Cyfleoedd gwaith ar Ddiwrnod Etholiadau
Yn ystod etholiadau, mae'r swyddfa etholiadau ar ran y Swyddog Canlyniadau yn cyflogi llawer o staff i weithio gyda ni, er enghraifft:
- Swyddogion Llywyddu a Chlercod Pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio. Maent yn gyfrifol am gynnal y bleidlais ym mhob gorsaf bleidleisio. Ar ddiwrnod yr etholiad mae'n ofynnol i staff y gorsafoedd pleidleisio weithio o 6am tan ar ôl 10pm heb adael yr orsaf bleidleisio.
- Byddai staff y cyfrif yn gweithio i gyfri'r pleidleisiau naill ai dros nos ar ôl yr etholiad neu'r diwrnod canlynol
Byddai hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu, a byddwch yn cael cymorth gan staff profiadol.
