Adran Ddylunio Peirianneg – Lleoliad Profiad Gwaith
Hoffech chi darganfod y byd peirianneg sifil?
Mae’r lleoliad hwn yn rhoi cyfle am profiad ymarferol ar draws amrywiaeth o feysydd allweddol sy’n dod â phrosiectau seilwaith yn fyw.

Oherwydd y gwendid byd-eang yn yr iaith raglennu PHP, rydyn ni'n cael rhai problemau technegol gyda'n ffurflenni ar-lein ar hyn o bryd sy'n golygu nad yw pobl yn gallu cyrchu Fy Nghyfrif na rhoi gwybod am faterion na thalu ar-lein. Mae hefyd yn effeithio ar y systemau y mae ein tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yn eu defnyddio.
Mae posibilrwydd y bydd gwasanaethau ar-lein eraill yn cael eu tynnu i lawr fel mesur rhagofalus dros y dyddiau nesaf. Byddwn yn postio diweddariadau wrth i ragor o wybodaeth ddod i law, gan gynnwys unrhyw newidiadau i argaeledd gwasanaethau.
Rydyn ni'n gweithio i adfer gwasanaethau cyn gynted â phosibl.
Diolch am eich amynedd a'ch cydweithrediad.

Darganfyddwch sut mae prosiectau’n datblygu o gynlluniau i gyflawni, gyda mewnwelediad i heriau peirianneg yn y byd go iawn.
Profiad ymarferol gydag offer safonol y diwydiant, gan weithio ar fodelu 2D a 3D i ddelweddu a phrofi dyluniadau.
Dysgu am arolygu topograffig a chymryd rhan mewn goruchwylio safle i ddeall sut mae dyluniadau’n cael eu gweithredu ar y tir.
Archwilio hanfodion dylunio seilwaith diogel, effeithlon, a chynaliadwy.
Profwch sut mae cleientiaid, contractwyr, a dylunwyr yn cydweithio i wneud prosiectau yn realiti.
Mae hwn yn gyfle gwych i adeiladu sgiliau technegol, am mewnwelediad i’r maes, a gweld yn sut mae peirianwyr yn siapio’r amgylchedd adeiledig.
