Rhoi gwybod am berygl baglu
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2024
Os oes problem o ran un o'r canlynol ar y palmant / ffordd / llwybr beicio, gallwch roi gwybod inni:
- Slab yn siglo
- Slab wedi torri
- Slab ar goll
- Slab wedi'i godi/suddo
- Gorchuddion y cwteri ar goll
- Craciau ar balmant
- Diffygion o ran lôn feicio
I roi gwybod am unrhyw broblem, byddai'n ddefnyddiol pe baech yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Lleoliad - enw'r stryd / cyfeiriad / tirnod a defnyddiwch y map i leoli neu ddisgrifio'r union leoliad
- Lleoliad y broblem - a yw yng nghanol y ffordd neu'n agos at y palmant/wrth ei ymyl a pha ochr i'r ffordd
- Llun - Gallwch dynnu llun ar eich ffôn clyfar pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a'i lanlwytho