RideFree – Hyfforddiant Sylfaenol Gorfodol Uwch

Wedi'i gynllunio i greu beicwyr ifanc mwy diogel, mwy cyfrifol.

Mae'r hyfforddiant RideFree cynhwysfawr hwn wedi'i strwythuro'n dair lefel gynyddol. Wedi'i datblygu gyda chefnogaeth lawn yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA), mae'r rhaglen hon yn annog beicwyr sy'n dysgu i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain wrth ennill profiad hanfodol ar y ffordd.

Lefel 1 – E-ddysgu ar-lein (Gartref)

Mae RideFree yn dechrau gyda modiwl e-ddysgu rhyngweithiol 2 awr, wedi'i gynllunio i'w gwblhau gartref, yn eich amser eich hun.

Mae'r modiwl hwn yn cynnwys:
Trosolwg o'r Hyfforddiant Sylfaenol Gorfodol
Mewnwelediad i Reolau'r Ffordd Fawr a sylwi ar beryglon
Deall sut mae ymddygiad beiciwr yn effeithio ar ddiogelwch

Cofrestrwch ar gyfer RideFree Lefel 1 

 

Lefel 2 – Hyfforddiant Sylfaenol Gorfodol (Diwrnod Ymarferol 1)

Ar ôl cwblhau Lefel 1, mae dysgwyr yn mynychu sesiwn Hyfforddiant Sylfaenol Gorfodol. 

Mae'r hyfforddiant ymarferol diwrnod llawn hwn yn adeiladu ar yr e-ddysgu ac yn cynnwys:
Rheolaeth sylfaenol ar feic modur 
Ymarfer diogelwch amser real

Archebwch drwy Ganolfan Hyfforddiant Sylfaenol Gorfodol gymeradwy'r DVSA  

 

Lefel 3 – Hyfforddiant 4 awr ar y ffordd (Diwrnod Ymarferol 2)

Mae cam olaf y cwrs RideFree yn sesiwn 4 awr ar y ffordd, gydag o leiaf 3 awr o amser ar y beic.

Mae'r amser estynedig hwn ar y ffordd yn amhrisiadwy. Mae'n helpu dysgwyr i:
Nodi ac ymateb i'r prif 10 achos damweiniau beiciau modur
Defnyddio technegau beicio diogel yn gyson mewn senarios byd go iawn
Cynyddu eu hyder a'u hymwybyddiaeth ar y ffordd


Anogir beicwyr i ddefnyddio'u beic modur eu hun a rhaid eu bod rhwng 16 a 25 oed.

Mae tystysgrif cwblhau yn cael ei rhoi ar ddiwedd pob lefel a rhaid ei dangos er mwyn symud ymlaen i lefel 3. Rhaid i ymgeiswyr gwblhau Lefel 1 a Lefel 2 cyn cofrestru ar gyfer Lefel 3. Er ein bod yn annog ymgeiswyr i gwblhau Lefel 1 cyn Lefel 2, gellir ei gwblhau wedyn.

Faint mae'r cwrs yn ei gostio?

Mae RideFree Lefel 3 ar gael i bobl sy'n byw neu'n gweithio yn Sir Gaerfyrddin yn unig ac mae'n RHAD AC AM DDIM.

Argaeledd cyrsiau

Ar ôl llenwi'r ffurflen archebu isod, bydd eich manylion yn cael eu trosglwyddo i'n hyfforddwyr, a byddan nhw'n trefnu dyddiad, amser a man cyfarfod addas i chi ac ail ymgeisydd gwblhau cwrs RideFree. 

Gwnewch gais am le ar RideFree Lefel 3