Gwasanaethau Digidol – Lleoliad Profiad Gwaith
Diddordeb mewn TG, datrysiadau digidol, a thechnoleg yn y gweithle?
Mae’r lleoliad hwn yn cynnig profiad ymarferol ar draws ystod eang o wasanaethau TG a digidol.


Cysgodi Swyddogion Digidol, cefnogi datrys problemau caledwedd a meddalwedd, a chymryd rhan mewn ymweliadau safle âg adeiladau corfforaethol ac ysgolion. Gall profiad hefyd gynnwys y Gweithdy TG a throsolwg o’r Ddesg Gymorth TG.
Mewnwelediad i ddatblygu gwefannau, ffurflenni ar-lein, a datblygu cronfeydd data SQL, gan ddysgu sut mae technoleg yn cefnogi gwasanaethau ar draws y sefydliad.
Rhwydweithio, seiberddiogelwch, a rheoli systemau, gyda chyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau dan arweiniad y Tîm Trawsnewid Digidol.
Gweithio gyda staff profiadol ar draws sawl adran, gan gyfrannu at brosiectau TG wrth ymweld â safleoedd gan gynnwys Neuadd y Sir a 3 Stryd Spilman, Caerfyrddin.
Mae’r lleoliad hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sy’n dymuno datblygu sgiliau ymarferol TG a digidol, a sydd eisiau profiad o systemau’r byd go iawn, a deall sut mae technoleg yn cefnogi gweithrediadau sefydliadol.
