Pecyn Cymorth Seilwaith Gwyrdd a Glas o dan Arweiniad y Gymuned

Dylunio Mannau Cymunedol

Ar ôl ichi sicrhau'r tir a chael dealltwriaeth lawn o'r safle, gallwch ddechrau dylunio'r lle..
Pan yn datblygu dyluniadau, efallai y bydd angen ichi ystyried yr agweddau canlynol:

  • Deunyddiau
  • Draenio
  • Hygyrchedd
  • Plannu
  • Dylunio ar gyfer Bioamrywiaeth
  • Glanweithdra a Rheoli Gwastraff
  • Ardaloedd Cysgodol

Dylid defnyddio adnoddau cynaliadwy o ffynonellau lleol lle bo modd. Mae'n bwysig hefyd ystyried hirhoedledd gwahanol fathau o ddeunyddiau, yn enwedig mewn perthynas â'r amgylchedd rydych chi ynddo. Lle’n bosib, gall ddefnyddio deunyddiau o ffynonellau lleol, sydd wedi eu hadennill neu ailgylchu cefnogi busnesau lleol, hybu economi gylchol a lleihau gwastraff.

Mae angen dylunio’r lle i sicrhau ei fod yn gallu gwrthsefyll llifogydd a sychder. Gallai hyn gynnwys lleihau ardaloedd sy’n creu llawer iawn o ddŵr ffo wyneb, drwy ddefnyddio Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau) a / neu ddeunyddiau athraidd.

Gall systemau draenio dŵr wyneb traddodiadol gynyddu'r perygl o lifogydd ar eich safle, felly mae'n bwysig dylunio'r safle'n briodol. Mae SDCau yn efelychu'r broses ddraenio naturiol i liniaru rhag perygl llifogydd. Gall SDCau hefyd gwella ansawdd y dŵr, a chreu cynefinoedd bio-amrywiol a mannau hamdden cymunedol newydd.

Os ydych yn ystyried adeiladu ar y safle, mae'n bwysig cofio y bydd angen gwneud cais draenio cynaliadwy i adran SAB yr awdurdod lleol ar gyfer unrhyw adeilad dros 100 metr sgwâr. Bydd angen i'r cais ddangos sut yr ymdriniwyd â draenio.

Mae angen i ofod cymunedol bod yn hygyrch i'r unigolion y mae'n eu gwasanaethu. Rhaid ystyried hygyrchedd yn gynnar er mwyn atal gwaharddiad ac ôl-ffitio drud. Gallai dylunio hygyrch gynnwys llwybrau fwy llydan ar gyfer mynediad i gadeiriau olwyn, gwahanol fathau o seddi, neu welyau blodau/plannu wedi'u codi.

Mae'r Sensory Trust yn darparu adnoddau ar ddylunio mannau hygyrch. Mae hefyd yn bwysig creu cynllun sy'n sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel. Gall ymchwil a wneir gan Brifysgol Leeds fod yn ddefnyddiol wrth sicrhau hyn.

Er mwyn gwneud y gorau o hirhoedledd ac unrhyw gynlluniau i blannu ar y safle, bydd angen ichi feddwl am yr hyn sydd orau i'w blannu – meddyliwch ‘y planhigyn cywir, y llw cywir’. Dylid roi'r flaenoriaeth i blanhigion brodorol a phlanhigion sy'n tarddu o'r ardal leol, sy'n cynnal pryfed peillio. Mae'r rhain fel arfer yn haws i'w cadw, wedi arfer â'r amodau lleol, ac yn cynnig cynefin i fywyd gwyllt lleol.

Os ydych chi'n ystyried plannu coed ar y safle, mae angen ichi ystyried yn ofalus pa fath o goeden sydd yn fwyaf priodol, yn dibynnu ar y lleoliad, ei safle, ynghyd â'r gofynion cynnal a chadw yn y dyfodol. Gallai fod yn fuddiol gofyn am farn gweithiwr proffesiynol a all awgrymu'r math a'r lleoliad mwyaf priodol ar gyfer coed. Hefyd, er y gallai fod yn ddrutach prynu a phlannu coed fwy sefydledig yn lle glasbren, os dewisir y math cywir o goeden a'i phlannu'n briodol, efallai y bydd yn fwy tebygol o lwyddo.
Mae gan Goed Cadw ragor o wybodaeth ynghylch sut i ddewis y goeden gywir.

Mae sut y gall y safle gynnal bioamrywiaeth yn ystyriaeth allweddol y gall helpu taclo’r argyfwng natur. Yn gyntaf, mae angen ichi ddeall pa fioamrywiaeth sydd eisoes yn bresennol ar safle, gan gynnwys unrhyw rywogaethau gwarchodedig. Gallwch wedyn ystyried sut i gefnogi'r rhywogaethau hynny ymhellach ac annog rhagor o fioamrywiaeth, ee drwy blannu blodau gwyllt brodorol i bryfed peillio.

Gallwch ddarganfod rhywogaethau a chynefinoedd blaenoriaeth ar ein gwefan.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gefnogi peillwyr, ewch i Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Bydd angen ichi ystyried pa gyfleusterau sydd ar y safle i ymdrin â glanweithdra a gwastraff. Os nad oes cyfleusterau ar gael ar hyn o bryd, bydd angen ichi feddwl a oes angen cyfleusterau o'r fath. Er enghraifft, gallech ystyried ychwanegu toiledau compost a chyfleusterau compostio gwastraff gwyrdd.

Ni ddylid gosod toiledau heb ofyn am gyngor proffesiynol ac efallai y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch. Gall y gofynion amrywio yn dibynnu ar leoliad y safle, ond bydd angen gosod system draenio dŵr brwnt a'i dangos.

Efallai y bydd angen ichi hefyd gael mynediad at ddŵr ar y safle, naill ai drwy brif gyflenwad dŵr neu drwy gasglu dŵr glaw. Bydd yr angen am ffynhonnell o ddŵr yn ddibynnol ar y safle ei hun ac ar y gweithgareddau arfaethedig. Mae gan Dŵr Cymru ganllawiau ar y broses o osod prif gyflenwad dŵr ynghyd â’r costau cysylltiedig.

Mae ardaloedd cysgodol yn elfen sy'n aml yn cael ei hanghofio wrth ddylunio mannau hygyrch. Er y gallech feddwl ei bod hi'n bwysig sicrhau cymaint o haul ar y safle â phosib i dyfu planhigion, mae'n bwysig cynnwys ardaloedd cysgodol hefyd. Bydd hyn yn helpu i osgoi problemau fel llosg haul a strôc haul ym misoedd cynhesaf y flwyddyn. Gall ardaloedd felly hefyd fod yn ddefnyddiol ar gyfer gweithdai y gellir eu cynnal ym mhob tywydd os oes cysgod priodol ar gael.