Prif ddiffiniadau: hawliadau yswiriant

  • Hawliad Yswiriant
    Cais ffurfiol i Gyngor Sir Caerfyrddin neu ei yswirwyr yn gofyn am iawndal am golled, difrod neu anaf rydych chi'n credu y cafodd ei (h)achosi gan esgeuluster y Cyngor.
  • Hawliwr
    Y person, y busnes neu'r sefydliad sy'n gwneud yr hawliad.
  • Esgeuluster
    Pan fydd rhywun yn methu â chymryd gofal rhesymol, gan arwain at niwed, difrod neu anaf i berson arall neu ei eiddo.
  • Atebolrwydd Cyhoeddus
    Yswiriant sy'n cwmpasu anaf neu ddifrod i drydydd partïon neu eu heiddo oherwydd gweithredoedd y Cyngor neu ei fethiant i weithredu.
  • Colled
    Y niwed, difrod neu'r gost ariannol rydych chi'n hawlio amdano/amdani.
  • Tystiolaeth
    Dogfennau, ffotograffau, datganiadau tystion, anfonebau, derbynebau neu dystiolaeth arall sy'n cefnogi eich hawliad.
  • Setliad
    Y taliad terfynol y cytunwyd arno neu ddatrys hawliad.
  • Amserlen
    Y cyfnod disgwyliedig i'ch hawliad gael ei adolygu a'i ddatrys.
  • Hawliad Twyllodrus
    Hawliad a wneir gan ddefnyddio gwybodaeth ffug neu gyda'r bwriad o dwyllo.
  • Polisi
    Y contract yswiriant ysgrifenedig ffurfiol rhwng y Cyngor a'i yswiriwr, sy'n amlinellu beth sy'n cael ei gwmpasu ac o dan ba amodau.
  • Triniwr Hawliadau
    Aelod o Dîm Yswiriant y Cyngor sy'n rheoli camau cyntaf eich hawliad ac yn cydgysylltu â chi, yr Addaswyr Colledion ac adrannau eraill.
  • Addaswyr Colledion
    Gweithwyr yswiriant proffesiynol annibynnol a benodir gan y Cyngor i ymchwilio i'ch hawliad a'i asesu. Maent yn casglu ffeithiau, yn archwilio difrod, ac yn argymell canlyniad teg yn seiliedig ar y polisi. Maent yn ddiduedd ac nid ydynt yn cynrychioli'r naill ochr neu'r llall. 
  • Gwrthod
    Pan fydd hawliad yn cael ei wrthod yn ffurfiol, bydd hynny fel arfer oherwydd nad yw'r Cyngor yn gyfreithiol gyfrifol.
  • Cynnig Setlo
    Swm arfaethedig o iawndal a gynigir i'r hawlydd os derbynnir atebolrwydd.
  • Cynrychiolaeth gyfreithiol
    Cyfreithiwr neu gynghorydd cyfreithiol y gallwch ei benodi i helpu gyda'ch hawliad. Mae hyn yn ddewisol ac nid yw'n angenrheidiol i wneud hawliad.
  • Taliad BACS
    Dull trosglwyddiad banc a ddefnyddir i dalu setliadau yn uniongyrchol i'ch cyfrif.