Clinigau Archwilio Diogelwch Seddi Ceir i Blant
Diweddarwyd y dudalen ar: 24/02/2025
Diogelwch Seddi Ceir i Blant
Mae diogelwch seddi ceir i blant yn hanfodol bwysig o ran diogelu plant wrth deithio mewn cerbyd. Yn y DU, rhaid i blant ddefnyddio seddi car plentyn nes eu bod yn 12 oed neu'n 135cm o daldra, pa un bynnag sy'n dod gyntaf. Mae'n hanfodol bwysig sicrhau bod y sedd yn cael ei gosod yn gywir i amddiffyn y plentyn i’r graddau mwyaf posibl mewn achos o wrthdrawiad.
Clinigau Archwilio Diogelwch Seddi Ceir i Blant
I helpu rhieni i sicrhau bod seddi ceir eu plant yn cael eu gosod yn gywir, rydym yn cynnig clinigau archwilio seddi ceir i blant am ddim. Mae’r clinigau hyn yn cael eu cynnal gan ymgynghorwyr seddi ceir i blant achrededig yn y tîm diogelwch ar y ffyrdd, a all wirio:
- Bod y sedd yn addas i'r cerbyd
- Bod y sedd wedi ei gosod yn ddiogel yn y cerbyd
- Bod y sedd yn briodol i'ch plentyn
Yn y clinigau hyn, bydd rhieni hefyd yn cael canllawiau ynghylch dewis y sedd gywir i'w plentyn. Yn 2023, gwiriodd Good Egg Safety 1484 o seddi ceir ledled Prydain Fawr a chanfod bod 65% o seddi ceir plant wedi’u gosod yn anghywir, felly mae’n syniad da mynd i glinig archwilio i wirio bod sedd car eich plentyn wedi’i gosod yn gywir i sicrhau bod eich plentyn mor ddiogel â phosibl wrth deithio.
Dyddiadau clinig:
Mae ein hymgynghorwyr seddi plant achrededig ar gael:
- Dydd Mawrth, 25 Chwefror 2025, 10am – 1pm, Neuadd Y Tymbl
- Sydd Mercher, 26 Chwefror 2025, 10am - 1pm, Ysgol Y Bedol
Canlyniadau
Dyddiad / Lleoliad | Cywir | Mân addasiad | Addasiad mawr | Cyfanswm wedi'i wirio |
---|---|---|---|---|
09/08/24 |
9 | 5 | 7 | 21 |
Gwallau Gosod Cyffredin
Rydym am helpu i sicrhau bod eich plant yn teithio mor ddiogel â phosibl. Dyma’r deg gwall gosod mwyaf cyffredin a ganfuwyd mewn clinigau archwilio seddi ceir i blant blaenorol.
- Harnais llac
- Gwregys llac
- Cynhalydd pen wedi'i gosod yn anghywir
- Gosod gwregys arno mewn modd anghywir
- Uchder harnais anghywir
- Harnais wedi troi
- Sedd plentyn heb ei gosod yn gywir
- Gwregys wedi troi
- Yr handlen gario yn y safle anghywir
- Plentyn yn rhy fach i'w sedd
Trefnwch apwyntiad os ydych yn teimlo bod gan eich sedd car plentyn unrhyw un o'r gwallau gosod cyffredin hyn.