn Neuadd Trallwm gan fod y bobl oedd yn cymryd rhan wedi rhoi adborth mor dda. Fe wnaethon nhw siarad am sut roedden nhw wrth eu bodd yn dod draw i'r Ganolfan Glyd i gael cwmni a sut roedd wedi gwella eu hiechyd meddwl gan fod y sesiynau yn tawelu'r meddwl ac roedden nhw'n gallu siarad ag eraill oedd yn dod draw gan fod ganddyn nhw resymau personol tebyg dros ddod.”
Mae 4 o'r gwirfoddolwyr newydd sy'n oedolion wedi dysgu sgiliau TG newydd ac maen nhw bellach yn helpu i wneud tasgau gweinyddol yn y neuadd ac mae 1 oedolyn wedi dechrau gwirfoddoli yn Ysgol Bryn Teg gerllaw yn ddiweddar fel aelod o'u Cymdeithas Rhieni ac Athrawon. Mae'r holl wirfoddolwyr wedi dweud eu bod nhw’n fwy hyderus ers gwirfoddoli yn Neuadd Trallwm a doedden nhw ddim yn teimlo wedi'u hynysu'n gymdeithasol mwyach ac mae ganddyn nhw bellach bwrpas yn eu bywydau.” 

People Speak Up

Yr uchafbwynt mwyaf oedd cydweithio gyda Cegin y Bobl. Fe wnaethon nhw ddod â'u sesiynau coginio cymunedol i ni a chafodd y rhain groeso mawr wrth i bawb baratoi, coginio a bwyta gyda'i gilydd. Mae ein gardd gymunedol wedi dwyn ffrwyth hefyd, felly roedden ni'n gallu defnyddio cynhwysion ffres o'r ardd.  Yr effaith barhaol yw bod PSU yn parhau i weithio gyda Cegin y Bobl a byddan nhw'n dod aton ni bob dydd Llun, felly mae'r bartneriaeth wedi cryfhau ac mae ein cymuned yn tyfu o ran y bobl sy'n cymryd rhan a'r rhai sy'n gwirfoddoli."

 

Ymddiriedolaeth Neuadd y Dref Cydweli

Mae Mark yn un o'r bobl sy'n defnyddio ein gwasanaeth. Mae ganddo gyflwr ysgyfaint difrifol sy'n effeithio arno'n gorfforol, mae'n gwella ar ôl bod yn gaeth i gyffuriau, ac mae'n byw ar ei ben ei hun gyda'i ddau gi yn ei fan. Pan mae'n teimlo'n ddigon dda, mae'n casglu sbwriel yn yr ardal. Mae'n ymweld â'r Cwtsh Gymunedol sawl gwaith yr wythnos. Mae'n rhoi cyfle iddo fe dwymo, cael bwyd a diod dwym a chymdeithasu gyda defnyddwyr gwasanaeth eraill. Mae'n bwriadu gwirfoddoli yn ein gardd gymunedol pan fydd ei iechyd yn caniatáu ac mae wedi rhoi hadau i'r grŵp garddio eu plannu."

 

Y Tŷ Celf

Mae'r Tŷ Celf wedi defnyddio'r grant Mannau Cynnes i alluogi pobl amrywiol i ddod i weithdai creadigol.  Roedd hyn yn cynnwys sesiynau creadigol i bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr ar brynhawn dydd Llun rhwng 2.00 a 4.00, lle gallen nhw wneud ffrindiau a chysylltiadau cymdeithasol, gan leihau ynysu ymysg y grŵp hwn o bobl."