Rhoi gwybod am ffensys / rhwystrau wedi difrodi
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2024
Rydym yn defnyddio rhwystrau a ffensys i amddiffyn pob un sy’n defnyddio’r briffordd, er enghraifft:
- cerddwyr - defnyddio rheiliau rhwng y palmant a ffyrdd
- cerbydau modur - defnyddio rhwystrau diogelwch a llain ganol
Gall ffensys, waliau, rhwystrau a dodrefn stryd ansefydlog wrth ymyl y briffordd gyhoeddus beri risgiau i ddiogelwch y rhai sy'n defnyddio'r briffordd.
I roi gwybod am broblem yn ymwneud â ffens neu rwystr diogelwch, byddai'n hynod ddefnyddiol pe baech yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Lleoliad - enw'r stryd / cyfeiriad / tirnod a defnyddiwch y map i leoli neu ddisgrifio'r union leoliad
- Lleoliad - a yw yng nghanol y ffordd neu'n agos at y palmant/wrth ei ymyl a pha ochr i'r ffordd?
- Math o rwystr neu reiliau - deunydd, lliw, i gerddwyr, ochr y ffordd
- Difrod - disgrifiad o'r difrod ac unrhyw rwystr
- Llun - Gallwch dynnu llun ar eich ffôn clyfar pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a'i lanlwytho