Cyfleoedd gwirfoddoli yn Sir Gâr
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/01/2025
Gall pawb wneud rhywbeth i helpu bioamrywiaeth - gall camau bach gyfrannu at wneud gwahaniaeth mawr. Gallai effeithiau llesol cymryd camau gweithredu fod er lles natur a chithau fel ei gilydd. Gallai camau cadarnhaol gynnwys gwirfoddoli gyda grŵp cadwraeth lleol.
Gweler manylion am gyfleoedd gwirfoddoli isod.
Mae'r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn yn elusen yn y DU a arweinir gan wyddoniaeth a sefydlwyd yn 2006 oherwydd pryderon difrifol am 'sefyllfa'r gacynen’.
Gwirfoddolwr Beewalk
Mae angen Beewalkers i gyfrannu at gynllun cofnodi gwyddoniaeth dinasyddion cenedlaethol ar gyfer cacwn. Bydd gwirfoddolwyr yn arolygu trawslun o'u dewis ar gyfer cacwn am ychydig oriau'r mis, unwaith y mis, rhwng mis Mawrth a mis Hydref. Mae'r gwirfoddolwyr yn annibynnol, ac mae angen sgiliau adnabod sylfaenol, ond mae cymorth a hyfforddiant adnabod ar gael am ddim.
Gwirfoddolwr allgymorth yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn
Rydyn ni'n chwilio am wirfoddolwyr cryf eu cymhelliant sy'n angerddol am gadwraeth cacwn i gynrychioli'r ymddiriedolaeth, ymgysylltu â chymunedau a chynnal sgyrsiau a stondinau. Mae croeso i unrhyw lefel o wybodaeth a gallu. Efallai y bydd cyfleoedd i gyfrannu at nifer o brosiectau lleol gan gynnwys Natur am Byth, Cysylltu Arfordir Sir Gaerfyrddin a Chacwn Brechfa. Mae hyfforddiant i wirfoddolwyr, costau teithio a chymorth ar gael drwy gytundeb ymlaen llaw. Bydd hyn ar sail ad hoc yn dibynnu ar anghenion prosiectau neu'r cyfle a chapasiti/gallu'r gwirfoddolwyr.
Mae Gwarchod Glöynnod Byw yn gweithio i symud ymlaen at fyd lle gall glöynnod byw a gwyfynod ffynnu.
I gymryd rhan mewn cofnodi glöynnod byw a gwyfynod ar gyfer Gwarchod Glöynnod Byw cysylltwch â Mark Hipkin sy'n gallu argymell rhai ffyrdd o ddechrau arni a chyflwyno cofnodion.
Mae cyfleoedd gwirfoddoli tymor hir ar gael drwy gyfrif wyau'r brithribin brown a chynnal arolygon britheg y gors, a fyddai'n cynnig cyfleoedd i ymuno â grwpiau sefydledig a phrofiadol.
Yn y dyfodol, mae Gwarchod Glöynnod Byw am sefydlu grŵp gwirfoddoli a fydd yn helpu i reoli'r warchodfa Gwarchod Glöynnod Byw yn Cross Hands – cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb.
Byddai angen i bob gwirfoddolwr gofnodi ei fanylion yn gyntaf ar Assemble, sef cymhwysiad a ddefnyddir yn eang gan lawer o elusennau cadwraeth.
Cysylltwch â Mark Hipkin os oes gennych ddiddordeb.
E-bost: mhipkin@butterfly-conservation.org
Ffôn: 07485 372182
Gyda 13 o leoliadau, gan gynnwys chwe Gwarchodfa Natur Leol, ledled y sir, mae cyfleoedd gwirfoddoli cyfyngedig i ymuno â'n grŵp sefydledig o geidwaid gwirfoddol cadwraeth.
Mae'r gweithgareddau'n amrywio o dasgau ymarferol yng nghefn gwlad i godi sbwriel, arolygon bywyd gwyllt, mynychu sioeau teithiol ac ymgysylltu â'r cyhoedd, yn enwedig pobl ifanc. Darperir gwisg ar ôl amser cymhwyso.
Os oes diddordeb cysylltwch â Paul Aubrey, ein Rheolwr Cadwraeth a Gwarchodfeydd Natur.
E-bost: PAubrey@carmarthenshire.gov.uk
Mae cyfleoedd gwirfoddoli yn amrywio at Coed Lleol Sir Gâr, yn dibynnu ar y cyfleoedd sydd ar gael ar unrhyw un adeg. Gall y cyfleoedd gynnwys:
- Clirio llwybrau troed
- codi sbwriel mewn coetiroedd
- clirio llwyni
- plannu coed ac at
- Gosod arwyddion, meinciau, ac ati (gallan nhw gael eu creu gan y gwirfoddolwyr mewn rhai amgylchiadau) a chreu llwybrau cerdded newydd
- Arolygon bywyd gwyllt sylfaenol
Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â Swyddog Prosiect Llesiant Coetiroedd ni Becky Brandwood-Cormack.
E-bost: beckybrandwoodcormack@smallwoods.org.uk
Ffôn: 07786 916954
Rydyn ni'n gweithio yng nghyffiniau Keepers yn Fforest Brechfa i arolygu'r ardal a gwneud rhestr llinell sylfaen o blanhigion, cennau, ffyngau, infertebratau ac adar.
Rydyn ni hefyd yn llunio arolwg cynefin cam un i lywio cynllun rheoli cynefinoedd.
