Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd
Yn yr adran hon
- Trosolwg - Tywydd Garw
- Gwybodaeth am y Tywydd
- Rheoli Adnoddau
- Digwyddiadau Storm
- Llifogydd
- Gwyntoedd Cryfion
- Gwres Eithafol
- Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf
- Rheoli Gwasanaethau dros y Gaeaf
Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf
Nod y Cyngor Sir yw darparu Gwasanaeth Cynnal a Chadw dros y Gaeaf a fydd, i'r graddau y mae hynny'n bosibl, yn caniatáu i draffig cerbydau deithio'n ddiogel ar hyd rhannau strategol bwysig o'r rhwydwaith priffyrdd gan sicrhau y ceir cyn lleied â phosibl o oedi a damweiniau oherwydd tywydd garw.
Sir Gaerfyrddin sydd â'r rhwydwaith priffyrdd ail fwyaf yng Nghymru a phan ragwelir tywydd gaeafol, mae'n hanfodol ein bod yn rhagwasgaru halen ar ein prif rwydwaith cyn tymereddau rhewllyd.
Ein dyletswydd (Deddf Priffyrdd 1980 A41 1A)) yw:
'...sicrhau, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, nad yw eira neu iâ yn peryglu teithio diogel ar hyd y priffyrdd.'
Mae'r ymadrodd 'rhesymol ymarferol' yn amod pwysig sy'n cydnabod nad yw'r ddyletswydd yn absoliwt, na all Awdurdodau Priffyrdd drin rhwydwaith ffyrdd cyfan pan ragwelir tywydd garw, ac y bydd angen i Awdurdodau Priffyrdd fabwysiadu dull cytbwys o ran rhesymoldeb ac ymarferoldeb yn unol â'r adnoddau sydd ar gael.
Caiff yr holl swyddogaethau gweithredol sy'n digwydd ar briffyrdd Sir Gaerfyrddin eu gwneud yn bennaf gan y Gwasanaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth, sy’n rhan o'r Adran Lle a Seilwaith y Cyngor Sir. Mae hyn yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru sef yr Awdurdod Priffyrdd ar gyfer Cefnffyrdd yn Sir Gaerfyrddin. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gydag awdurdodau cyfagos gyda threfniadau trawsffiniol cilyddol ar waith ar nifer fach o ffyrdd i sicrhau gwasanaeth cyson i'r cyhoedd sy'n teithio.
Cofnodir y cyfrifoldebau trefniadol a'r gweithdrefnau gweithrediadol yng Nghynllun Ansawdd Gwasanaeth Cynnal a Chadw Dros y Gaeaf yr Adran, sy'n cydymffurfio â safon ISO 9001.
Mae dull y Cyngor Sir tuag at Wasanaeth dros y Gaeaf yn cydnabod argymhellion a gynhwysir yn y Côd Ymarfer Cenedlaethol (Seilwaith Priffyrdd a Reolir yn Dda) a'r canllawiau manwl a ddarperir gan Grŵp Ymchwil y Gwasanaeth Cynnal a Chadw Dros y Gaeaf 'Canllaw Ymarfer i Wasanaeth dros y Gaeaf'.
Un o'r risgiau allweddol i ddefnyddwyr y ffordd yn ystod y gaeaf yw iâ sy'n ffurfio ar wyneb y ffordd. Bydd dŵr yn rhewi i ffurfio rhew ar 0°C ond mae presenoldeb halen ffordd yn yr hydoddiant yn gostwng y pwynt rhewi i atal rhew rhag ffurfio. Pan fydd y tymheredd yn cwympo'n is na -7℃, mae'r halen yn llai effeithiol.
Mae elfen allweddol o'r Gwasanaeth dros y Gaeaf yn seiliedig ar ledaenu halen yn effeithlon ar wyneb y ffordd cyn tymereddau rhewllyd. Mae hyn yn cael ei wneud gan fflyd o gerbydau graeanu sydd wedi'u lleoli mewn mannau strategol ledled y sir. Gellir lledaenu tua 140 tunnell o halen ar y Prif Rwydwaith mewn un driniaeth. Mae'r Cyngor Sir yn ymwybodol o'i rwymedigaethau cynaliadwyedd, cyfrifoldebau ariannol a'i ddyletswyddau diogelwch a'i nod yw sicrhau bod triniaethau graeanu yn effeithlon, yn effeithiol ac yn angenrheidiol mewn perthynas â'r amodau tywydd a ragwelir.
Mae dyfais tracio system leoli fyd-eang (GPS) ym mhob cerbyd er mwyn gallu monitro'i leoliad ar y llwybr graeanu a monitro pa ffyrdd sydd wedi cael eu trin. Mae dyfeisiau llywio llwybr graeanu wedi'u gosod ar gerbydau i wella gwybodaeth gyrwyr a llwybro. Fel arfer, caiff triniaethau rhagofalus eu cwblhau mewn llai na 3 awr ar gyfer pob llwybr ac o leiaf 1 awr cyn i'r peryglon ffyrdd a ragwelir ffurfio.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod ffyrdd y Prif Rwydwaith yn cael eu trin os rhagwelir y bydd iâ ac eira. Mae'r driniaeth hon yn darparu haen sy'n dad-fondio er mwyn sicrhau nad yw iâ ac eira yn glynu wrth wyneb y ffordd ac yn helpu i sicrhau bod y gwaith o glirio'r eira yn fwy effeithiol. Mae gan bob cerbyd graeanu aradr eira pe bai angen clirio eira, a bydd ein gweithrediadau'n blaenoriaethu'r llwybrau priffyrdd allweddol.
Mae rhagor o fanylion ar dudalen we y Cyngor a fydd yn cael ei ddiweddaru ar ddechrau pob tymor gaeaf.