Pryfed Peillio
Yn y DU, pryfed peillio planhigion yw’r pryfed sy’n mynd â phaill o un planhigyn i’r llall, gan ei gwneud yn bosibl i ffrwythloni ddigwydd a hynny’n arwain at dwf planhigion newydd. Maent yn hanfodol ar gyfer twf parhaus planhigion yn y gwyllt.
Mae pryfed peillio yn hanfodol ar gyfer cynnal a chadw ein hecosystemau trwy beillio planhigion gwyllt sy'n sail i'r mwyafrif o gynefinoedd. Hefyd mae pryfed peillio yn hollbwysig yng nghynhyrchiad llawer o gnydau, gan gyfrannu at economi'r DU. Mae pryfed peillio o werth cynhenid yn eu rhinwedd eu hunain fel rhan o’n treftadaeth naturiol, ac mae rhai rhywogaethau, megis gwenyn a gloÿnnod byw, yn cael eu gwerthfawrogi’n eang gan y cyhoedd.
- Yn ogystal â gwenyn, gall gloÿnnod byw, gwyfynod, pryfed hofran a chwilod helpu i beillio blodau.
- Mae gwenyn mêl yn glanio ar 2000 o flodau'r dydd i gasglu paill a neithdar
- Yn Sir Gaerfyrddin cynhyrchodd gwenyn mêl tua 45 tunnell o fêl yn 2017!
- Fodd bynnag, mae’r pryfed pwysig hyn dan fygythiad o achos nifer o ffactorau gan gynnwys colli cynefinoedd, rheoli tir yn ddwys, plaladdwyr a chlefydau.
Mae'r Cyngor yn ceisio cymryd camau cadarnhaol dros bryfed peillio ar draws y tir mae'n ei reoli.
- Mae rhai o'r ymylon ffyrdd mae priffyrdd yn eu rheoli yn cael eu torri'n hwyr, er mwyn i'r blodau hadu cyn cael eu torri.
- Rydym ni'n gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn ar hyd ein harfordir i wella mannau gwyrdd lleol ar gyfer rhywogaethau cacwn.
- Mae rheolwyr y Gwarchodfeydd Natur Lleol yn ceisio rheoli ardaloedd ar gyfer pryfed peillio. Yng Ngwarchodfa Natur Morfa Berwig, mae rheoli cynefinoedd tir llwyd cyfoethog eu rhywogaethau yn hwb i amrywiaeth fawr o bryfed peillio, gan gynnwys y gardwenynen lwydfrown.
- Mae gyda ni bellach Strategaeth ar gyfer rheoli ein glaswelltir amwynder ar gyfer pryfed peillio, a fydd yn cael ei rhoi ar waith dros y blynyddoedd nesaf.
- Rydym ni'n rhan o ymgyrch Mai Di Dor ac yn annog eraill i wneud.
Torri Porfa - Amwynder ar ystâd Sir Gaerfyrddin - 2025
Dros amser mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn newid y ffordd y mae'n rheoli ei laswelltir amwynder mewn rhai mannau. Mae Cabinet y Cyngor wedi cytuno ar bolisi a fydd yn cael ei weithredu dros y blynyddoedd nesaf.
Yn ystod tymor torri'r borfa (Ebrill-Hydref – yn gyffredinol) bydd ardaloedd yn cael eu torri mewn un o dair ffordd:
Toriad Amwynder - Ardaloedd trwm eu defnydd yn cael eu torri bob 2 wythnos a'r borfa yn cael ei gadael ar y ddaear. Mae’r ardaloedd hyn yn cynnwys:
- pob cae chwaraeon,
- ymylon ein llwybrau a llwybrau beicio a llwybrau tarw,
- llwybrau o fewn ardaloedd Neithdar a Dolydd (gweler isod), gan sicrhau bod yr ardaloedd hyn yn parhau i fod yn hygyrch i bobl, a'u galluogi i fwynhau'r ardaloedd hyn a'r byd natur y maent yn ei gynnal,
- ardaloedd sy'n dechnegol anaddas ar gyfer toriad neithdar neu ddôl oherwydd materion megis llethr, a draenio,
- tir i'w ddatblygu; tir sy'n cael ei reoli'n benodol ar gyfer datblygiad hyd nes y bydd y datblygiad yn dechrau.
Toriad Neithdar - Bydd safleoedd dynodedig yn cael eu torri ar gylch 6 wythnos, gan ganiatáu i blanhigion blodeuol byr gwblhau eu cylch blodeuo llawn a chynyddu'r neithdar sydd ar gael i bryfed.