Mae Keepers yn gaban mawr a oedd yn cael ei ddefnyddio gan y gweithwyr coedwigaeth ac sydd bellach yn cael ei ddefnyddio gan y gymuned leol. Mae'n cael ei rentu oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae gan ein gwirfoddolwyr wahanol raddau o wybodaeth a phrofiad, o ychydig iawn i helaeth, ond rydyn ni'n rhannu ein harbenigedd ac yn dysgu gyda'n gilydd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni, cysylltwch â Jan Young.
Sefydlwyd Prosiect Gwiwerod Coch Canolbarth Cymru yn 2002 i warchod y boblogaeth unigryw o wiwerod coch yng Nghanolbarth Cymru; sef un o ddim ond tair poblogaeth o wiwerod coch arwyddocaol yng Nghymru gyfan, a'r unig un i oroesi heb ryddhau rhagor ohonynt.
Mae angen gwirfoddolwyr i gefnogi'r prosiect drwy fonitro trapiau camera, defnyddio a gwirio trapiau byw a mynychu digwyddiadau.
Rydym wastad yn chwilio am wirfoddolwyr i’n helpu i arolygu Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar draws Sir Gâr fel rhan o’n prosiect Partneriaeth Llwybrau gyda Ramblers Cymru a Cyngor Sir Gaerfyrddin.
Beth fyddwch chi'n ei wneud?
- Cwblhau arolygon ar lwybrau penodedig yn eich ardal leol
- Tynnu lluniau o faterion mynediad neu ddodrefn llwybr.
- Rhoi wybod am ganfyddiadau'r arolwg ar y Map Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar-lein (CAMS)
- Cynnal a chadw llwybrau glir (os oes angen) gan ddefnyddio pecyn cymorth a ddarperir.
Mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i'r prosiect hwn a byddwch yn cael eich hyfforddi a'ch cefnogi drwy gydol y prosiect.
Mae Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin yn cynnal digwyddiadau therapiwtig mewn lleoliadau awyr agored naturiol. Mae'r Hwb, a sefydlwyd yn 2022, yn agos at dref Caerfyrddin ac mae'n cynnig canolfan ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys: teithiau cerdded synhwyraidd, teithiau cerdded iechyd, cynnau tân, plethu helyg byw, gofalu am yr ardd gymunedol a mwy!
Ymunwch â gwirfoddolwyr o'r Brifysgol ar eu safle yn eu Hwb Cymunedol Gwyrdd a Llesiant yn Cynefin, Tre Ioan. Gallwch helpu i greu/gwella strwythurau helyg yno a phlannu coed yn yr hydref.
Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â Andrew Williams:
E-bost: a.williams1@uwtsd.ac.uk
Ffôn: 07902 848323
Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru yw un o bedair canolfan cofnodion biolegol ranbarthol Cymru.
Ydych chi'n chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli yn y sector amgylcheddol/cadwraeth ond am weithio gartref?
Mae Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru yn gwmni dielw sy'n cael ei weithredu ar ran y cyhoedd er budd bioamrywiaeth.
Rydyn ni'n chwilio am wirfoddolwyr i helpu i drosglwyddo data o gofnodion papur i fformatau digidol. Mae'r cyfle hwn yn gyfan gwbl o bell ac mae angen mynediad at gyfrifiadur sydd â chysylltiad diogel. Y cyfan fydd ei angen yw eich bod yn gyfarwydd â Microsoft Excel ac yn rhoi sylw mawr i fanylion, a bod gennych sgiliau teipio da ac ychydig o amser sbâr.
Cael profiad gwaith gwerthfawr.
Gwirfoddoli o gartref.
Cyfrannu at gadwraeth drwy ychwanegu at ein cronfa ddata sy'n tyfu, a ddefnyddir gan sefydliadau cyhoeddus a phreifat i lywio'r gwaith o gynllunio polisi a chadwraeth.
Cysylltwch â ni os oes diddordeb:
E-bost: carys@westwalesbiodiversity.org.uk
Ffôn: 01994 241468
Mae Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru yn elusen sydd wedi ymroi i adfer a diogelu afonydd Gorllewin Cymru ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Mae cyfleoedd gwirfoddoli yn cynnwys:
- Digwyddiadau gwaredu jac y neidiwr (tymhorol)
- Codi sbwriel
- Arolygu afonydd
- Mabwysiadu Llednant
- Cyfleoedd ad hoc eraill i adfer afonydd – gweler ein tudalen digwyddiadau.
Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir yw'r elusen adfer gwlyptiroedd, sy'n gweithio i ddatgloi pŵer gwlyptiroedd – a helpu byd natur i ffynnu eto.
Yn Ymddiriedolaeth y Gwlyptir Llanelli gallwch helpu i reoli gwarchodfeydd, ymgysylltu ag ymwelwyr a chynnal a chadw tiroedd.
Elusen annibynnol yw Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru sy'n ceisio achub bywyd gwyllt a mannau gwyllt a gwneud byd natur yn rhan o fywyd, i bawb. Rydyn ni'n gweithio i greu a gwella hafanau bywyd gwyllt, creu tirweddau byw a moroedd byw a rheoli rhai o fannau gwyllt mwyaf gwerthfawr y rhanbarth, o ynysoedd godidog i goetiroedd hynafol.
Mae gennym gyfleoedd gwirfoddoli ymarferol ar gael i helpu i reoli gwarchodfeydd natur Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn y sir, ddwywaith yr wythnos. Mae tasgau arferol yn cynnwys rheoli cynefinoedd fel prysgwydd neu reoli rhywogaethau goresgynnol, a chynnal a chadw ein seilwaith, gan gynnwys llwybrau troed, gatiau a ffensys.
Cysylltwch â Rebecca Killa i fynegi eich diddordeb:
E-bost: r.killa@welshwildlife.org
Ffôn: 07970 780558