Rhoi gwybod am glawr twll archwilio / draen wedi difrodi
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2024
Draen yn y ddaear sydd wedi'i gorchuddio â grid metel sydd fel arfer wrth ymyl y ffordd yw cwter briffordd. Mae dŵr glaw yn llifo oddi ar wyneb y ffordd i'r cwteri hyn ac yna trwy bibellau a charthffosydd o dan y ddaear. Mae'r rhan fwyaf o gwteri wedi'u cysylltu â charthffosydd cyhoeddus sy'n cludo dŵr budr a dŵr wyneb.
Pwrpas clawr twll archwilio yw atal unrhyw beth neu unrhyw un rhag syrthio i'r twll. Nid cyfrifoldeb yr Awdurdod yw clawr twll archwilio ar dir preifat.
Gallwch roi gwybod am unrhyw un o'r diffygion canlynol yma yn achos gratiau carthffos / gorchuddion twll archwilio a draeniau:
- ar goll
- wedi torri neu ddadleoli
- y math anghywir
- mae gan y clawr arwyneb llithrig, gloyw neu esmwyth
- lefel y clawr wedi codi
I roi gwybod am hyn, byddai'n hynod ddefnyddiol pe baech yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Lleoliad - enw'r stryd / cyfeiriad / tirnod a defnyddiwch y map i leoli neu ddisgrifio'r union leoliad
- Lleoliad - a yw yng nghanol y ffordd neu'n agos at y palmant/wrth ei ymyl a pha ochr i'r ffordd
- Siâp / maint - rhowch gymaint o fanylion â phosibl
- Disgrifiad - beth yw'r broblem
- Llun - Gallwch dynnu llun ar eich ffôn clyfar pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a'i lanlwytho