- Mae'r safleoedd hyn yn cynnwys ardaloedd addas o fewn safleoedd Tai, tai gwarchod, adeiladau cyhoeddus a mannau agored cyhoeddus.
- Uchder torri: caiff y llafn ei osod ar uchder sy'n caniatáu i blanhigion isel sydd yn eu blodau basio o dan lafnau – 2.5-5 cm.
- Cadw golwg 'dan reolaeth' wrth ymyl llwybrau drwy dorri ystod 1m o borfa fyr ochr yn ochr ag ymyl unrhyw lwybr.
- Mae'r dull rheoli yn golygu y bydd rhai rhywogaethau blodeuol yn dal i gael eu torri ond, dros y tymor, bydd yn dal i fod yn fudd net i bryfed peillio.
- Bydd y toriadau yn cael eu casglu i leihau cynnwys maethol y pridd. Bydd hyn yn annog planhigion blodeuol ac yn ceisio atal glaswellt toreithiog.
- Naill ai mae'r toriadau'n cael eu cludo o'r safle i safle gwastraff gwyrdd, yn cael eu gadael fel pentyrrau cynefin os gellir dod o hyd i leoliadau addas ar y safle, neu mewn safleoedd compostio a grëwyd ar y safle sy'n addas i raddfa'r safle.
Toriad Dôl - Safleoedd / ardaloedd cytunedig i'w rheoli fel dolydd – a'u torri ddwywaith y flwyddyn ym mis Mawrth/Ebrill ac Awst/Medi.
- Mae'r safleoedd hyn yn cynnwys ardaloedd addas o fannau agored cyhoeddus neu ardaloedd o fewn iddynt.
- Cadw golwg 'dan reolaeth' wrth ymyl llwybrau drwy dorri ystod 1m o laswellt byr ochr yn ochr ag ymyl unrhyw lwybr.
- Os oes angen, torri llwybrau priodol drwy'r safle.
- Mae casglu'r toriadau yn rhan hanfodol o'r broses. Mae'n cael gwared ar faetholion, yn gostwng ffrwythlondeb y pridd ac yn atal haen o laswellt marw sy'n atal tyfiant hadau blodau gwyllt. Dros amser, mae canran y glaswellt yn gostwng a bydd canran y blodau gwyllt yn cynyddu.
- Wrth wneud y newidiadau hyn byddwn hefyd yn rhoi'r gorau i dorri glaswellt o dan ganopi coed, oni bai bod llwybrau'n croesi'r ardaloedd hyn (fel uchod).
Monitro
Byddwn yn monitro canran o ardaloedd er budd bioamrywiaeth yn unol â methodoleg safonol bob blwyddyn. Bydd gofynion adnoddau ariannol a staff hefyd yn cael eu monitro a'u hadolygu. Bydd canlyniadau'r holl fonitro yn llywio sut y mae'r cynllun yn datblygu ac yn cael ei weithredu. Os hoffech chi helpu i fonitro'r planhigion blodeuol ar safle, rhowch wybod i ni.
Cwynion a chanmoliaeth
Bob blwyddyn rydyn ni'n cael cwynion a chanmoliaeth gan y cyhoedd am sut neu pryd rydyn ni'n torri porfa.
Rydyn ni'n agored i ychwanegu ardaloedd newydd o borfa i'r cynllun ar unrhyw adeg. Ond, gall torri porfa mewn ffordd wahanol effeithio ar batrymau gwaith ac adnoddau. Felly, efallai y bydd angen aros tan ddechrau'r tymor tyfu nesaf cyn cynnwys ardaloedd newydd yn y cynllun, tra bod adran berthnasol y Cyngor a'r tîm Chynnal a Chadw Tiroedd yn ystyried y mater.
Byddwn hefyd yn edrych eto ar ein ffordd o dorri porfa os ydyn ni'n cael cwynion a'u bod yn achosi problem fawr.
Yn y pen draw, bydd yr holl ardaloedd porfa sydd dan reolaeth y Cyngor yn cael eu torri mewn un o'r tair ffordd hyn. Rydyn ni'n gobeithio y bydd cyrff cyhoeddus eraill a Chynghorau Tref a Chymuned yn dilyn y ffordd hon o weithio.

Cwestiynau Cyffredin
Rydym wedi gwneud ein gorau i ateb enghreifftiau o'r cwestiynau mwyaf cyffredin.