Rhoi gwybod am strwythur ar briffordd
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2024
Fel yr Awdurdod Priffyrdd, y Cyngor sy'n gyfrifol am yr holl Strwythurau Priffyrdd sy'n eiddo i'r awdurdod a / neu sy’n cael eu cynnal ganddo. Cynhelir Arolygiadau Cyffredinol ar bob Strwythur Priffyrdd oddeutu bob dwy flynedd a chaiff rhaglenni cynnal a chadw eu llunio yn unol â hynny.
A fyddech cystal â rhoi gwybod i ni am unrhyw un o'r canlynol ar unwaith:
- Waliau parapet wedi'u difrodi
- Difrod (tanseilio) i’r deunydd a osodir i atal erydiad dŵr i’r strwythur
- Malurion yn blocio / rhwystro dŵr rhag llifo'n naturiol
- Difrod i'r bont ar ôl gwrthdrawiad
- Difrod i'r strwythur yn dilyn storm
- Unrhyw graciau y mae modd eu gweld
I roi gwybod am unrhyw ddiffygion a nodwyd, byddai'n ddefnyddiol pe baech yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Lleoliad Strwythur ac Ardal - enw / cyfeiriad / tirnod stryd a Chyfeirnod Grid o bosibl a gafwyd o system fapio Geodiscover neu gyfwerth
- Math o Strwythur - pa fath o strwythur sydd dan sylw h.y. Bwa Gwaith Maen, Trawst Concrit, Wal gynnal, Cwlfert ac ati
- Achos Difrod - darparwch gymaint o wybodaeth â phosibl
- Cerbyd - darparwch unrhyw wybodaeth/ffotograffau o gerbyd i'n galluogi i adennill costau os achosir difrod yn dilyn gwrthdrawiad â phont
- Llun - Gallwch dynnu llun ar eich ffôn clyfar pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a'i lanlwytho