Gweithdai Fflyd – Lleoliad Profiad Gwaith
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnal a chadw cerbydau, peirianneg, neu weithrediadau gweithdy?
Mae’r lleoliad hwn yn cynnig profiad ymarferol o gynnal a rheoli fflyd o gerbydau.

Oherwydd y gwendid byd-eang yn yr iaith raglennu PHP, rydyn ni'n cael rhai problemau technegol gyda'n ffurflenni ar-lein ar hyn o bryd sy'n golygu nad yw pobl yn gallu cyrchu Fy Nghyfrif na rhoi gwybod am faterion na thalu ar-lein. Mae hefyd yn effeithio ar y systemau y mae ein tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yn eu defnyddio.
Mae posibilrwydd y bydd gwasanaethau ar-lein eraill yn cael eu tynnu i lawr fel mesur rhagofalus dros y dyddiau nesaf. Byddwn yn postio diweddariadau wrth i ragor o wybodaeth ddod i law, gan gynnwys unrhyw newidiadau i argaeledd gwasanaethau.
Rydyn ni'n gweithio i adfer gwasanaethau cyn gynted â phosibl.
Diolch am eich amynedd a'ch cydweithrediad.

Gweithio ochr yn ochr â thechnegwyr medrus i ddysgu am wasanaethu, diagnosis diffygion, ac atgyweirio amrywiaeth o gerbydau fflyd.
Mewnwelediad i weithrediadau gweithdy, gan gynnwys amserlennu, gweithdrefnau diogelwch, a defnyddio systemau diagnostig a chynnal a chadw.
Cynorthwyo a chysgodi staff profiadol, gan gyfrannu at dasgau dyddiol a deall y llif gwaith sy’n cadw cerbydau’n ddiogel ac yn weithredol.
Mae’r lleoliad hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn peirianneg fecanyddol, technoleg cerbydau, neu weithrediadau trafnidiaeth, gan gynnig profiad uniongyrchol mewn gweithdy proffesiynol.
