Diwrnod Sgiliau Beic Modur
Diweddarwyd y dudalen ar: 22/04/2025
Ymunwch â ni ar gyfer Diwrnod Sgiliau Beic Modur sydd wedi'i neilltuo i wella diogelwch beicwyr modur yn Sir Gaerfyrddin! Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn cynnwys sesiynau rhagflas diddorol a chyfleoedd i ryngweithio â sefydliadau sy'n canolbwyntio ar wella eich sgiliau gyrru beic modur.
Cewch gyfle i ddysgu gan hyfforddwyr ar ôl pasio prawf o Dragon Rider Cymru, grwpiau gyrru beiciau modur lleol o safon uwch RoSPA a Sefydliad y Gyrwyr Safon Uwch (IAM), â gallwch gymryd rhan yn y cwrs Biker Down! Cymru.
Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal yn FU3L Tank (Rhydaman).
Nod y Diwrnod Sgiliau Beic Modur yw cynnal digwyddiad diddorol, addysgiadol a phleserus sy'n meithrin diwylliant o ddiogelwch ymhlith beicwyr modur yn Sir Gaerfyrddin a'r ardaloedd cyfagos. Trwy cydweithio â sefydliadau ag enw da, rydym yn gobeithio darparu sgiliau a gwybodaeth werthfawr a fydd o fudd i bob un sy'n cymryd rhan.
Manylion y Digwyddiad:
Dyddiad: Dydd Sul, 25 Mai
Amser: 9:30 AM – 1:30 PM (Cwrs Biker Down! Cymru dewisol rhwng 2 a 5 PM)
Cost: Am ddim (Mae archebu lle yn hanfodol gan mai nifer cyfyngedig o leoedd ar gael)
Lleoliad: FU3L TANK, Rhydaman.