Galwadau ffôn niwsans a sgamiau dros y ffôn
Diweddarwyd y dudalen ar: 21/11/2024
A yw galwadau ffôn niwsans a sgamiau dros y ffôn yn broblem i chi neu'ch anwyliaid?
Ydych chi wedi bod yn destun sgâm dros y ffôn?
Ydych chi'n poeni y gallech chi faglu neu gwympo wrth ateb y ffôn?
Mae Safonau Masnach yn darparu gwasanaeth atal galwadau niwsans trueCall am ddim i drigolion i'w diogelu rhag sgamiau dros y ffôn!
Y gwasanaeth atal galwadau niwsans trueCall yw'r un mwyaf effeithiol sydd ar gael gan atal 99% o alwadau niwsans ac mae’n un o'r ychydig gynhyrchion sydd wedi derbyn cynigion gan bob un o'r 4 Draig ar gyfres deledu'r BBC Dragons Den!
Mae trueCall yn atal 99% o alwadau niwsans ac mae'r gwasanaeth a ddarperir gan Safonau Masnach yn rhoi hyd yn oed mwy o ddiogelwch a thawelwch meddwl i chi a'ch anwyliaid.
Os ydych o’r farn y byddech chi, ffrind neu aelod o'r teulu sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin yn cael budd o dderbyn y gwasanaeth rhad ac am ddim hwn, gwnewch gais drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein neu cysylltwch â ein swyddog Truecall ar Llesiant Delta ar 01267 228671 neu anfonwch e-bost at safonaumasnach@sirgar.gov.uk.