Beth yw AutoNinja?

Bob blwyddyn, mae tua 30,000 o bobl yn cael eu lladd neu'n cael anafiadau sy'n newid eu bywydau ar ein ffyrdd. Mae bron pob un o'r gwrthdrawiadau hyn yn rhai y gellir eu hosgoi.

Ar wahân i anghyfleustra a chost torri i lawr, mae perygl hefyd o fod wedi’ch gadael ar ochr y ffordd.

Mae pobl yn gwneud camgymeriadau, ac mae'n amhosibl atal gwrthdrawiadau yn llwyr, ond mae angen i bum peth allweddol ddigwydd os ydym am osgoi marwolaethau ac anafiadau difrifol sy'n deillio ohonynt:

  • Cyflymderau diogel
  • Defnyddio'r ffordd yn ddiogel  (h.y. peidio â thecstio a gyrru/cerdded)
  • Ymateb brys da
  • Ffyrdd diogel (h.y. arwyddion, rhwystrau, goleuadau)
  • Cerbydau diogel (Dyma lle mae AutoNinja yn chwarae rhan)

Pan fydd yr holl elfennau diogelwch yn gweithio gyda'i gilydd, mae'r siawns o wrthdrawiad sy'n newid bywyd yn cael ei leihau'n sylweddol. Mae AutoNinja yn adnodd i helpu perchnogion i ddewis a chynnal cerbydau mwy diogel - pethau fel technoleg ddiogelwch, gwiriadau ceir a thasgau cynnal a chadw sylfaenol.