Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd
Yn yr adran hon
Ymateb y gwasanaeth
Mae'r Gwasanaeth Cynnal a Chadw Dros y Gaeaf yn dibynnu ar wasgaru halen yn effeithlon ac yn effeithiol o gerbydau pwrpasol. Mae halen neu raean neu gyfuniad o'r ddau yn lleihau effeithiau iâ ac eira cywasgedig.
O 1 Hydref hyd at 30 Ebrill bob blwyddyn, mae'r Cyngor Sir yn tanysgrifio i wasanaeth rhagolygon tywydd arbenigol ar y ffyrdd. Yn gyffredinol mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei gaffael drwy gontract fframwaith Cymru gyfan ac mae'n darparu gwasanaeth rhagweld y tywydd sy'n cwmpasu awdurdodau cyfagos megis Sir Benfro, Ceredigion, Powys, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae'r gwasanaeth ar ffurf rhagolwg treigl 36 awr a drosglwyddir fel arfer bob dydd am hanner dydd, wedi'i ategu gan ddiweddariadau bore a chyda'r nos a rhagolwg treigl o 2-10 diwrnod sy'n cael ei ddiweddaru bob dydd. Mae'r gwasanaeth hefyd yn darparu cyfleusterau ymgynghori â rhagolygwr y tu allan i oriau swyddfa.
Darperir rhagolygon ar gyfer llwybrau unigol sy'n caniatáu i Swyddogion ar Ddyletswydd gael mynediad at ragolygon cyfredol ar sail llwybrau a gwybodaeth fanwl am dywydd drwy system reoli ar y we.
Gyda'r hwyr ac yn ystod y penwythnosau, bydd y rhagolygwr yn cysylltu'n uniongyrchol â'r Swyddog ar Ddyletswydd pan fydd angen rhoi gwybod am unrhyw newidiadau o ran y tywydd neu amodau garw. Gall y Swyddog ar Ddyletswydd gysylltu â'r rhagolygwyr tywydd ar unrhyw adeg i drafod amodau'r tywydd yn ychwanegol i'r wybodaeth sydd ar gael drwy'r system reoli ar y we.
Gellir rhannu'r gwasanaeth cynnal a chadw dros y gaeaf yn dri chyfnod penodol, sef: -
CYFNOD YMYLOL – Ni ddisgwylir tywydd mawr | Diwedd Medi ac ail hanner Ebrill |
CYFNOD ISEL – Tywydd mawr yn bosibl | Hanner cyntaf mis Hydref a hanner cyntaf Ebrill |
CYFNOD UCHEL - Gellir yn rhesymol ddisgwyl tywydd mawr | Canol Hydref tan ddiwedd Mawrth |
Enwebir Swyddog ar Ddyletswydd wrth gefn bob dydd drwy gydol y 'Cyfnod Uchel' (canol Hydref tan ddiwedd Mawrth)ac mae'n gyfrifol am benderfynu bob dydd ar y camau sy'n briodol yn ôl rhagolygon a'r amodau ar ffyrdd y sir. Y tu allan i oriau'r swyddfa gellir cysylltu â'r Swyddog ar Ddyletswydd drwy ffonio llinell argyfwng arbennig drwy system awtomatig sy'n trosglwyddo galwadau.
Mae'n ofynnol i Swyddogion ar Ddyletswydd adolygu'r rhagolygon tywydd a phenderfynu ar y camau priodol i'w cymryd gan gyfeirio at y tywydd a'r amodau ffyrdd cyffredinol. Croesgyfeirir y penderfyniadau triniaeth wrth i ragolygon wedi'u diweddaru ddod i law. Dewisir y driniaeth angenrheidiol ar lwybr penodol yn unol â'r peryglon ffyrdd a ragwelir ac yn unol â'r canllawiau cyfradd lledaenu a gyhoeddir gan Grŵp Ymchwil y Gwasanaethau Cynnal a Chadw Dros y Gaeaf.
Bydd swyddogion ar ddyletswydd hefyd yn cael eu llywio yn eu rheolaeth weithredol a'u penderfyniadau gan ddata a ddarperir gan y gorsafoedd tywydd sydd wedi'u lleoli yn y Sir a gallant ystyried lefelau halen presennol ar wyneb y ffordd (yn dilyn cyfnodau o raeanu dro ar ôl tro). Mae'r wybodaeth o'r gorsafoedd tywydd yn cael ei holi gan y Swyddog ar Ddyletswydd drwy wasanaeth gwe-fiwro. Mae'r gorsafoedd tywydd hefyd yn cynnwys camerâu i ddarparu delweddau byw o amodau ffyrdd a'r tywydd.
Bydd y Swyddog ar Ddyletswydd yn ymwybodol o'r ddyletswydd i reoli risg tra hefyd yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau. Bydd Swyddogion ar Ddyletswydd hefyd yn ymwybodol y gallai gorddefnyddio halen gael effaith niweidiol ar yr amgylchedd.
Mae'r Cyngor Sir yn gweithio'n agos gydag Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru a Phartneriaeth Ardal y Gorllewin i drin y Cefnffyrdd yn Sir Gaerfyrddin. Asiant Cefnffyrdd De Cymru sy'n gyfrifol am ragweld a gwneud penderfyniadau ynghylch trin y Cefnffyrdd ac mae'r tîm Priffyrdd a Thrafnidiaeth yn gweithredu'r driniaeth yn unol â'r amserlen a bennwyd. Caiff hyn ei wneud drwy ddefnyddio cyfuniad o gerbydau graeanu Llywodraeth Cymru a'r Cyngor Sir gan weithredu o ddepos yng Nghaerfyrddin, Cross Hands, Pont Abraham a Llanymddyfri a Graeanwyr Cyngor Sir Penfro fel rhan o Bartneriaeth Rhanbarth y Gorllewin.