Ceir Cefn Gwlad
Diweddarwyd y dudalen ar: 11/06/2025
Ceir Cefn Gwlad yw gynllun rhannu ceir lle mae cymunedau’n trefnu bod gyrwyr gwirfoddol yn roi lifft i bobl na fyddent fel arall yn gallu mynd ar deithiau hollbwysig. Lluniwyd cynllun Ceir Cefn Gwlad yn gynllun wrth gefn i’r ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus, gan ddarparu cysylltiadau â bysiau, trenau neu wasanaeth cludo o ddrws i ddrws pan fo angen, i ateb anghenion unigol ac achlysurol.
Ydych chi'n gymwys?
Fe allwch chi ei ddefnyddio, ar yr amod bod eich taith yn hanfodol ac nad oes gennych unrhyw fodd rhesymol arall o wneud y daith. Ni all Ceir Cefn Gwlad gystadlu â mathau eraill o gludiant, yn enwedig gwasanaethau bws, tacsi a thrên lleol a chludiant a ddarperir gan gyrff eraill megis Gwasanaeth Gofal Cleifion y Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Cysylltwch a ni ar 01267 234567 i ateb cwpwl o cwestiynau i darganfod os rydych yn cymwys i ddefnyddio'r Gwasanaeth Ceir Cefn Gwlad.
I newid neu ganslo taith, cysylltwch â'ch gyrrwr neu cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol drwy ffonio 07585 997091