Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd

Adnoddau Gwasanaeth dros y Gaeaf

Offer a Cherbydau

Mae gan yr awdurdod ei fflyd ei hun o gerbydau arbenigol ac offer lledaenu halen. Mae cerbydau yn barod bob gaeaf i ledaenu halen yn gyflym ar y briffordd pan fo angen. Mae'r fflyd yn cael ei rheoli a'i chynnal ac mae cerbydau newydd yn cael eu prynu yn lle'r hen rai pan fydd arian yn caniatáu, gan fuddsoddi mewn offer o'r radd flaenaf i sicrhau bod halen ffordd yn cael ei ledaenu'n gywir ac yn effeithlon.

Fel arfer, mae'r fflyd yn cynnwys tua 19 cerbyd, gall y rhain fod yn gerbydau graeanu gyda darnau cyfnewid neu'n gerbydau graeanu undarn. Yn ogystal, mae gan yr awdurdod chwythwr eira wedi'i osod ar dractor y gellir ei ddefnyddio yn ystod amodau difrifol.

Personél gweithredol

Mae gan yr awdurdod gronfa sylweddol o adnoddau staff ar waith bob gaeaf i ddarparu gweithrediad 24 awr pan fo angen. Fel arfer, mae gennym oddeutu 78 o weithwyr wedi'u hyfforddi'n llawn ar ddechrau pob tymor gaeaf, ond gall y nifer hwn amrywio bob blwyddyn yn unol â'r lefelau gwasanaeth gofynnol.

Yn ogystal â gyrwyr graeanu, mae tîm rheoli fflyd yr awdurdodau ar waith i gefnogi'r is-adran priffyrdd wrth gynnal a chadw ei fflyd raeanu, gan ddarparu gwasanaethu a rhoi sylw i ddiffygion a cherbydau sy'n torri i lawr. Mae tua 8 peiriannydd wedi'i hyfforddi ar waith drwy gydol y tymor.

Cyflenwad Halen

Cyfarwyddir Awdurdodau Lleol gan Lywodraeth Cymru i gadw isafswm stoc halen ar ddechrau tymor y gaeaf i sicrhau y gall pob awdurdod priffyrdd ddarparu ymateb cadarn i dywydd gaeafol hirdymor. Mae hyn yn cael ei gyfrifo trwy luosi’r defnydd cyfartalog dros 6 mlynedd ag 1.5. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw oddeutu 12,600 tunnell o halen ar ddechrau'r gaeaf, y mae'r rhan fwyaf ohono o dan do mewn ysguboriau halen. Ein nod wedyn yw ailgyflenwi lefel stoc i gynnal gallu a chydnerthedd gan gydgysylltu â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eraill ar draws Cymru.

Mae Sir Gaerfyrddin yn defnyddio halen graig 6mm a brynir drwy dendr fframwaith Cymru gyfan Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflenwad halen ac mae'n rhan o Gronfa Halen Cymru, sy'n penderfynu yn ôl blaenoriaeth faint o halen gaiff awdurdodau lleol pan fydd y tywydd yn arw.

Mae capasiti Storio Halen Ffyrdd y Sir fel a ganlyn:

Lleoliad y depo Math o storio - Mewn ysguboriau (tunelli) Math o storio - pentwr stoc wedi'i orchuddio (tunelli) Cyfanswm (tunelli)
Caerfyrddin 2,500 400 2,900
Cross Hands 5,700   5,700
Llanymddyfri 4,000   4,000
Cyfanswm 12,200 400 12,600