Rhoi gwybod am oleuadau traffig dros dro diffygiol
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2024
Mae goleuadau traffig dros dro yn cael eu defnyddio ar gyfer ystod o ofynion ar gyfer gwaith safle gan gwmnïau sy'n gweithio ar y briffordd. Gallwch weld y gwaith sy'n mynd rhagddo ar y rhwydwaith ar hyn o bryd yn fyw. Chwiliwch am y stryd y mae eich ymholiad yn ei chynnwys, yna cliciwch ar yr eicon gwaith ar y stryd honno. Byddwch yn cael gwybodaeth am y cwmni sy'n gyfrifol am y gwaith a phwy y mae angen i chi roi gwybod.
I roi gwybod, byddai'n ddefnyddiol pe baech yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Lleoliad - enw'r stryd / cyfeiriad / tirnod a defnyddiwch y map i leoli neu ddisgrifio'r union leoliad
- Lleoliad - lleoliad penodol y goleuadau
- Math - Dros Dro yn unig
- Llun - Gallwch dynnu llun ar eich ffôn clyfar pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a'i lanlwytho