Amy
Diweddarwyd y dudalen ar: 10/02/2025
Beth oeddech chi'n ei wneud cyn i chi ymgeisio?
Cyn i mi wneud cais am y rôl Prentis Cymorth Busnes, roeddwn i’n gynorthwyydd addysgu mewn ysgol gynradd am y tair blynedd diwethaf.
Pam wnaethoch chi ymgeisio?
Fe wnes i gais am y rôl Prentis Cymorth Busnes gyda Chyngor Sir Caerfyrddin oherwydd roeddwn i'n teimlo bod angen newid arnaf o weithio mewn amgylchedd ysgol, o weithio mewn clwb ar ôl ysgol am 7 mlynedd ochr yn ochr â'm rôl cynorthwyydd addysgu, ac roedd y cyfle i weithio a dysgu mewn amgylchedd busnes yn ennyn fy chwilfrydedd.
Ym mha dîm rydych chi’n gweithio?
Ar hyn o bryd rwy'n gweithio yn y tîm Lle, Seilwaith a Datblygu Economaidd, gan weithio'n benodol gyda thîm y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol.
Amlinelliad o'r hyn y mae eich swydd yn ei gynnwys.
Mae fy swydd yn cynnwys cefnogi fy nhîm gyda thasgau gwahanol fel cymorth gweinyddol a chyfathrebu drwy gysylltu â chyflogwyr, marchnata a pharatoi digwyddiadau.
Beth yw eich barn am y cymhwyster Gweinyddu Busnes?
Ers dechrau fy nghymhwyster Gweinyddu Busnes, mae wedi bod yn werthfawr dysgu beth mae'r rôl hon yn ei gynnwys a sut y gallaf ddefnyddio fy nysgu yn fy rôl bob dydd. Mae fy nghymhwyster yn cyd-fynd â'm gwaith o ddydd i ddydd gyda fy nhîm lle gallaf helpu gyda thasgau cysylltiedig â gwaith a chwblhau agweddau ar fy mhrentisiaeth hefyd.
Faint o'r iaith Gymraeg ydych chi'n ei defnyddio yn eich rôl?
Yn fy rôl i, gallaf ddefnyddio fy iaith Gymraeg i gefnogi'r tîm mewn gwaith cyfieithu pan fo angen ac rwyf wedi bod yn defnyddio fy sgiliau Cymraeg yn fy ngwaith prentisiaeth, drwy gwblhau rhan o'm prentisiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Beth yw eich hoff ran o'r swydd?
Fy hoff ran o'm swydd yw cael llawer o gyfleoedd i ennill dealltwriaeth o gymorth busnes lle rwyf bob dydd wedi gallu datblygu'n broffesiynol ac yn bersonol yn y rôl hon. Mae gweithio'n agos gyda fy nhîm hefyd wedi bod o fudd o ran yr hyn rwyf wedi'i gyflawni hyd yma yn y rôl hon, ac rwy'n awyddus i ddysgu mwy drwy gydol fy mhrentisiaeth.’