Hawlen Barcio Fan Geffylau - Pen-bre

Mae cynllun hawlenni parcio wedi'i gyflwyno ar gyfer Heol y Ffatri ym Mhen-bre i hwyluso marchogion drwy greu lle i barcio faniau ceffylau. Mae'r cyfyngiadau hyn yn berthnasol ar BOB Gŵyl y Banc. Nid yw'r hawlen yn golygu y byddwch yn sicr o gael lle parcio ond mae’n helpu i reoli a blaenoriaethu parcio ar gyfer marchogion dim ond yn y lle parcio priodol ac os oes lle ar gael.

Rhoddir Hawlen Barcio Fan Geffylau ar gyfer cerbydau sy'n tynnu fan geffylau neu sy’n gysylltiedig â fan geffylau, neu gerbyd nwyddau canolig neu fawr a gynhyrchwyd neu a addaswyd yn benodol at ddiben cludo ceffyl neu geffylau.

Mae hawlenni'n ddilys am 12 mis. NI fyddwch yn cael nodyn atgoffa.

Dim ond yn ystod yr amseroedd a nodir ym mhob lle parcio y mae’r hawlen yn berthnasol, , ar yr amod bod gennych hawlen ddilys wedi’i harddangos yn glir. Gallwch barcio am hyd at 5 awr yn unig heb ddychwelyd i barcio o fewn 5 awr.

Nid yw hawlen yn caniatáu ichi:

 

Parcio ar y llinellau melyn yn ystod eu hamseroedd gweithredu

Parcio ym Mharc Gwledig Pen-bre

Parcio ym maes parcio Talu ac Arddangos Rotary Way   

Nid yw'n berthnasol i Safle CNC Coedwig Pen-bre.

Rydym yn cadw'r hawl i wrthod neu dynnu hawlenni yn ôl ar gyfer defnyddwyr y canfyddir eu bod yn camddefnyddio'r cynllun.

Anfonir hawlenni drwy'r post. Dylech ganiatáu deg diwrnod gwaith ar gyfer dosbarthu'r hawlen a pheidiwch â pharcio yn y maes parcio â hawlenni tan iddi gyrraedd.

Gwneud cais am hawlen

Gweler isod ein cwestiynau mwyaf cyffredin yn ymwneud â Pharcio i Breswylwyr ar draws Sir Gaerfyrddin. Os nad yw eich ymholiad yn cael ei ateb, yna e-bostiwch Parcio@sirgar.gov.uk  

Rhoddir Hawlen Barcio Fan Geffylau ar gyfer cerbydau sy'n tynnu faniau ceffylau neu sy’n gysylltiedig â fan geffylau, neu gerbyd nwyddau canolig neu fawr a gynhyrchwyd neu a addaswyd yn benodol at ddiben cludo ceffyl neu geffylau.

  • Uchafswm o 2 gerbyd fesul hawlen
  • £20 am bob hawlen
  • Uchafswm o 2 hawlen fesul cartref

Rhoddir yr hawlen ar gyfer cerbyd penodol. Os ydych chi wedi newid cerbyd dros dro am gyfnod o ddim mwy nag wythnos, rhaid i chi gael ein caniatâd ymlaen llaw i ddefnyddio’r hawlen drwy anfon e-bost at parcio@sirgar.gov.uk

GWNEUD CAIS AM HAWLEN

Gallwch wneud cais am adnewyddu eich hawlen hyd at 30 diwrnod cyn i’ch hawlen ddod i ben.

ADNEWYDDU AR-LEIN

Mae'r hawlen yn gysylltiedig â'ch cerbyd, ond rhowch wybod i ni os ydych yn newid cyfeiriad. Does dim angen adnewyddu'r hawlen.

 RHOI GWYBOD I NI

Os ydych yn colli, yn difrodi neu’n dinistrio eich hawlen neu'n newid eich cerbyd a bod angen hawlen newydd arnoch, bydd angen i chi wneud cais o'r newydd. Bydd unrhyw hawlenni newydd a roddir yn ddilys am 12 mis o'i dyddiad cyflwyno. Yn achos newid cerbyd, bydd angen i chi ildio eich hawlen bresennol.

Codir tâl i dalu'r costau gweinyddol sy'n gysylltiedig â chreu hawlen newydd.

I ofyn cwestiwn, e-bostiwch parcio@sirgar.gov.uk

GWNEUD CAIS AM HAWLEN

Os ydych chi wedi newid cerbyd dros dro (am gyfnod o ddim mwy na phythefnos) bydd angen i chi gael caniatâd gennym ni ymlaen llaw i ddefnyddio'ch hawlen.

Os oes angen mwy na phythefnos arnoch, bydd angen i chi gysylltu â'r Gwasanaethau Parcio am gymeradwyaeth.

E-bost: Parcio@sirgar.gov.uk

Os ydych chi'n newid eich cerbyd a bod angen hawlen newydd arnoch, bydd angen i chi wneud cais newydd. Bydd unrhyw hawlen newydd a roddir yn ddilys am 12 mis o'i dyddiad cyflwyno. Yn achos newid cerbyd, bydd angen i chi ildio eich hawlen bresennol.

Codir tâl i dalu'r costau gweinyddol sy'n gysylltiedig â chreu hawlen newydd.

GWNEUD CAIS AM HAWLEN