Hawliadau yswiriant awdurdod lleol
Mae'r dudalen we hon yn darparu gwybodaeth glir, dryloyw a chynhwysfawr am sut i wneud hawliad yswiriant yn erbyn Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae wedi'i chynllunio i helpu preswylwyr, busnesau a phartïon eraill i ddeall y canlynol:
- Beth yw hawliad yswiriant?
- Cyn i chi wneud hawliad
- Sut mae gwneud hawliad?
- Ein proses hawliadau a'r amserlenni
Beth yw hawliad yswiriant?
Hawliad yswiriant yw pan fyddwch chi'n gofyn i'r Cyngor dalu am ddifrod, colled neu anaf rydych chi'n credu ei fod/bod wedi'i (h)achosi gan rywbeth a wnaeth y Cyngor neu a fethodd â'i wneud. I dderbyn iawndal, rhaid i chi ddangos bod y Cyngor yn gyfrifol ac yn gyfreithiol ar fai – mae hyn yn golygu nad oedd wedi cymryd gofal rhesymol neu ei fod yn esgeulus.
Cyn i chi wneud hawliad
Darllenwch hyn yn ofalus cyn i chi ddechrau.
Nid yw iawndal yn awtomatig
Nid yw cyflwyno hawliad yn gwarantu iawndal ac, mewn llawer o achosion, nid yw iawndal yn cael ei dalu. Mae pob hawliad yn cael ei adolygu'n unigol i benderfynu a yw'r Cyngor yn gyfreithiol gyfrifol am y digwyddiad. Mae hyn yn golygu bod rhaid i ni fod wedi methu â chymryd gofal rhesymol, ac mae'n rhaid i'r methiant hwnnw fod wedi achosi'r broblem yn uniongyrchol. Weithiau, mae damweiniau yn digwydd sy'n anffodus ond nad ydynt wedi'u hachosi gan esgeuluster unrhyw un. Os nad oedd y Cyngor yn esgeulus neu ar fai, ni fydd iawndal yn cael ei dalu.
Ein dyletswyddau
Mae dyletswydd ar y Cyngor i ddiogelu arian cyhoeddus, a gellir rhannu gwybodaeth a ddarperir gennych gydag Addaswyr Colledion, Yswirwyr, Cyfreithwyr, neu awdurdodau perthnasol fel yr Heddlu, i helpu i ganfod ac atal twyll. Gall unrhyw un y ceir ei fod yn gwneud neu'n cynorthwyo â hawliad twyllodrus wynebu erlyniad troseddol.
Casglu tystiolaeth a pharatoi eich hawliad
Cyn cyflwyno'ch hawliad, casglwch dystiolaeth i gefnogi'ch hawliad. Gall hyn gynnwys lluniau o'r difrod, datganiadau tystion a'u manylion cyswllt, derbynebau am dreuliau neu atgyweiriadau, cofnodion meddygol, ac ati. Dylech gynnwys manylion ynghylch pryd a ble y digwyddodd y digwyddiad a disgrifio'n glir beth ddigwyddodd a pham rydych chi'n credu bod y Cyngor ar fai. Bydd darparu gwybodaeth gyflawn a chywir yn ein helpu i asesu eich hawliad yn gyflymach.
Nid oes ffioedd na thaliadau i wneud hawliad
Nid oes arnoch angen cyfreithiwr i wneud hawliad. Gallwch ei wneud eich hun, ac nid ydym yn codi tâl.
Terfynau amser ar gyfer gwneud hawliad
Fel arfer, mae gennych:
- 3 blynedd i hawlio am anaf personol
- 6 blynedd i hawlio am ddifrod i eiddo
Gallwch gael cyngor cyfreithiol ar unrhyw gam o'r broses hawlio os dymunwch - ond nid yw'n angenrheidiol.
Sut mae gwneud hawliad?
Dilynwch y camau hyn i gyflwyno'ch hawliad.
Pwysig: Os nad oedd y Cyngor ar fai, gall eich hawliad gael ei wrthod.
Cam 1: Rhoi gwybod am y digwyddiad
Rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl ar ôl y digwyddiad. Mae hyn yn ein helpu i ymchwilio'n gyflym, casglu tystiolaeth, ac atal niwed neu ddifrod pellach.
Cam 2: Rhoi eich manylion
Bydd arnom angen eich enw llawn, cyfeiriad y digwyddiad a manylion cyswllt.
Cam 3: Disgrifio'r digwyddiad
Rhowch ddisgrifiad clir o'r hyn ddigwyddodd, gan gynnwys:
- Amser, dyddiad a lleoliad y digwyddiad
- Disgrifiad manwl o'r digwyddiad, ac esboniwch pam rydych chi'n credu y gallai Cyngor Sir Caerfyrddin fod yn gyfrifol. Cofiwch gynnwys yr holl fanylion angenrheidiol a pherthnasol a nodi'r rhesymau pam rydych chi'n credu y gallai gweithredoedd (neu ddiffyg gweithredoedd) y Cyngor fod wedi achosi'r broblem.
