Gwybod eich hawliau
Diweddarwyd y dudalen ar: 13/02/2024
Wrth i chi brynu nwyddau neu wasanaethau o fusnes, mae'r gyfraith yn eich diogelu drwy eich hawliau statudol.
Os ydych yn anfodlon ynghylch nwyddau rydych wedi eu prynu neu wasanaeth rydych wedi ei dderbyn, gallwch roi gwybod am y mater i Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, a fydd hefyd yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad i chi i'ch helpu gyda'ch cwyn.
Efallai fyddwch hefyd am fynd i'r dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau.
Mae'r canllawiau'n cynnwys cyngor ar rai o'r pynciau canlynol:
- Eich biliau ynni, problemau gyda'ch cyflenwad ynni, a sut i gwyno am eich cyflenwr ynni: Eich cyflenwad ynni - Cyngor ar Bopeth
- Cwyno am eich Gwyliau/Hediadau: Teithio yn Ewrop – Cyngor ar Bopeth
- Prynu car ail-law/trwsio car: Problem gyda char ail-law - Cyngor ar Bopeth
- Problemau gyda phryniad: Dychwelyd nwyddau diffygiol - Cyngor ar Bopeth
- Problemau gyda'ch darparwr Ffôn, Rhyngrwyd neu Deledu: Herio bil ffôn symudol, rhyngrwyd neu deledu - Cyngor ar Bopeth
- Cwynion am welliannau i'r cartref: Problem gyda gwaith adeiladu, addurno neu welliannau i'r cartref - Cyngor ar Bopeth
- Yn dibynnu ar sut rydych chi wedi talu am eich nwyddau neu wasanaethau, os yw pethau'n mynd o chwith, efallai fydd gennych hawl i gael ad-daliad gan eich Banc/Cwmni Cerdyn Credyd: Cael eich arian nôl os taloch chi gyda cherdyn neu PayPal - Cyngor ar Bopeth
- Mae nifer o lythyrau sampl hefyd ar gael ar wefan Cyngor ar Bopeth i'ch helpu i ddatrys eich anghydfod ar bethau fel cwyno am nwyddau diffygiol, gwasanaethau gwael a dychwelyd nwyddau a brynwyd dros y we: Llythyr templed defnyddwyr - Cyngor ar Bopeth