Tir halogedig

Mae gan Sir Gaerfyrddin etifeddiaeth ddiwydiannol gyfoethog ac amrywiol, sydd wedi arwain at nodi nifer o safleoedd a allai fod yn halogedig. 

Diffinnir tir halogedig o dan Ran 2A o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 fel a ganlyn:

"any land which appears to the local authority in whose area it is situated to be in such a condition, by reason of substances in, on or under the land, that

  1. significant harm is being caused or there is a significant possibility of such harm being caused; or
  2. pollution of controlled waters is being, or is likely to be, caused."

Nid yw presenoldeb halogion yn unig mewn neu o dan ardal benodol o dir yn ddigon i'r tir hwnnw gael ei bennu fel 'Tir Halogedig' fel y diffiniwyd yn Rhan 2A. Mae'n rhaid iddo gael cysylltiad wedi'i gadarnhau â llygrydd, gan ddangos ffynhonnell, llwybr a derbynnydd gyda pherthynas glir rhwng bob un o'r tri.

Cyfrifoldebau Cyngor Sir Caerfyrddin:

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i Awdurdodau Lleol archwilio eu hardaloedd i nodi Tir Halogedig. Os darganfyddir Tir Halogedig, mae'n rhaid i'r cyngor gymryd camau i reoli'r risgiau a achosir gan yr halogiad. Yn 2024, cyhoeddodd Cyngor Sir Caerfyrddin fersiwn ddiwygiedig o'i Strategaeth Archwilio sy'n nodi dull y cyngor o arolygu Tir Halogedig.

Gellir darllen y strategaeth hon yma: 

Rhagarweiniad

  • Yn unol â'n Strategaeth Archwilio, bydd yr adain Diogelu'r Amgylchedd yn bennaf yn nodi safleoedd a allai fod yn halogedig drwy'r drefn gynllunio, lle bydd hefyd yn sicrhau asesiad risg priodol ac (os oes angen) gwaith adfer.
  • O dan y drefn gynllunio, mae'n rhaid i ddatblygwyr sicrhau y gellir mynd i'r afael yn rhesymol â halogiad ar safle, gan wneud y tir yn addas i'w ddefnydd arfaethedig a'i fod yn cydymffurfio â Rhan 2A o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. 
  • Os gall safle fod yn halogedig oherwydd gweithgareddau'r gorffennol (ar y safle neu gerllaw), mae'n rhaid ei asesu i bennu lefelau halogi, risgiau i iechyd a'r amgylchedd, a chamau adfer. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer datblygiadau sy'n cynnwys defnyddiau terfynol sensitif.

 

  • Wrth ymchwilio i dir halogedig, mae'n rhaid defnyddio methodoleg sy'n seiliedig ar risg, gan ddibynnu ar y dystiolaeth fwyaf credadwy sydd ar gael ar yr adeg honno. Mae'r weithdrefn hon wedi'i hegluro ar y tudalennau gwe Rheoli Risg Halogiad Tir. Mae'r broses rheoli risg tir halogedig yn cynnwys tri cham sylfaenol, pob un wedi'i rannu'n haenau ychwanegol.

 

  • Bydd canlyniadau'r asesiadau ar bob cam yn pennu a oes angen symud ymlaen i'r cam nesaf. Er enghraifft, os yw Asesiad Risg Rhagarweiniol yn datgelu potensial ar gyfer lefelau halogi annerbyniol, yna mae'n rhaid cynnal Asesiad Risg Meintiol. Os yw'r asesiad risg pellach hwn yn nodi risgiau annerbyniol oherwydd halogiad, bydd angen gwneud gwaith adfer a gwirio.
  • Mae'r tudalennau gwe Rheoli Risg Halogiad Tir yn berthnasol i bob endid sy'n gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o reoli halogiad tir. Trwy gydol y broses, mae cyfraniad gan weithwyr proffesiynol cymwys sydd â chymwysterau addas ac yswiriant indemniad priodol yn hanfodol. Mae'n rhaid i ymgynghorwyr a benodir ddangos eu bod yn cadw at arferion gorau a'r egwyddorion a amlinellir yn y tudalennau gwe Rheoli Risg Halogiad Tir. Yn ogystal, mae angen defnyddio dogfennau cyfarwyddyd CIRIA a Safonau Prydeinig ar wahanol gamau o'r broses, ac mae rhagor o fanylion ar gael ar dudalennau gwe Rheoli Risg Halogiad Tir (Rheoli Risg Halogiad Tir (LCRM) - GOV.UK (www.gov.uk)).