Mae hyn yn ein helpu i ddeall ac asesu eich hawliad yn gyflymach.
Cam 4: Cyflwyno tystiolaeth ategol
Dylech gynnwys unrhyw dystiolaeth sy'n helpu eich hawliad, fel:
- Tystiolaeth ffotograffig o'r difrod neu'r lleoliad
- Manylion cyswllt unrhyw dystion
- Tystiolaeth o golled ariannol (dyfynbrisiau, derbynebau, anfonebau, ac ati.). Sylwch y bydd oedran yr eitemau sydd wedi'u difrodi (traul) yn cael ei ystyried os bydd cynnig setlo yn cael ei wneud.
Mae tystiolaeth yn cryfhau eich hawliad ac yn caniatáu i ni asesu colledion yn gywir.
Cam 5: Aros am asesiad
Bydd ein Haddaswyr Colledion yn adolygu'ch hawliad, yn ymchwilio i'r ffeithiau gyda'r adrannau perthnasol, ac yn penderfynu a yw'r Cyngor yn atebol.
Cam 6: Penderfyniad a chanlyniad
Bydd ein Haddaswyr Colledion yn rhoi gwybod i chi am y penderfyniad yn ysgrifenedig, gan esbonio'r canlyniad, swm y setliad (os yw'n berthnasol), a'r camau nesaf.
Ffyrdd o gyflwyno'ch hawliad:
E-bost: RheolaethRisg@sirgar.gov.uk
Trwy'r Post: Cyngor Sir Caerfyrddin, At Sylw Rheolaeth Risg, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP
Ein proses hawliadau a'r amserlenni y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonyn nhw
| Cam | Disgrifiad | Amserlen Ddisgwyliedig |
|---|---|---|
| Cam 1: Cydnabod ac Atgyfeirio | Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydnabod eich hawliad ac yn rhoi cyfeirnod i chi. | o fewn 7 diwrnod gwaith |
| Cam 2: Adolygiad Cychwynnol | Bydd Tîm Ymdrin â Hawliadau Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwirio'r wybodaeth sylfaenol a bydd yn atgyfeirio'r hawliad at yr Addaswyr Colledion – Gallagher Bassett. | o fewn 15 diwrnod gwaith |
| Cam 3: Cydnabyddiaeth gan yr Addaswyr Colledion | Bydd yr Addaswyr Colledion yn cydnabod eu bod wedi derbyn eich hawliad ac yn rhoi cyfeirnod i Gyngor Sir Caerfyrddin a chi.
Pwysig: O'r pwynt hwn ymlaen, dylai eich gohebiaeth fynd yn uniongyrchol at yr Addaswyr Colledion, nid at Gyngor Sir Caerfyrddin. |
o fewn 15 diwrnod gwaith |
| Cam 4: Ymchwiliad gan yr Addaswyr Colledion | Bydd yr Addaswyr Colledion yn archwilio'r dogfennau perthnasol ac yn gwerthuso'r ffeithiau. Gallant ofyn am ragor o wybodaeth gan Gyngor Sir Caerfyrddin a gennych chi. | fel arfer, rhwng 30 a 90 diwrnod gwaith yn dibynnu ar gymhlethdod yr hawliad* |
| Cam 5: Penderfyniad am Atebolrwydd |
Byddwch yn derbyn penderfyniad ysgrifenedig:
|
fel arfer, rhwng 8 a 12 wythnos yn dibynnu ar gymhlethdod yr hawliad |
| Cam 6: Taliad Setlo (ar gyfer hawliadau llwyddiannus yn unig) | Unwaith y byddwch yn derbyn y cynnig, gwneir y taliad trwy BACS gan ein Haddaswyr Colledion. | o fewn 10-20 diwrnod gwaith |
| Cam 7: Os na fydd eich cais llawn yn llwyddiannus | Os na dderbynnir eich hawliad, mae gennych hawl i herio'r penderfyniad. Gallwch wneud hyn trwy ddarparu gwybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol sy'n cefnogi eich achos.
Gallwch hefyd ddewis cael cynrychiolaeth gyfreithiol ar unrhyw gam o'r broses hawlio, er nad yw hyn yn angenrheidiol. |
yn amrywio yn dibynnu ar natur yr her ac unrhyw dystiolaeth newydd a ddarperir. |
*Sylwer: Gall hawliadau cymhleth neu rai sy'n ymwneud ag anaf gymryd mwy o amser.
Ymwadiad
Nid yw cyflwyno hawliad yn gwarantu iawndal. Ymchwilir i bob hawliad yn ofalus yn seiliedig ar y ffeithiau a'r gyfraith. Cyfrifoldeb yr hawlydd yw darparu tystiolaeth sy'n dangos bod y Cyngor ar fai - mae hyn yn golygu profi esgeuluster neu atebolrwydd cyfreithiol.
Cysylltwch â ni
Tîm Hawliadau a Rheolaeth Risg
At Sylw Rheolaeth Risg
Neuadd y Sir, Caerfyrddin
SA31 1JP


