Cwestiynau cyffredin
Diweddarwyd y dudalen ar: 04/12/2025
Na fyddwch. Mae iawndal yn cael ei gynnig dim ond os canfyddir bod y Cyngor yn atebol yn gyfreithiol, sy'n golygu ein bod wedi methu â chymryd gofal rhesymol a bod hynny wedi achosi'r difrod neu'r anaf.
Hawliadau sydd â thystiolaeth glir bod y Cyngor yn gyfrifol am y difrod, y golled neu'r anaf.
Dim ond os gellir dangos bod y difrod wedi'i waethygu gan esgeuluster y Cyngor.
Dim ond mewn amgylchiadau cyfreithiol penodol, a bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ategol gref.
Mewn rhai achosion, gallwch - os yw'r golled yn uniongyrchol gysylltiedig â gweithredoedd neu esgeuluster y Cyngor.
Dim ond os oedd y difrod oherwydd bod bai ar y Cyngor, neu ei fethiant i weithredu.
Na allwch. Mae'r Cyngor yn yswirio'r adeilad a'r gosodiadau, ond nid eich eiddo personol. Dylai fod gennych eich yswiriant cynnwys eich hun. Am gyngor, cysylltwch â'ch Swyddog Tai.
Efallai y byddwn yn talu cost resymol atgyweiriadau dros dro brys os ceir ein bod yn atebol.
Gallwch wneud hawliad o hyd, ond bydd angen i chi ddarparu derbynebau, dyfynbrisiau neu anfonebau.
Byddwn yn dal i adolygu eich hawliad, ond gall tystiolaeth goll leihau'r siawns y bydd yn llwyddiannus.
Os ydych chi'n credu bod gweithredoedd neu esgeuluster y Cyngor wedi achosi eich colled, gallwch gyflwyno hawliad.
Dyma rai o'r mathau cyffredin:
- Atebolrwydd cyhoeddus
- Difrod i eiddo
- Digwyddiadau sy'n ymwneud â phriffyrdd a ffyrdd
- Damweiniau modur yn cynnwys cerbydau'r Cyngor
- Atebolrwydd y cyflogwr (ar gyfer staff y Cyngor yn unig)
Cysylltwch â'r gwasanaeth brys perthnasol yn gyntaf. Yna rhowch wybod i'r Cyngor cyn gynted â phosibl.
Nac oes. Gallwch gyflwyno hawliad eich hun. Fodd bynnag, mae croeso i chi gael cynrychiolaeth gyfreithiol os dymunwch.
Nid yw'r Cyngor yn codi ffi. Os dewiswch benodi cyfreithiwr, eich cyfrifoldeb chi yw unrhyw gostau cyfreithiol. Os cymerir camau cyfreithiol a bod eich hawliad yn aflwyddiannus, gallwch chi fod yn atebol am eich costau eich hun neu'r rhai a ddyfarnwyd gan y llys.
Gallwch. Gallwch ofyn am adolygiad gan yr Addaswyr Colledion a dilyn eu gweithdrefn gwyno. Bydd angen i chi ddarparu rhagor o wybodaeth neu dystiolaeth i gefnogi'ch apêl.
Gallwch ofyn am adolygiad a chyflwyno tystiolaeth ychwanegol i'w hailystyried.
Gallwch. Gallwch ofyn am gyngor cyfreithiol neu benodi cyfreithiwr ar unrhyw adeg yn y broses hawlio.
Gellir datrys hawliadau syml o fewn 30–90 diwrnod gwaith. Gall hawliadau cymhleth gymryd mwy o amser.
Dylech gyflwyno eich hawliad cyn gynted â phosibl. Mae terfynau amser cyfreithiol yn berthnasol:
- 3 blynedd ar gyfer hawliadau anaf personol
- 6 blynedd ar gyfer hawliadau difrod i eiddo
Os ydych yn dymuno gwneud hawliad ar ôl y terfynau amser hyn, rhaid cyflwyno achosion llys.
Gallwch. Gallwch ofyn am ddiweddariadau gan yr Addaswyr Colledion ar unrhyw adeg.
Methu â chymryd gofal rhesymol, sy'n arwain at niwed neu ddifrod i rywun neu ei eiddo.
Yswiriant sy'n cwmpasu anaf neu ddifrod i drydydd partïon a achoswyd gan weithredoedd y Cyngor neu ei fethiant i weithredu.
Dim ond os oedd y Cyngor yn gyfrifol am achos y difrod neu'r golled y gallwn ystyried hawliadau.
Bydd eich data ond yn cael ei rannu gyda'n hyswirwyr, timau cyfreithiol, neu gontractwyr perthnasol, at ddibenion asesu eich hawliad.