 

Cyffredinol

  • Mae angen i ddatblygwyr ystyried graddfa, cost, hyd, mesurau diogelwch, ac adroddiadau sy'n ofynnol i ddangos y gellir mynd i'r afael â materion halogiad tir. 
  • Gall gwybodaeth annigonol yn ystod cynllunio arwain at oedi, cynyddu neu wrthod ceisiadau cynllunio. 

Dewis Ymgynghorydd Cymwys

  • Mae asesiadau halogiad tir yn dasgau arbenigol sy'n gofyn am gymhwysedd, profiad a barn broffesiynol ofalus. Mae'n rhaid i ddatblygwr benodi ymgynghoriaeth geo-amgylcheddol cymwys i gynnal yr asesiadau hyn. Ni all y cyngor ddarparu argymhellion ynghylch pwy i'w benodi. 
  • Nid yw'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth samplu, ac nid yw'n cynllunio nac yn cynnal ymchwiliadau safle nac yn dehongli canlyniadau o ymchwiliadau a gynhelir gan eraill. Mae hyn yn cynnwys unigolion sy'n gwneud cais am ganiatâd cynllunio neu y rhoddwyd caniatâd cynllunio iddynt, datblygwyr a'u hasiantau. 
  • Drwy ymgysylltu ag arbenigwyr cymwys a phrofiadol drwy gydol y broses, rydych yn fwy tebygol o osgoi siom, oedi, ceisiadau am wybodaeth ychwanegol, costau gormodol, a chael eich cais am ganiatâd cynllunio neu ryddhau amod wedi'i wrthod. Bydd gwybodaeth nad yw'n bodloni safonau boddhaol yn cael ei gwrthod. 
  • Gall fod yn heriol sicrhau y bydd ymgynghoriaeth yn gwneud gwaith da, ond trwy gynnal ychydig o wiriadau a deall eich gofynion a'u diben, gallwch ofyn cwestiynau gwybodus i helpu i benderfynu pwy i'w benodi. 

Dyma rai enghreifftiau o ystyriaethau ar gyfer datblygwr:

  • Gofynnwch am sawl dyfynbris a gofynnwch am ddadansoddiad manwl (e.e., samplu, goruchwylio safle, adrodd, dadansoddiad gan labordy, galwadau ffôn, llythyron, cyfarfodydd, manylion a chymwysterau is-gontractwyr, ac ati). Mae hyn yn helpu i sicrhau gwerth am arian ac yn gwneud cymharu dyfynbrisiau yn haws.
  • Trafodwch y safle a'r datblygiad arfaethedig gyda'r cwmnïau sy'n darparu dyfynbrisiau. Dylech gynnwys unrhyw wybodaeth sy'n berthnasol i gais cynllunio, neu'r amodau perthnasol yr ydych yn ceisio eu rhyddhau. Eglurwch eich gofynion a'r rhesymau drostynt. 
  • Mae yna hefyd gwestiynau perthnasol y gallwch eu gofyn: A yw'r ymgynghoriaeth wedi gwneud gwaith yn Sir Gaerfyrddin? Sut aeth y prosiect? A oes ganddynt brofiad helaeth o gynnal Asesiad Risg Tir Halogedig? Pa aelod penodol o staff fydd yn ymgymryd â'r gwaith? A ydynt yn meddu ar y cymwysterau priodol i ymgymryd â'r gwaith sydd ei angen? A ydynt yn gallu darparu canolwyr y gellir cysylltu â hwy?
  • Mae goruchwyliaeth gan berson cymwys yn ystod yr ymchwiliad yn hanfodol gan ei fod yn sicrhau cydymffurfiaeth â chwmpas yr ymchwiliad, safonau, arferion gorau a gweithdrefnau. Maent hefyd yn sicrhau bod samplau yn cael eu casglu, cofnodi, storio a'u trin yn briodol, sy'n arwain at well gwasanaeth, gwerth am arian, a'r wybodaeth fwyaf cywir o'ch ymchwiliad.  

Mae'r cwestiynau ychwanegol i'w hystyried yn cynnwys:

  • A ydyn nhw'n dilyn gweithdrefnau sicrhau ansawdd?
  • Faint o'r gwaith fydd yn cael ei wneud yn fewnol o gymharu â'i is-gontractio. 
  • A oes ganddynt yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ac indemniad proffesiynol?
  • A ydyn nhw wedi wynebu unrhyw erlyniadau am droseddau amgylcheddol neu sy'n gysylltiedig â llygredd?
  • A yw'r cwmni'n sefydlog yn ariannol?
  • A oes ganddynt yr arbenigedd a'r profiad angenrheidiol ar gyfer pob cam o'r prosiect?

Fel arfer, gall ein Swyddog Tir Halogedig roi cymorth ychwanegol ar gais. Os ymdrinnir â chais o fewn y drefn gynllunio, gall helpu'r ymgeisydd â'r wybodaeth ganlynol:

  • Canllawiau ar Ofynion Rheoleiddio: Gwybodaeth fanwl am y fframwaith rheoleiddio sy'n rheoli tir halogedig, gan gynnwys deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol.
  • Hanes y Safle a gwybodaeth berthnasol arall: Darparu cofnodion sydd ar gael o hanes y safle, gan gynnwys unrhyw asesiadau halogiad, ymchwiliadau neu ymdrechion adfer blaenorol.
  • Darparu 'Canllaw Datblygwyr' CLlLC: Mae'r canllaw yn rhoi gwybodaeth am sut i gynnal asesiad risg, pa ffactorau i'w hystyried, a pha safonau a methodolegau y dylid eu defnyddio. 
  • Ystyriaethau Cynllunio a Datblygu: Rhoi arweiniad i'r swyddogaeth rheoli datblygu ar sut y gallai materion halogiad effeithio ar geisiadau cynllunio, a darparu argymhellion o ofynion, a allai gynnwys amodau.
  • Cyfeirio at adnoddau neu asiantaethau eraill: Efallai y byddwn yn cyfeirio ymgeiswyr at adnoddau perthnasol eraill, megis Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), dogfennau cyfarwyddyd technegol, neu ymgynghorwyr arbenigol i gael cymorth pellach.
  • Darparu cymorth technegol i asiantaethau neu ymgynghorwyr: Cyfrannu at gynlluniau i ymgynghorwyr neu asiantaethau. 

Ni all ein swyddog tir halogedig gynorthwyo â'r canlynol:

  • Ymchwiliadau Safle Manwl: Nid ydym yn cynnal ymchwiliad i'r safle nac yn dehongli data ymchwilio safle ar ran ymgeiswyr.
  • Llunio Cynlluniau Ymchwilio: Nid ydym yn llunio cynlluniau ymchwilio penodol ar gyfer safleoedd, er y gallwn ddarparu arweiniad cyffredinol ar yr hyn y dylai cynllun ei gynnwys. 
  • Cymeradwyo Ymgynghorydd: Nid ydym yn argymell ymgynghorwyr neu gontractwyr penodol, er y gallwn roi cyngor ar gymwysterau a phrofiad i chwilio amdanynt.  
  • Gwarantau neu Sicrwydd: Nid ydym yn gwarantu canlyniadau sy'n gysylltiedig ag asesiadau halogiad, ymdrechion adfer, na llwyddiant ceisiadau cynllunio. 
  • Cyngor cyfreithiol: Nid ydym yn darparu cyngor cyfreithiol ynghylch materion halogiad tir na chydymffurfiaeth reoleiddiol.
  • Gwaith Adfer Uniongyrchol: Nid ydym yn cynnal nac yn rheoli'r gwaith adfer ei hun sy'n ofynnol i fynd i'r afael â halogiad.
  • Cymorth Ariannol: Nid ydym yn darparu cyllid na chymorth ariannol ar gyfer ymchwiliadau safle neu weithgareddau adfer.
  • Cymeradwyo adroddiadau nad ydynt yn cydymffurfio: Nid ydym yn cymeradwyo adroddiadau na chynlluniau nad ydynt yn bodloni'r safonau neu'r canllawiau gofynnol. 
  • Datgelu Gwybodaeth Gyfrinachol: Nid ydym yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol am safleoedd neu bartïon eraill heb awdurdodiad priodol.
  • Gwneud penderfyniadau ar Geisiadau Cynllunio: Er bod y Swyddog tir Halogedig yn rhoi mewnbwn technegol i swyddogion cynllunio, nid ydynt yn gwneud penderfyniadau terfynol ar geisiadau cynllunio na rhyddhau amodau cynllunio.